Cyfleusterau Trochi
Dysgwch drwy wneud mewn cyfleusterau trochi sy'n efelychu'r byd go iawn
PDC ar Waith/prod01/channel_2/media/subject-nursing-facilities-49334-538X667.jpg)
Cyfleusterau sydd wedi'u hadeiladu i safon diwydiant, sy’n efelychu’r offer y byddwch chi'n eu defnyddio yn y byd go iawn ar ôl graddio.
Beth yw manteision astudio mewn cyfleusterau o safon diwydiant?
Mae dysgu trochi yn y Brifysgol yn rhoi cyfle i chi ddatblygu sgiliau hanfodol sy’n berthnasol i'ch proffesiwn dewisol ac sydd hefyd yn aml yn drosglwyddadwy i unrhyw yrfa. Byddwch yn cael eich herio i feddwl yn feirniadol a datrys problemau mewn senarios a welir yn y byd go iawn.
Mae astudio mewn cyfleusterau sy'n efelychu lleoliadau diwydiant yn anelu at wella eich gallu i addasu, fel y gallwch addasu'n ddi-dor i offer, amgylcheddau a ffyrdd o weithio proffesiynol pan fyddwch chi'n graddio. Mae'r profiad ymarferol hwn yn adeiladu eich sgiliau technegol, gan eich paratoi â'r arbenigedd i ddefnyddio meddalwedd, offer a thechnegau o safon diwydiant, gan sicrhau eich bod yn barod ar gyfer gofynion esblygol y dyfodol.
Dysgu cymhwysol yn y BrifysgolGwella canlyniadau drwy asesiadau dilys
Credwn fod asesiadau, sydd wedi'u cynllunio i adlewyrchu tasgau'r byd go iawn, yn rhoi'r cyfle perffaith i chi arddangos eich gwybodaeth a'ch sgiliau mewn ffyrdd ymarferol a pherthnasol. Yn hytrach na dibynnu'n unig ar arholiadau a thraethodau traddodiadol, mae llawer o'n cyrsiau yn caniatáu i chi gwblhau gweithgareddau ac asesiadau sy'n adlewyrchu senarios proffesiynol.
Mae asesiadau dilys yn ffordd wych o roi hwb i'ch hyder a chymhwyso'r hyn rydych wedi'i ddysgu mewn ffordd ddiddorol. P'un a yw'n creu cynllun busnes neu'n mynd i'r afael ag astudiaeth achos efelychiadol, gall asesiadau fod ar sawl ffurf yn dibynnu ar natur eich astudiaethau. Mae'r dull hwn yn sicrhau bod eich dysgu yn ystyrlon ac yn cyd-fynd â gofynion eich gyrfa yn y dyfodol.
Dewch o hyd i'ch cwrs