Will yw trydydd Enillydd Gwobr ACCA mewn cymaint o flynyddoedd yn PDC

20 Awst, 2021

Will Douglas ACCA.jpg

Mae William Douglas, myfyriwr ar y cwrs MSc Cyfrifeg Broffesiynol (gyda hyfforddiant ACCA) ym Mhrifysgol De Cymru (PDC), wedi dod yn drydydd myfyriwr mewn cymaint o flynyddoedd i ddod yn enillydd gwobr fyd-eang ACCA.

Cyflawnodd William, 25, o Gaerdydd, yr ail farc uchaf ar y cyd ledled y byd ar gyfer arholiadau Lefel Proffesiynol Strategol ACCA Mehefin 2021, gan sgorio marc cyfartalog o 85.75. Llongyfarchodd ACCA ef ar ei berfformiad “rhagorol” yn ei lythyr gwobrwyo.

Mae llwyddiant William yn dilyn llwyddiant dau fyfyriwr ACCA arall o PDC, yn yr hyn sy'n gyfres eithriadol o ganlyniadau i dîm dysgu ACCA yn PDC.  Yn 2019, cyflawnodd Nicola Lloyd y marc uchaf ledled y byd yn arholiadau Lefel Proffesiynol Strategol ACCA ochr yn ochr â’r marc uchaf ar y cyd ledled y byd yn ei harholiad Rheolaeth Ariannol Uwch. Dilynwyd hyn gan Bryony Lewis, a sgoriodd y marc uchaf ar y cyd ledled y byd yn ei harholiad Trethi Uwch yn 2020.

Cofrestrodd William gyntaf yn PDC yn 2016 ar gwrs Astudiaethau Busnes HND, ochr yn ochr â’i gyflogaeth fel tanysgrifennwr gyda Banc Barclays. Trosglwyddodd i radd BA mewn Cyfrifeg a Chyllid yn 2017 - lle cyflawnodd wobrau 'Perfformiad Gorau ACCA (Cymru)' ym mhob blwyddyn - ac yna i'r MSc Cyfrifeg Broffesiynol (gyda hyfforddiant ACCA) yn 2020. Mae'r cwrs MSc arloesol yn cyfuno cymhwyster gradd Meistr gyda pharatoi ar gyfer arholiadau Lefel Proffesiynol Strategol ACCA.

Fe wnaeth William sefyll pedwar arholiad Proffesiynol Strategol yn ystod blwyddyn academaidd 2020/21, gan sgorio marc anhygoel o 96% yn ei bapur Rheolaeth Ariannol Uwch!

Wrth sôn am ei brofiad ar yr MSc, dywedodd William: “Unrhyw bryd yr oeddwn angen ateb i gwestiwn, roedd y darlithwyr ar gael bob amser. Roeddent yn eithriadol o ran cadw rhythm ein dysgu ar yr un donfedd â’n harholiadau - gan ddarparu'r wybodaeth a'r adnoddau cywir ar yr adeg iawn. Yn bwysicach efallai, fe wnaethant rannu'r meysydd pwnc yn ddarnau hylaw a chanolbwyntio mewn gwirionedd ar roi'r gallu inni gymhwyso'r pynciau i senarios y byd go iawn.

“Y ffactor mawr arall oedd bod y darlithwyr wedi pwysleisio anhawster y papurau proffesiynol strategol o’r cychwyn wrth ein hysbysu o’r hyn oedd yn angenrheidiol i sicrhau llwyddo y tro cyntaf, rhoddodd hyn yr ysgogiad a’r offer i ddechrau arni ar unwaith.”

Disgwylir i William gwblhau ei MSc ym mis Medi 2021 ac mae bellach yn brysur yn ceisio am swyddi yn Llundain mewn gwasanaethau ariannol pan fydd yn gorffen.

Ychwanegodd Rhian Gosling, Arweinydd Cwrs MSc Cyfrifeg Broffesiynol gyda hyfforddiant ACCA yn Ysgol Fusnes De Cymru: “Mae perfformiad Will yn yr asesiadau MSc ac ACCA wedi bod yn rhagorol. Rwy’n falch iawn ei fod wedi mynd ymlaen i fod yn enillydd gwobr fyd-eang ACCA.”

Dywedodd Dr Jared Davies, Rheolwr Pwnc Academaidd Addysg Broffesiynol yn Ysgol Fusnes De Cymru: “Mae Will wedi bod yn fyfyriwr MSc ac ACCA rhagorol o’r diwrnod cyntaf, gan ddangos ymrwymiad a thalent ragorol o’r sesiynau Adrodd Busnes Strategol cyntaf a astudiodd. Mae ei ganlyniadau cyson uchel ar draws pob modiwl yn gyflawniad anhygoel.

“Yr wyf hefyd yn hynod falch o’r tiwtoriaid yn PDC; mae dysgu tri enillydd gwobr fyd-eang mewn tair blynedd yn gamp mewn gwirionedd, ac mae'n dyst i ansawdd yr hyfforddiant Cyfrifeg Broffesiynol yma.”

Ychwanegodd Lloyd Powell, Pennaeth ACCA Cymru Wales: “Ar ran pob un ohonom yn ACCA yng Nghymru, llongyfarchiadau mawr i Will Douglas ar ei berfformiad rhagorol yn arholiadau ACCA Mehefin 2021, gan gyflawni'r ail farc uchaf ar y cyd ledled y byd am yr arholiadau Lefel Proffesiynol Strategol, ac ar ennill medal arian Gwobr Gysylltiedig ACCA. Pob hwyl ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol!

“Llongyfarchiadau hefyd i holl diwtoriaid ACCA ym Mhrifysgol De Cymru am y gefnogaeth y maent wedi'i darparu i Will a myfyrwyr ACCA eraill yn ystod eu hastudiaethau. Bellach mae’r Brifysgol wedi cael tri enillydd gwobr fyd-eang ACCA yn ystod y tair blynedd diwethaf - arwydd clir o’r gefnogaeth a ddarperir gan diwtoriaid ACCA y Brifysgol, ac o waith caled ac ymroddiad y myfyrwyr.”