Myfyriwr graddedig PDC a Chyfarwyddwr wedi'i enwebu ar gyfer BAFTA teledu

29 Ebrill, 2021

Georgi Banks-Davies_2.jpg

Mae’r Cyfarwyddwr Georgi Banks-Davies, a raddiodd mewn Ffilm o Ysgol Ffilm a Theledu Cymru PDC, wedi ennill enwebiad BAFTA teledu am ei gwaith ar y ddrama boblogaidd Sky Atlantic, I Hate Suzie.

Gyda Billie Piper yn serennu, a gyd-greodd y sioe gyda Lucy Prebble, mae I Hate Suzie yn gomedi tywyll Brydeinig a gynhyrchwyd gan Bad Wolf Studios yng Nghaerdydd.

Mae'r gyfres yn dilyn bywyd yr actores Suzie Pickles, y mae ei bywyd yn cael ei daflu i gythrwfl pan fydd ei ffôn yn cael ei hacio a ffotograffau amharchus ohoni yn cael eu rhyddhau. Mae pob pennod yn canolbwyntio ar un o'r wyth cam o drawma y mae Suzie yn ei brofi - golwg ar bum cam galar.

Ar ôl y perfformiad cyntaf ar Sky Atlantic ym mis Awst 2020, gwnaeth y sioe ei hymddangosiad cyntaf yn yr Unol Daleithiau ar HBO fis Tachwedd diwethaf. 

Derbyniodd glod beirniadol gan feirniaid teledu am ei gwaith ysgrifennu, cyfarwyddo a pherfformiad Piper.

Fe’i cydnabuwyd gan sawl cyhoeddiad fel un o raglenni teledu gorau'r flwyddyn.

Ym mis Chwefror eleni, cyhoeddwyd y byddai I Hate Suzie yn dychwelyd am ail gyfres.

Y gyfres hon oedd llwyddiant deledu fawr Georgi fel prif gyfarwyddwr, ond mae hi hefyd wedi gweithio ar ‘Garfield: The Movie’ - a ddangoswyd yng Ngŵyl Ffilm Sundance 2018 - a sawl ffilm fer, yn ogystal â hysbysebion teledu ledled y byd.

Mae hi hefyd yn un o'r ychydig wneuthurwyr ffilm ar gynllun mentora Flare BAFTA, sy'n cael ei redeg mewn partneriaeth â Rhwydwaith BFI (Sefydliad Ffilm Prydain) i gynnig cyfle i wneuthurwyr ffilmiau LGBTQ+ sy'n datblygu ddatblygu eu gwybodaeth ddiwydiannol a'u cysylltiadau proffesiynol.

Dywedodd Tom Ware, Cyfarwyddwr Cynhyrchu a Pherfformio yn PDC: “Rydyn ni i gyd wrth ein bodd â llwyddiant Georgi. Ers graddio o'n cwrs BA Ffilm, mae ei chreadigrwydd a'i huchelgais wedi gweld ei gyrfa'n mynd o nerth i nerth.

"Mae’r enwebiad hwn yn dangos ei bod ymhlith talentau cyfarwyddo disgleiriaf Prydain, ac rwy’n siŵr y bydd yn arwain at lawer mwy o brosiectau llwyddiannus yn y dyfodol.”

Bydd BAFTAs Virgin Media yn cael eu cynnal ddydd Sul 6 Mehefin. Am y rhestr lawn o enwebeion, ewch i wefan BAFTA.