Wythnos Anabledd Dysgu | Prifysgol De Cymru yn sicrhau cyllid gan y Coleg Nyrsio Brenhinol ar gyfer ymchwil gofal diwedd oes
16 Mehefin, 2026
Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol De Cymru (PDC) wedi sicrhau cyllid gan Coleg Nyrsio Brenhinol ar gyfer astudiaeth newydd sy'n archwilio gofal diwedd oes i bobl sydd â anableddau dysgu yng Nghymru.
Mae'r astudiaeth yn gweld cydweithrediad rhwng PDC a Phobl yn Gyntaf Caerdydd. Daw mewn ymateb i dystiolaeth gynyddol bod pobl ag anableddau dysgu yn parhau i brofi anghydraddoldebau iechyd sylweddol yn y DU, gan gynnwys profiadau gwaeth ar ddiwedd oes.
Mae ymchwil wedi dangos yn gyson bod pobl ag anableddau dysgu yn fwy tebygol o brofi marwolaethau y gellir eu hosgoi a marwolaethau cynamserol, oedi cyn cydnabod dirywiad, rhwystrau i gael mynediad at wasanaethau gofal arbenigol diwedd oes, ac anawsterau i gael eu symptomau a'u gofidion wedi'u cydnabod a'u deall.
Er gwaethaf y sgiliau arbenigol y mae Nyrsys Anableddau Dysgu yn eu cynnig i gyfathrebu, eiriolaeth, cydnabod gofid, a chydlynu gofal, ychydig iawn o ymchwil sydd yn archwilio eu cyfraniad at ofal diwedd oes. Mae hyn wedi arwain at fwlch yn y ddealltwriaeth o sut mae'r nyrsys hyn yn cefnogi unigolion, teuluoedd, a thimau gofal iechyd ehangach yn ystod cyfnodau tyngedfennol.
Nod yr ymchwil yw mynd i'r afael â'r bwlch hwnnw drwy archwilio rôl unigryw Nyrsys Anableddau Dysgu ar draws amrywiaeth o leoliadau gofal yng Nghymru. Trwy gyfweliadau a grwpiau ffocws, bydd yr astudiaeth yn cynhyrchu argymhellion i wella ymarfer a chydlynu gwasanaethau.
Dywedodd Dr Stacey Rees, Arweinydd y Cwrs ar gyfer Nyrsio Anableddau Dysgu: “Mae pobl ag anableddau dysgu yn parhau i brofi anghydraddoldebau sylweddol, ac mae dealltwriaeth gyfyngedig o hyd o'r cyfraniad arbenigol y mae Nyrsys Anableddau Dysgu yn ei wneud wrth gefnogi pobl a'u teuluoedd.
“Mae'r ymchwil hon yn bwysig oherwydd bydd yn helpu i adeiladu tystiolaeth o amgylch nyrsio anableddau dysgu a nodi sut y gall ymarfer nyrsio helpu i leihau anghydraddoldebau, gwella cyfathrebu, a sicrhau bod pobl ag anableddau dysgu yn derbyn gofal tosturiol ar ddiwedd oes.
“Un o brif gryfderau'r astudiaeth yw gweithio mewn partneriaeth â Phobl yn Gyntaf Caerdydd a Phwyllgor Cynghori Addysgu ac Ymchwil PDC. Mae hyn yn golygu y bydd profiad byw yn ganolog drwy gydol yr ymchwil, gan helpu i sicrhau bod y canfyddiadau'n ystyrlon, yn berthnasol, ac yn gallu dylanwadu ar ymarfer, addysg a pholisi ledled Cymru.”
Dywedodd Deepa Korea MBE, Cyfarwyddwr Coleg Nyrsio Brenhinol: “Rydym wrth ein bodd ein bod wedi dyfarnu’r cyllid hwn i Brifysgol De Cymru. Mae tystiolaeth yn dangos yn gyson fod pobl ag anableddau dysgu yn profi anghydraddoldeb iechyd sylweddol yn y DU, gan gynnwys profiadau gwaeth ar ddiwedd oes. Mae’r prosiect hwn yn rhan o’n Rhaglen Grantiau Anableddau Dysgu ehangach: ‘Iechyd Cynhwysol – gwella bywydau unigolion ag anableddau dysgu’ ac mae’n cynrychioli ein hymrwymiad cadarn i gefnogi a chryfhau nyrsio anableddau dysgu a, thrwy wneud hynny, gwella ansawdd bywyd a chanlyniadau iechyd i bobl ag anableddau dysgu.”