PDC yn derbyn diolch am gefnogi carfan Chwe Gwlad Menywod Cymru cyn pencampwriaeth 2021

1 Ebrill, 2021

Wales Women's Six Nations team have been training at USW Sports Park. April 2021

Mae Prifysgol De Cymru (PDC) wedi bod yn helpu tîm Rygbi Menywod Cymru i baratoi ar gyfer pencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni.

Mae Parc Chwaraeon PDC yn Nhrefforest wedi bod yn gartref i’r garfan wrth i'r chwaraewyr baratoi ar gyfer y gêm gyntaf eleni, fydd yn cael ei chwarae yn Ffrainc ar ddydd Sadwrn, 3 Ebrill. Yna bydd Cymru'n croesawu Iwerddon ym Mharc yr Arfau Caerdydd ar ddydd Sadwrn, 10 Ebrill, gyda'u gêm derfynol i'w chadarnhau ar benwythnos 24 Ebrill

Bu'n rhaid i dîm y Menywod newid lleoliad ar gyfer eu paratoadau cyn y bencampwriaeth eleni, gan fod tîm Chwe Gwlad y Dynion yn hyfforddi yn y lleoliad arferol, Canolfan Ragoriaeth Genedlaethol Undeb Rygbi Cymru ym Mro Morgannwg. Roedd rheolau Covid yn golygu na allai'r ddwy garfan hyfforddi yn yr un lleoliad.

Mae Tîm y Menywod bellach wedi symud yn ôl i'r Ganolfan Ragoriaeth Genedlaethol i barhau â'u paratoadau.

Dywedodd Sam Dodge, Arweinydd Perfformiad Corfforol Menywod Cymru: "Mae'r cyfleuster yn PDC wedi bod yn ganolog wrth ganiatáu i ni ddarparu lleoliad hyfforddi cyson o'r radd flaenaf i'n chwaraewyr yn wyneb yr heriau y mae'r pandemig wedi'u cyflwyno i bawb ohonon ni. 

"Rhwng y gampfa, y sgubor dan do, dyraniad GPS a nifer o leiniau hyfforddi, rydyn ni wedi gallu hyfforddi heb newid cynnwys y rhaglen hyfforddi ac wedi gallu gwasanaethu carfan o 40-50 o athletwyr yn ddi-dor i safon uchel iawn.

"Hoffwn ddiolch yn bersonol hefyd i staff PDC am eu cymorth a'u cefnogaeth drwy gydol y cyfnod hwn."

Dywedodd Steve Savage, Pennaeth Chwaraeon PDC: "Roedden ni’n falch iawn o groesawu carfan y Menywod i Barc Chwaraeon PDC dros y misoedd diwethaf, a darparu canolfan i'r tîm baratoi ar gyfer eu hymgyrch Chwe Gwlad.

"Dymunwn y gorau i'r tîm ac rydyn ni’n gobeithio eu croesawu yn ôl i'r Parc Chwaraeon yn y dyfodol."

Bydd y gemau'n cael eu dangos ar deledu daearol y BBC, a byddant hefyd ar gael ar iPlayer.