Wrth ymgynghori â Llywodraeth Cymru a’r partneriaid diwydiant allweddol rydym yn dod â’n cyrsiau llwyddiannus sy’n berthnasol i ffilm a theledu at ei gilydd ac yn cynyddu’r ddarpariaeth gydag amrywiaeth o gyrsiau ôl-raddedig newydd o fis Medi 2019. Boed eich diddordeb mewn cyfarwyddo, golygu, rheoli cynhyrchiad, dylunio set, animeiddio neu effeithiau gweledol, bydd ein cwricwlwm eang a pherthnasol yn darparu’r sgiliau a’r cyfleoedd sydd eu hangen arnoch i ymuno ag un o ddiwydiannau mwyaf dynamig y DU.
Mae ein tîm o staff academaidd yn cyfuno addysgu o ansawdd uchel gyda gweithio yn y diwydiant, gan sicrhau eu bod yn gallu trosglwyddo sgiliau o’r radd flaenaf a rhannu eu cysylltiadau a gwybodaeth helaeth â’n myfyrwyr. Mae darlithwyr gwadd, dosbarthiadau meistr, ymweliadau â’r diwydiant a lleoliadau gwaith oll yn ychwanegu at y cyfleoedd i gwrdd â’r talent gorau yn y diwydiant wyneb yn wyneb.
Mae Ysgol Ffilm a Theledu Cymru yn seiliedig ar dros 50 mlynedd o addysg ffilm ym Mhrifysgol De Cymru, sef, Ysgol Ffilm Casnewydd, gynt. Ymhlith ein Graddedigion mae’r enillydd Oscar, Asif Kapadia (Senna, Amy), Phil John (Downton Abbey, Being Human), a channoedd o bobl eraill sy’n gweithio ar y lefelau uchaf mewn ffilm a theledu ledled y byd.
Rydyn ni eisiau dathlu talent creu ffilmiau pobl ifanc mewn ysgolion a cholegau. Rydyn ni wedi creu cyfres o wobrau newydd, ar y cyd ag IntoFilm a Screen Alliance Wales i ddathlu gwaith anhygoel ein pobl ifanc greadigol. Gweler categoriau’r gwobrau a manylion ar sut i gyflwyno cais yma.
Mae Ysgol Ffilm a Theledu Cymru yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau Israddedig poblogaidd ac uchel eu parch, ac rydym yn datblygu darpariaeth Ôl-raddedig newydd sy’n canolbwyntio ar y diwydiant.
 ninnau wedi ein lleoli ym Mhrifysgol De Cymru, Caerdydd, caiff ein lleoliad canolog trawiadol ei gydweddu gan yr adnoddau ffilm a chyfryngau gorau yng Nghymru, yn cynnwys:
Â’r holl adnoddau hyn o dan yr un to, rydym wedi creu cyfleoedd anferthol i ddatblygu eich sgiliau a chydweithio gyda myfyrwyr ar draws ystod eang o ddisgyblaethau creadigol.
Mae Caerdydd yn brif ddinas ffyniannus, fodern a chosmopolitan sy’n prysur ddyfod yn brif ganolfan i’r diwydiannau creadigol.
Mae astudio yma yn cynnig y cyfle perffaith o ran profiad gwaith, cydweithredu prosiect a briffiau byw gyda’r diwydiant – boed yn Stiwdios Drama’r BBC ym Mae Caerdydd, ITV, S4C, Pinewood, GloWorks, Bad Wolf neu gannoedd o fusnesau creadigol bach arbenigol, nifer ohonynt wedi eu sefydlu gan ein graddedigion.
Rydym yn falch o gydweithio ag amrywiaeth eang o sefydliadau yn y diwydiant yng Nghymru a thu hwnt, yn cynnwys BBC Cymru, Channel 4, S4C, BAFTA Cymru, RTS Wales, Ffilm Cymru a Llywodraeth Cymru.
Mae gennym hefyd gysylltiadau cryf â nifer o bartneriaid addysgiadol allweddol ledled De Cymru yn cynnwys: Coleg Pen-y-bont, Coleg Caerdydd a’r Fro, Coleg Gwent, Coleg y Cymoedd a Choleg Merthyr Tudful. Gyda’n gilydd, rydym yn cynnig graddau sylfaen ac HNDau sy’n galluogi myfyrwyr i ddatblygu eu haddysg ymhellach yn y Diwydiannau Creadigol.