Pennaeth BA yn agor estyniad gwerth £3.3m i’r Ganolfan Awyrofod
19 Tachwedd, 2015
Mae Cadeirydd Gweithredol British Airways, Keith Williams, yn agor datblygiad newydd gwerth £3.3m yng Nghanolfan Awyrofod Prifysgol De Cymru heddiw.
Bydd Keith Williams yn derbyn doethuriaeth er anrhydedd gan y Brifysgol cyn dadorchuddio'r adeilad deulawr ar gampws Trefforest PDC. Bydd hefyd yn cyflwyno tystysgrifau sy'n cyfrif tuag at drwyddedau peirianneg Asiantaeth Diogelwch Hedfan Ewrop (EASA) ar ran British Airways i'r garfan gyntaf o raddedigion o dan bartneriaeth y brifysgol gyda'r cwmni hedfan.
Mae agor y cyfleuster yn garreg filltir bwysig yn y bartneriaeth unigryw rhwng British Airways a PDC. Yn 2012 llofnodwyd cytundeb allweddol i gyfuno hyfforddiant technegol prif gwmni hedfan premiwm y byd â chadernid academaidd gradd anrhydedd BSc. Mae'r bartneriaeth yn rhoi cyfle i staff y cwmni hedfan ddatblygu eu sgiliau yn y Brifysgol, a chyfle i fyfyrwyr awyrofod gael mynediad at awyrennau go iawn a gwella eu rhagolygon o ran gyrfa tra’n astudio am radd.
Mae'r datblygiad newydd hwn yn gartref i ail hangar adeiladu awyrennau, Jet hyfforddi milwrol Provost T-Mk 3, efelychydd awyrennau a gweithdy cynnal a chadw tyrbin nwy (jet). Hefyd wedi'u cynnwys mae ardal efelychu rhybedu awyrennau, gweithdai offer llaw, ardal weldio, gweithdai cyfansawdd glân a budr ar gyfer sbesimenau ac atgyweiriadau.
Mae gan israddedigion ar gyrsiau gradd Peirianneg Cynnal a Chadw Awyrennau, Peirianneg Awyrofod a Pheirianneg Fecanyddol fynediad at ofod labordy lle gallant ddysgu am systemau afioneg, electronig, hydrolig a niwmatig - sy'n elfennau allweddol o ddarparu profiad ymarferol i fyfyrwyr.
Bydd y cyfleuster yn cryfhau darpariaeth beirianneg y brifysgol ymhellach, sy'n darparu hyfforddiant EASA achrededig o safon ddiwydiannol mewn peirianneg cynnal a chadw awyrennau.
Dywedodd Keith Williams: "Yn gyntaf, ac yn bersonol, rwy'n falch iawn o dderbyn doethuriaeth er anrhydedd gan sefydliad mor uchel ei barch ac rwy'n ddiolchgar iawn i chi am roi'r wobr hon i fi. Ond yn bwysicach fyth, mae'n bleser mawr agor y cyfleuster newydd gwych hwn a fydd o fudd i'r brifysgol, ei myfyrwyr peirianneg, ac unwaith eto, o safbwynt hunanol, British Airways sy'n elwa ar grŵp o fyfyrwyr sydd wedi derbyn tiwtora mor arbennig ac ymarferol! Rydym yn falch iawn o'n cyfleusterau peirianneg yng Nghymru ac yn edrych ymlaen at bartneriaeth barhaus a llwyddiannus gyda'r Brifysgol."
"Mae Prifysgol De Cymru yn falch o'i gwreiddiau: fe'n sefydlwyd gan ddiwydiant, ar gyfer diwydiant, fel colegau arbenigol ar gyfer peirianneg a'r proffesiynau," meddai Is-Ganghellor y Brifysgol, yr Athro Julie Lydon.
"Mae'r bartneriaeth gyda British Airways yn dangos bod y berthynas hon â chyflogwyr yn parhau’n rhan bwysig o’n DNA. Mae'n enghraifft wych o sut mae'r Brifysgol yn trosglwyddo’r wybodaeth ac yn cynnig y profiad sydd eu hangen ar raddedigion i ffynnu yn eu dewis yrfa. Mae’r dathliad hwn heddiw yn nodi cryfder ein perthynas â BA, ond mae hefyd yn arwydd cryf o botensial prifysgolion mawr y DU yn y diwydiant technoleg ryngwladol, ar draws y sectorau.
"Gyda disgwyl i'r farchnad awyrofod dyfu i werth mwy na $60 biliwn y flwyddyn, a gyda Chymru a'r DU yn chwarae rhan bwysig ynddi, rydym yn falch iawn o fod yn anrhydeddu Mr Williams am ei gyfraniad i'r diwydiant. Wrth i ni weithio gyda'n gilydd i ddatblygu'r cyfleuster a'n partneriaeth ac wrth i ni ddarparu graddedigion i weithio ar y genhedlaeth nesaf o awyrennau, mae cyfle i ni hedfan!"