Ceisiadau Hwyr
Os gwnaethoch chi fethu’r dyddiad cau ym mis Ionawr ar gyfer gwneud cais drwy UCAS neu os nad oes gennych chi unrhyw gynigion gan brifysgolion eraill ar hyn o bryd, nid yw'n rhy hwyr i ymuno â ni ym mis Medi.
Gwneud cais drwy UCAS Extra
GWNEUD EICH CAIS
Gwneud Cais trwy UCAS Extra
Gwnewch gais trwy UCAS Extra os ydych eisoes wedi gwneud cais yn ystod y cylchred hwn, ond nad oes gennych unrhyw gynigion ar hyn o bryd. Mae UCAS Extra yn cau ar 1 Gorffennaf.Gwneud cais drwy Clirio
O 2 Gorffennaf, gallwch wneud cais am le ar radd israddedig ym Mhrifysgol De Cymru drwy Glirio.Dod o hyd i gwrs
Mwy o fanylion am wneud cais
Gallwch chi wirio pa gyrsiau sydd â lleoedd o hyd ar ôl y dyddiad cau ym mis Ionawr ar wefan UCAS.
Y dyddiad cau terfynol ar gyfer ceisiadau trwy UCAS yw 30 Mehefin 2026 a bydd nifer y lleoedd sydd ar gael ar gyrsiau yn gostwng po hwyraf y byddwch chi yn ei adael, felly ceisiwch wneud cais cyn gynted â phosibl.
Bydd angen cod UCAS arnoch chi ar gyfer pob cwrs rydych chi'n gwneud cais amdano. Gallwch chi weld y rhain ar frig pob tudalen cwrs. Ein cod sefydliad yw W01.
Gwnewch yn siŵr eich bod chi wedi rhoi digon o amser i chi’ch hun ymchwilio i gyrsiau, ysgrifennu datganiad personol gwych a rhoi amser i'ch canolwyr ddarparu tystlythyrau.
Os na fyddwch chi’n gwneud cais erbyn 30 Mehefin, gallwch chi wneud cais trwy Glirio, sy'n agor ar 2 Gorffennaf.
Os ydych chi wedi defnyddio'r pum dewis ar eich cais ond nad oes gennych unrhyw gynigion ar hyn o bryd, neu os ydych wedi gwrthod y cynigion a gawsoch, gallech ddal i ddod o hyd i le yn y brifysgol gan ddefnyddio UCAS Extra. Mewngofnodwch i UCAS i weld a ydych chi’n gymwys i gael dewis ychwanegol.
Ar gyfer ymgeiswyr 2026, mae UCAS Extra ar agor rhwng dydd Iau 26 Chwefror a dydd Mercher 1 Gorffennaf.
Os ydych chi’n cael cynnig, bydd angen i chi dderbyn neu wrthod gan ddefnyddio gwefan UCAS.
Os nad ydych chi wedi cael cynnig ac yn dymuno gwneud cais am gwrs gwahanol, gallwch chi ddechrau cais newydd gan ddefnyddio UCAS Extra.
Unwaith y byddwch chi wedi derbyn cynnig, allwch chi ddim gwneud cais am ragor o gyrsiau trwy UCAS Extra a byddwch chi’n derbyn gwybodaeth am gofrestru a sefydlu yn agos at ddechrau'r tymor.
Os nad ydych wedi gwneud cais eto i unrhyw brifysgol drwy UCAS, neu os na wnaethoch ddefnyddio'ch holl ddewisiadau yn eich cais cychwynnol, yna ni fyddwch yn gymwys i ddefnyddio UCAS Extra.
Yn hytrach, gallwch wneud cais drwy'r broses UCAS arferol neu ychwanegu dewisiadau ychwanegol at eich cais, cyn belled â bod hyn cyn 30 Mehefin.
Os gwnaethoch gais erbyn 30 Mehefin a'ch bod yn dal i aros am benderfyniad gan unrhyw un o'ch dewisiadau, mae gan brifysgolion tan 15 Gorffennaf 2026 i benderfynu a ydynt yn rhoi cynnig i chi (gan gynnwys dewisiadau Extra).
Os na chawsoch y cynigion roeddech yn gobeithio amdanynt, gallwch barhau i ddefnyddio Clirio i ddod o hyd i le.
Am fwy o wybodaeth, ewch i'n tudalen ymgeisio.
Mae ceisiadau israddedig mynediad 2026 a dderbyniwyd ar ôl 30 Mehefin yn cael eu cynnwys yn y broses Glirio.
Cysylltu â ni
Gallwch chi gysylltu â'n tîm derbyniadau cyfeillgar i wirio argaeledd y cwrs neu os oes gennych chi unrhyw gwestiynau. Rydyn ni yma i'ch helpu chi i lywio drwy'r broses ymgeisio.
Cysylltwch â ni am gymorth a chyngorClirio
Os hoffech chi ragor o amser i ystyried eich opsiynau, neu byddai'n well gennych chi aros nes eich bod chi wedi derbyn eich canlyniadau, yna gallwch chi wneud cais i'r brifysgol drwy Glirio.
Gallwch wneud cais am gwrs gan ddefnyddio Clirio os na chawsoch unrhyw gynigion yr oeddech am eu derbyn, ni wnaethoch fodloni amodau eich cynigion, neu os ydych wedi gwrthod eich lle cadarn gan ddefnyddio'r botwm 'gwrthod fy lle' ar eich cais.
Mae'r broses Glirio yn agor ddydd 2 Gorffennaf, a bydd unrhyw geisiadau a wneir ar ôl 30 Mehefin yn cael eu hystyried yn awtomatig drwy'r broses Glirio.