Gwobr BAFTA i ffilm ag un o gyn-fyfyrwyr Prifysgol De Cymru ymhlith ei chriw cynhyrchu
12 Ebrill, 2021
Roedd un o raddedigion Prifysgol De Cymru (PDC) ymhlith y rhai a fu'n gweithio ar ffilmiau a anrhydeddwyd yng Ngwobrau Ffilm yr Academi Brydeinig (BAFTA) neithiwr.
Roedd Rosie Walker, a raddiodd yn 2012 o'r radd BA (Anrh) Effeithiau Gweledol a Graffeg Symud, yn rhan o'r tîm yn Double Negative fu'n gweithio ar y ffilm Tenet, enillydd y wobr Effeithiau Gweledol Arbennig.
Bu nifer o raddedigion eraill PDC hefyd yn gweithio ar gynyrchiadau a enwebwyd ar gyfer gwobrau Bafta.
Yn eu plith roedd:
Yn y categori Ffilm Animeiddiedig, enwebwyd y ffilm Over The Moon gan Netflix/Pearl Studios. Gweithiodd Matt Jones, cyn-fyfyriwr yn PDC, artist bwrdd stori a raddiodd gyda BA (Anrh) mewn Animeiddio ym 1996, a Kieran McKay a Lucas Maxfield, Artistiaid Lookdev Cymeriadau 3D, a raddiodd gyda BA (Anrh) mewn Animeiddio Cyfrifiadurol yn 2013, ar y ffilm.
Enwebwyd y ffilm Wolfwalkers gan Cartoon Saloon hefyd yn y categori hwnnw. Roedd cyn-fyfyrwyr o PDC a fu'n gweithio ar y ffilm yn cynnwys Bryony Evans, Uwch Artist Glanhau a raddiodd yn 2012; Gemma Roberts, Uwch Animeiddiwr 2D, a raddiodd yn 2012 hefyd, a Matt Jones, Artist Bwrdd Stori a raddiodd ym 1996. Graddiodd pob un o'r cwrs BA (Anrh) Animeiddio.
Enwebwyd The Midnight Sky yn y categori Effeithiau Gweledol Arbennig. Roedd graddedigion o PDC a fu'n gweithio ar gynhyrchu’r ffilm yn cynnwys Beth Warner, a raddiodd mewn BA (Anrh) Animeiddio Cyfrifiadurol yn 2015 ac a weithiodd fel Cydlynydd Effeithiau Gweledol, ac Ellen Jaram, a raddiodd o BA Effeithiau Gweledol a Graffeg Symud yn 2017, a weithiodd fel Artist Digidol ar y ffilm.
Yn yr un categori, enwebwyd The One And Only, yr oedd Chaitan Joshi, a raddiodd yn 2014, yn Artist Gosod arni, a bu Kathryn Chandler, a raddiodd yn 2015, yn gweithio fel Animeiddiwr. Graddiodd y ddau gyda BA (Anrh) Animeiddio Cyfrifiadurol.
Dywedodd Tom Ware, Cyfarwyddwr Cynhyrchu a Pherfformio Cyfadran Diwydiannau Creadigol PDC, sydd wedi'i lleoli ar Gampws Caerdydd y Brifysgol: "Rydyn ni wrth ein bodd yn dysgu am fuddugoliaeth BAFTA Rosie Walker.
"Ynghyd â'r llu o raddedigion eraill o Ysgol Ffilm a Theledu Cymru a enwebwyd eleni, mae llwyddiant Rosie yn ein hatgoffa o ddyfnder y pwll enfawr o dalent y diwydiannau sgrin y mae PDC yn ei gefnogi."
Dywedodd Jack Phillips, Uwch Ddarlithydd Effeithiau Gweledol a Graffeg Symud PDC, "Mae'n wych gweld gwaith Rosie yn rhan o dîm Tenet yn cael ei gydnabod.
"Mae ei thalentau fel artist ac fel hyfforddwr wedi ysbrydoli a chefnogi llawer o bobl eraill o PDC ar y cwrs Effeithiau Gweledol a Graffeg Symud, sydd hwythau hefyd wedi dod yn rhan o ddiwydiant cyffrous, bywiog a chreadigol."