Myfyriwr graddedig Cerddoriaeth PDC yn sicrhau swydd gyda Gŵyl Jazz Aberhonddu
5 Awst, 2021
Mae James O’Neill, myfyriwr Cerddoriaeth Boblogaidd a Masnachol, newydd raddio o Brifysgol De Cymru (PDC) ac mae eisoes yn gweithio ar Ŵyl Jazz Aberhonddu - un o’r gwyliau cerdd rhyngwladol mwyaf llwyddiannus a gynhelir yng Nghymru.
Sicrhaodd James, sy'n hanu o Bont-y-pŵl ac sydd bellach yn byw yng Nghaerdydd, interniaeth gyda'r Ŵyl ychydig cyn gorffen ei astudiaethau.
Yn gynharach eleni roedd yn rhan o'r tîm trefnu ar gyfer Gŵyl Trochi!, digwyddiad blynyddol PDC a gynhelir gan fyfyrwyr Cerddoriaeth, a gynhaliwyd fel profiad amlgyfrwng ar-lein, gan arddangos talent lleol wrth godi arian ar gyfer Ymddiriedolaeth Canser yr Arddegau.
Yn dilyn ymlaen o lwyddiant Trochi!, neidiodd James ar y cyfle i helpu curaduron Gŵyl Jazz Aberhonddu gyda digwyddiad 2021.
Ers dechrau'r rôl mae wedi ennill profiad mewn cyfathrebu a chwilota galluoedd technolegol lleoliadau o ystyried y cyfyngiadau cyfredol, a bydd hefyd yn ymwneud ag ochr gynhyrchu'r digwyddiad gyda'i berfformiadau byw, rheolaeth dechnegol ac ôl-gynhyrchu.
“Mae hwn wedi bod yn brofiad hyfryd i fod yn rhan o’r Ŵyl gan ei fod yn ddigwyddiad mor enwog,” meddai James, sydd hefyd yn perfformio fel cerddor yn ei amser hamdden.
“Mae'r cwrs gradd wedi rhoi cipolwg i mi ar y diwydiant na fyddwn erioed wedi'i gael fel un sy’n breuddwydio bod yn seren roc o'r cymoedd. Rwyf wedi dysgu llawer am wahanol arferion cyfraith cerddoriaeth; sut i ddatblygu gyrfa bortffolio cynaliadwy, a chymaint o wahanol setiau sgiliau sy'n berthnasol i wahanol sectorau o'r diwydiant - o berfformiad i gynhyrchu, ysgrifennu caneuon i fusnes, rheoli digwyddiadau a phopeth rhyngddynt."
Dywedodd James mai PDC oedd y dewis amlwg iddo astudio Cerddoriaeth: “Mae’r cwrs yn cynnig cymysgedd gwych o gyfleoedd dysgu ac amrywiad modiwl, ac mae cyfleusterau PDC yn newydd sbon ac yn cyrraedd safon y diwydiant. Roedd hefyd yn golygu y byddai gen i gysylltiadau â lleoliadau lleol yng Nghaerdydd a'r cyffiniau, ac rydw i wrth fy modd â'r ddinas gyfan felly manteisiais ar y cyfle i symud yma.
“Pan oeddwn yn gwneud fy TGAU, cefais fy nhynnu rhwng Cerddoriaeth a Mathemateg. Er bod Mathemateg yn dod yn naturiol, gwyddwn ers fy mod yn blentyn mai athro oeddwn am fod, felly gradd oedd y dilyniant naturiol i mi. Yna, unwaith roeddwn i'n gweithio trwy fy Safon Uwch Mathemateg, sylweddolais fod fy niddordeb mewn Cerddoriaeth yn gorbwyso fy niddordeb mewn Mathemateg yn fawr, ac mai'r rheswm yr oedd theori Cerddoriaeth yn ddiddorol i mi oedd oherwydd ei bod mor fathemategol - gan gysylltu'r ddau beth rwy'n dda ynddo.”
Ar hyn o bryd mae James yn gweithio ar amrywiol brosiectau cerddorol, ac yn cymryd blwyddyn allan o'i astudiaeth i ganolbwyntio ar ei yrfa Cerddoriaeth. Yna mae'n gobeithio gwneud cais am TAR i wireddu ei freuddwyd o ddod yn athro.
O ran cyngor i egin gerddorion, dywedodd: “Dewch i adnabod pobl - ewch i gigs, siarad â phobl, gwneud cysylltiadau, a gwneud eich hun yn ddefnyddiol. Mae'n un peth i fod yn gwrtais a chymwynasgar, ond os mai chi yw'r person y mae pobl yn mynd atynt, a bod pobl yn cofio pwy ydych chi o'i herwydd, byddant yn dychwelyd eto. Gofynnwch i bobl a ydyn nhw eisiau unrhyw help, dysgwch gan bobl sy'n gwybod yn well, ac, yn bwysicaf oll, peidiwch â chymryd yn ganiataol eich bod chi'n gwybod mwy na neb. Gallwch chi bob amser ddysgu, hyd yn oed os yw'n dysgu sut i beidio â gwneud rhywbeth. Dysgwch gan bawb y gallwch chi bob amser, ac ymroi yn weithredol."
Ychwanegodd Lucy Squire, Pennaeth Cerddoriaeth a Sain yn PDC: “Cyngor gwych gan James sydd, yn syml, yn enghraifft ragorol o bopeth rydyn ni'n gobeithio y gall ein myfyrwyr ei gyflawni. Trwy daflu ei hun i mewn i bob cyfle yn y brifysgol, mae wedi ennill y sgiliau a'r profiad i gyflymu gyrfa yn y Diwydiannau Creadigol. Rydyn ni wrth ein boddau â'r hyn sydd gan y dyfodol i’w gynnig i James!”
Ychwanegodd Lynne Gornall a Roger Cannon, trefnwyr Gŵyl Jazz Aberhonddu: “Mae James wedi creu argraff anhygoel arnom. Mae'n ddeallus, yn gyflym, yn ymatebol ac yn rhagweithiol - yn ymgysylltu'n fawr, yn gallu gweithio'n annibynnol ac yn ychwanegu syniadau creadigol i'r tîm cyffredinol. Mae wedi addasu'n dda iawn i'n rhwydwaith, gyda phartner wedi'i leoli yn Ffrainc, darparwyr technegol yn Ne Cymru a thîm Gŵyl ymroddedig, pob un yn elwa o gael James ar fwrdd y llong.
“Mae James yn ennill profiad amser real ac yn gallu rhannu ei arbenigedd yn hyderus ac archwilio syniadau yn yr hyn rydyn ni'n anelu at ei greu fel amgylchedd gwaith agored. Gallwn hefyd weld potensial ar gyfer cydweithio â'r Brifysgol yn y dyfodol, diolch i’r cydweithrediad ar yr Ŵyl.”
I gael mwy o fanylion am Ŵyl Jazz Aberhonddu, ewch i wefan y digwyddiad.