Dysgu Cymhwysol

Beth yw dysgu cymhwysol a pham mae'n bwysig ar gyfer eich dyfodol?

PDC ar Waith
Chemistry students and teacher standing around a lab table

Addysg yn ymarferol yw dysgu cymhwysol, nid mewn theori yn unig. Rydym yn canolbwyntio ar anghenion myfyrwyr heddiw i'ch helpu i fodloni gofynion cyflogwyr yn y dyfodol.


Beth yw dysgu cymhwysol?

Dysgu cymhwysol yw pan fydd myfyrwyr yn cymhwyso'r wybodaeth a'r sgiliau y maent wedi'u hennill o ystafell ddosbarth a darlith draddodiadol, i leoliadau ymarferol mewn amgylcheddau yn y byd go iawn, neu drwy brosiectau creadigol.

Erbyn hyn, derbynnir yn eang bod profiadau addysgol a ddarperir trwy leoliadau ymarferol, naill ai trwy leoliadau gwaith, profiad gwaith, neu drwy weithio mewn cyfleusterau o safon diwydiant, yn hanfodol ar gyfer datblygu sgiliau myfyrwyr a sicrhau eu bod yn barod i lwyddo yn eu gyrfaoedd yn y dyfodol. Dyna pam yn PDC rydym yn hyrwyddo'r dull blaengar hwn o addysgu.

Rydym yn falch o ddweud bod ein myfyrwyr yn rhan o’r cyffro o'r diwrnod cyntaf. Credwn fod dysgu ymarferol yr un mor bwysig â gwybodaeth ddamcaniaethol o ran eich addysg. Rydym am sicrhau eich bod yn graddio gyda'r sgiliau y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt, trwy eu hymarfer yn y byd go iawn neu mewn amgylchedd efelychiadol, fel eich bod yn gymwys[RJ1] , yn hyderus ac yn barod am yrfa.

Dewch o hyd i'ch cwrs

Datblygu sgiliau trosglwyddadwy ar gyfer y gweithle

Mae ein cyfleusterau, boed ein Canolfan Awyrofod, Parc Chwaraeon, Ffug Lys Barn neu ein Canolfan Efelychu Clinigol, i gyd yn cynnwys amgylcheddau ac offer sy'n dynwared lleoliadau'r byd go iawn, felly ni fydd unrhyw beth yn eich synnu pan fyddwch yn yr amgylchedd proffesiynol – byddwch yn barod ac yn fedrus!

Cyfleusterau trochol yn y Brifysgol

Cysylltiadau yn y diwydiant

Mae ein partneriaid yn y diwydiant yn ein galluogi i sefydlu profiad gwaith perthnasol, yn ogystal, mae'r partneriaethau yn llywio ein cwricwlwm. Felly, mae popeth rydych chi'n ei ddysgu yn berthnasol ar gyfer y maes rydych chi'n dechrau arno. Mae'r cysylltiadau hyn hefyd yn caniatáu cyfleoedd rhwydweithio gwych, felly pwy a ŵyr? Gallwch gwrdd â'ch darpar gyflogwr yn ystod eich blwyddyn gyntaf yn y brifysgol.

MAE'R CYSYLLTIADAU DIWYDIANNOL WEDI BOD YN AMHRISIADWY. RWYF WEDI ENNILL PROFIAD YMARFEROL WRTH WEITHIO AR BROPIAU GYDAG ITV A CHYNORTHWYO GYDA MENTER BBC.

James

Myfyriwr Ffilm ac Effeithiau Gweledol

MAE'R PROFIAD YMARFEROL A'R RHWYDWEITHIO WEDI BOD YN AMHRISIADWY. FE WNAETHOM HYD YN OED WEITHIO MEWN PARTNERIAETH Â'R ORIEL BORTREADAU GENEDLAETHOL AR FRIFF.

Freddie

Myfyriwr Cyfryngau a Newyddiaduraeth

CEFAIS GYFLE I WEITHIO GYDAG WYTHNOS FFASIWN CAERDYDD. ARWEINIAIS DÎM O FYFYRWYR MARCHNATA, A OEDD YN BROFIAD GWYCH.

Dylan

Myfyriwr Ffasiwn