Cwmnïau
Dewch yn rhan o'n rhwydwaith o gwmnïau cynnal. Gwellwch gystadleurwydd, twf a datblygiad eich busnes.
Rhwydwaith75/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/13-video-thumbnails/video-network-75-nick-pritchard-mbs.png)
Pam Rhwydwaith75?
Mae Rhwydwaith75 yn darparu hyfforddeion sy'n awyddus i ddysgu ac sydd eisiau tyfu gyda'ch cwmni.
Mae ein tîm yn ymgymryd â'r holl waith recriwtio a gweinyddol, felly cewch eich cyflwyno i hyfforddeion galluog o ansawdd uchel o'ch ardal leol.
O'r cam sefydlu hyd at raddio; mae Rhwydwaith75 yn darparu cymorth parhaus i gwmnïau cynnal a'u hyfforddeion.
/prod01/channel_2/media/subjects-business-demi-niblett-ba-hons-logistics-and-supply-chain-management-14679-850X797.jpg)
Hoffech gynllunio ar gyfer y dyfodol?
Mae ein hyfforddeion yn dod yn weithwyr sy’n gweddu'n berffaith at eich cwmni, gan raddio gyda'r wybodaeth, y sgiliau a'r profiad sydd eu hangen arnoch.
Mae llawer o'n graddau wedi'u hachredu felly bydd eich cwmni'n elwa o'r hyn a addysgir yn y ddarlithfa.
Gellir dod o hyd i Raddedigion Rhwydwaith75 mewn swyddi blaenllaw mewn cwmnïau ledled De Cymru (a'r Byd!). Mae rhai bellach yn arwain ac yn mentora'r garfan ddiweddaraf o hyfforddeion.
Hoffech wybod mwy?
Llenwch ein ffurflen gyswllt a bydd aelod o'r tîm mewn cysylltiad i drafod sut y gall Rhwydwaith75 fod o fudd i'ch busnes!
Cysylltwch â ni!