/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/12-assets/testimony-cutout-rob-whittey.png)
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/12-assets/testimony-cutout-ainasia-mbowe.png)
PDC ar Waith
Cewch brofiad ymarferol ym Mhrifysgol De Cymru o'r diwrnod cyntaf. Dim ond yn PDC.
Rydym yn annog dull ymarferol o addysgu. Mae myfyrwyr yn dysgu trwy wneud, gan roi eu theori ar waith mewn amgylcheddau trochol a senarios y byd go iawn.
Addysg Uwch ar Waith
Ni yw'r Brifysgol sy'n gwneud gwahaniaeth yn ymarferol, nid ar bapur yn unig. Mae ein cyrsiau wedi'u cynllunio gan bobl sy'n cynnig swyddi, ac yn cael eu haddysgu gan bobl sydd â phrofiad go iawn o’r gwaith.
Beth bynnag yw eich maes astudio dewisol, ein nod yw creu amgylchedd cadarnhaol i fyfyrwyr ffynnu.
Yn hytrach na darllen gwerslyfrau a gwrando ar ddarlithoedd, byddwn yn sicrhau eich bod yn cael profiadau a chyfleoedd uniongyrchol di-ri i gymryd rhan weithredol yn eich proffesiwn dewisol, gan ennill sgiliau ymarferol a fydd yn eich paratoi ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol.
O brosiectau ymarferol ac efelychiadau o’r byd go iawn i gydweithredu â’r diwydiant gan weithio gyda chleientiaid go iawn, mynd i'r afael â phroblemau go iawn, a datblygu'r sgiliau y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt. Rydym yn creu graddedigion sy'n barod ar gyfer y dyfodol. Pobl sy’n barod i adeiladu eu gyrfaoedd.
Os ydych chi'n gwerthfawrogi addysg yn ymarferol, nid mewn theori yn unig, yna mae Prifysgol De Cymru yn berffaith i chi.

Diwrnodau Agored i ddod
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/05-event-photography/51-open-days/event-open-day-treforest-50360.jpg)
Dewch i gwrdd â ni ar y campws i weld beth sy'n ein gwneud ni'n arbennig. Darganfyddwch ein cyfleusterau, crwydro'r campws, a chwrdd ag academyddion o'ch cwrs.
Gweld pob Digwyddiad