Graddau sy'n adeiladu eich gyrfa

Ffordd newydd o ddysgu

Ddylai dysgu ddim teimlo fel ailadrodd theorïau. Dyw darlithoedd hir, traethodau, ac arholiadau ddim wastad yn teimlo'n berthnasol i'r gweithle. Dyna pam mae Prifysgol De Cymru wedi troi pethau ben i waered.

Dysgu mwy
Sport Journalism student Leah Bower sat in a sport stand reporting on a sporting game

Mae llawer o'n graddau wedi'u rhannu i flociau adeiladu gyrfa sy'n cyfuno dysgu a phrosiectau go iawn sy'n cael eu cymeradwyo gan gyflogwyr, eu cynllunio ar y cyd  a chyflogwyr, a’u gwerthfawrogi gan gyflogwyr. 

Mae pob bloc wedi'i gynllunio i'ch helpu i roi cychwyn ar bethau, adeiladu hyder, a datblygu’r sgiliau proffesiynol a'r rhinweddau sydd gan raddedigion y mae galw mawr amdanynt yn y byd gwaith. Felly, erbyn i chi raddio, byddwch wedi ennill cymwysterau wrth gwrs, ond byddwch hefyd yn barod ar gyfer eich gyrfa.

Mae'n golygu bod gan bob cam o’ch addysg brifysgol bwrpas amlwg sy’n berthnasol i’r penderfyniadau a wnewch o ran dewis gyrfa. Mae pob bloc yn gam i fyny'r ysgol yrfa, byddwch yn datblygu sgiliau a hyder fesul tymor, ac yn symud yn agosach at eich swydd ddelfrydol.

Pedwar Bloc. Canolbwyntio ar Yrfa.

Bob blwyddyn byddwch yn astudio pedwar bloc, gan roi amser a gofod i chi fentro’n ddwfn i’ch pwnc, rhoi eich dysgu ar waith, a gwneud cynnydd go iawn.

Dysgu go iawn. Profiad go iawn.

Mae pob bloc wedi'i greu gyda mewnbwn gan y gwahanol ddiwydiannau, a byddwch felly yn datblygu’r sgiliau, yr hyder a’r cysylltiadau mae cyflogwyr yn eu gwerthfawrogi.

Dim arholiadau. Asesiadau sy'n cyfrif.

Anghofiwch am arholiadau byth a hefyd. Byddwch yn cael eich asesu drwy dasgau a phrosiectau go iawn sy'n adlewyrchu’r hyn y byddwch chi'n ei wneud yn y gweithle*.

Graddedigion yn barod ar gyfer eu gyrfa.

Byddwch yn gadael y Brifysgol gyda mwy na gradd. Byddwch yn gadael gyda phortffolio o brosiectau, cysylltiadau, profiad amlwg, a'r sgiliau proffesiynol fydd o fudd i chi o’r diwrnod cyntaf un yn y gweithle.

Pam rydyn ni'n gwneud pethau'n wahanol

Rydyn ni am i'n graddedigion fod yn fwy na phobl sy’n hyddysg mewn cynnwys llyfrau. Drwy weithio'n agos gyda diwydiannau a chyflogwyr, rydyn ni’n creu graddedigion sy'n barod ar gyfer eu gyrfa, a’r potensial wedi troi’n broffesiynol cyn hyd yn oed adael y Brifysgol. Mae hynny yn golygu y byddwch yn gallu perfformio hyd yn oed yn well na’r disgwyl.



Rhinweddau graddedigion

Close up shot of sporting lecturer raising his hand whilst talking to students
A student taking a photo with a camera, standing in front of a light box in a studio.
Two students working together to examine an aircraft wing.
Policing students conducting a role play in the moot courtroom
Sports Journalism student, Freddie, is sitting in a classroom with his laptop. There is a view of a football pitch through the glass windows behind him.
Fashion design student working on a design and smiling

Dim arholiadau, dim traethodau estynedig*

Bydd golwg wahanol ar asesiadau PDC. Byddwch yn cael eich asesu mewn ffyrdd mae cyflogwyr yn eu gwerthfawrogi, drwy brosiectau, tasgau a gweithgareddau wedi'u llywio gan yr hyn sy’n digwydd yn y byd go iawn. 

Anghofiwch am straen arholiadau, sy'n mesur eich gallu i gofio ac ailadrodd gwybodaeth. Bydd ein hasesiadau yn rhoi cyfle i chi ddangos eich gwybodaeth a'ch sgiliau mewn ffyrdd ymarferol a pherthnasol sy'n adlewyrchu'r hyn sy’n digwydd mewn swyddi go iawn.

Mae asesiadau dilys yn ffordd wych o roi hwb i'ch hyder a chymhwyso'r hyn rydych chi wedi'i ddysgu mewn ffordd ddifyr ac adeiladol. Boed yn creu cynllun busnes, neu’n mynd i'r afael â senario efelychiadol neu friff gan gleient, gall asesiadau fod ar sawl ffurf, yn dibynnu ar natur eich astudiaethau.

Nid eich paratoi i basio prawf yw ein hunig nod. Rydyn ni'n eich paratoi ar gyfer gyrfa.

*Gall rhai cyrsiau gynnwys arholiadau neu draethodau hir, ond ddim ond pan fo'n ofynnol gan gorff proffesiynol neu’n ofyniad penodol gan ddiwydiant penodol. Gwiriwch fanylion eich cwrs bob amser i gael rhagor fwy o wybodaeth.

Dod o hyd i'ch cwrs

Cwestiynau cyffredin

Rydyn ni'n gwybod efallai bod gennych rai cwestiynau am y ffordd newydd o ddysgu. Isod, fe welwch atebion i rai o'r ymholiadau mwyaf cyffredin.

Os na allwch ddod o hyd i'r hyn rydych chi'n chwilio amdano, peidiwch â phoeni, mae ein Tîm Derbyniadau yma i helpu. Os ydych chi'n ymgeisydd yn y DU, anfonwch e-bost at [email protected] neu ffoniwch 01443 654400.

Os ydych chi'n ymgeisydd rhyngwladol, anfonwch e-bost at [email protected] neu ffoniwch +44 (0) 1443 65 44 50. Byddwn yn hapus i gael sgwrs gyda chi.

Cyfnod astudio â ffocws lle rydych chi'n plymio i thema benodol. Mae pob bloc yn darparu amser dysgu dwys, gan gynnwys asesu, a byddwch yn symud ymlaen trwy gyfres o bedwar bloc ar draws y flwyddyn academaidd.

Mae'r dull hwn yn golygu y gallwch gymhwyso'r hyn rydych chi'n ei ddysgu ar unwaith. Dysgu gyda phwrpas ydyw. Mae’n seiliedig ar ddysgu gyda ffocws, yn ymarferol, ac ar gyfer cynnydd go iawn.

Byddwn yn cyflwyno'r ffordd newydd hon o ddysgu fesul cam. Bydd grŵp cychwynnol o gyrsiau ar y campws yn mabwysiadu'r dull hwn o fis Medi 2026 ymlaen. O fis Medi 2027, byddwn yn ei ehangu ymhellach i gynnwys cyrsiau ychwanegol i fyfyrwyr newydd fel rhan o gam nesaf y cyflwyniad. 

Bydd y dull newydd hon o ddysgu yn cael ei chyflwyno ar draws ystod o feysydd pwnc, gan ganolbwyntio ar ddysgu ymarferol, yn y byd go iawn a all gael yr effaith fwyaf.

Os oes gennych gynnig eisoes ar gyfer cwrs sy'n cyflwyno'r ffordd newydd hon o ddysgu, efallai y bydd y cynnwys a'r fformat yn newid, ond ni fydd eich cynnig. Os penderfynwch yn ddiweddarach nad yw'r newidiadau yn iawn i chi, bydd gennych yr hawl i newid eich meddwl cyn i chi ddechrau. 

Rydym yn cwblhau'r manylion nawr ar gyfer cyrsiau sy'n dechrau ym mis Medi 2026 y mae hyn yn berthnasol iddynt a byddwn yn rhannu rhagor o wybodaeth gyda chi cyn diwedd mis Mawrth 2026. Byddwn yn diweddaru ein gwefan ac yn e-bostio pob deiliad cynnig wrth i fanylion newydd gael eu rhyddhau, felly byddwch chi'n gwybod yn union beth i'w ddisgwyl a beth i edrych ymlaen ato pan fyddwch chi'n dechrau eich cwrs.

Rydym yn brifysgol sy'n ymwneud â dysgu yn y byd go iawn a pharatoi myfyrwyr i ddatblygu sgiliau sy'n berthnasol i'r byd gwaith.

Mae gennym eisoes sylfeini addysgu cryf a chysylltiadau agos â chyflogwyr, mae hyn yn golygu y bydd pob myfyriwr ar y cyrsiau hyn yn elwa o brofiad dysgu o ansawdd uchel, sy'n canolbwyntio ar y dyfodol sy'n adlewyrchu'r byd gwaith. 

Gall myfyrwyr ar ein cyrsiau eraill hefyd fod yn hyderus bod ansawdd eu haddysg yn parhau i fod yn ardderchog, a bydd ein holl ddarpariaeth addysg yn parhau i ddarparu'r wybodaeth, y sgiliau a'r cyfleoedd sydd eu hangen ar ddysgwyr i lwyddo. 

Mae'r ffordd newydd hon o ddysgu yn newid cadarnhaol sydd wedi'i gynllunio i wneud eich astudiaethau i ganolbwyntio fwy ar yrfa, ymarferol ac yn gysylltiedig â'r byd go iawn. Credwn y bydd yn rhoi'r paratoad gorau posibl i fyfyrwyr ar gyfer eu dyfodol, ond rydym yn deall efallai na fydd yn teimlo'n iawn i bawb.

Bydd gennych bob amser yr hawl i newid eich meddwl. Os nad ydych yn siŵr am unrhyw ddiweddariadau i'ch cwrs, mae ein Tîm Derbyniadau yma i'ch helpu. Os penderfynwch nad yw'r dull hwn ar eich cyfer chi, efallai y byddwn yn gallu cynnig cwrs amgen sy'n gweddu'n well i'ch nodau, neu eich cyfeirio at opsiynau eraill. 

Mae'r ffordd newydd o ddysgu yn cael ei chyflwyno'n raddol, gan ddechrau o'r flwyddyn gyntaf ymlaen. Os ydych chi'n ymuno â chwrs hanner ffordd drwodd (er enghraifft, i Flwyddyn 2 neu Flwyddyn 3), bydd eich model cyflwyno yn aros yr un fath â myfyrwyr presennol.

Byddwch yn ymuno â myfyrwyr presennol ac yn parhau gyda'r un profiad dysgu o ansawdd uchel sydd eisoes ar waith. Er bod y ffordd yr ydym yn addysgu yn esblygu, mae ein hymrwymiad i ansawdd, cefnogaeth a chyfleoedd yn aros yn union yr un fath. Ein nod yw sicrhau bod pob myfyriwr yn gadael y Brifysgol yn barod i ar gyfer gyrfa ag i lwyddo yn y dyfodol. 

Byddwn mewn cyswllt gyda mwy o wybodaeth am gynnwys a fformat eich cwrs cyn diwedd mis Mawrth, ond os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach cyn hynny, mae croeso i chi gysylltu â ni.