Hanesion Graddio: Asgellwr y Dreigiau, Ashton Hewitt, yn ennill gradd Meistr

14 Gorffennaf, 2021

Ashton Hewitt 1_web.jpg

Mae chwaraewr Rygbi’r Dreigiau, Ashton Hewitt, yn graddio’r wythnos hon o Brifysgol De Cymru (PDC) gyda gradd Meistr mewn Rheoli Adnoddau Dynol.

Yn ogystal â chydbwyso gyrfa rygbi heriol ac astudiaeth ddwys am y tair blynedd diwethaf, mae Ashton hefyd wedi wynebu llifeiriant o gam-drin hiliol ar gyfryngau cymdeithasol - yn enwedig mewn ymateb i'w gefnogaeth i'r mudiad Mae Bywydau Du o Bwys.

Ymosodwyd yn rheolaidd ar y chwaraewr 26 oed, sy’n byw yn Ponthir, ar Twitter ar ôl rhannu ei brofiadau ei hun o gam-drin hiliol a galw ar awdurdodau rygbi i gymryd safiad cryfach yn erbyn gwahaniaethu ar sail hil.

“Roedd hwnnw’n gyfnod arbennig o anodd i mi,” meddai Ashton, sydd wedi chwarae i’r Dreigiau ers 2013.

“Ond roedd fy narlithwyr prifysgol a phawb yn y Dreigiau - o’r chwaraewyr i’r Rheolwr Gyfarwyddwr - yn rhyfeddol o gefnogol, ac yn wir wedi fy helpu i drwyddo.

“Rydyn ni hyd yn oed wedi sefydlu rhaglen gydraddoldeb yn y clwb, i’n galluogi ni i gael y sgyrsiau hynny ynglŷn â hiliaeth a mathau eraill o anghydraddoldeb trwy weithio gydag ysgolion, clybiau a grwpiau cymunedol yn y rhanbarth.  Rwy'n wirioneddol falch o'r ffordd y mae'r Dreigiau wedi mynd un cam ymhellach i fynd i'r afael â'r broblem hon mewn gwirionedd."

Ar ôl cwblhau ei radd mewn Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol yn PDC, cymerodd Ashton flwyddyn allan o astudio cyn penderfynu dilyn y cwrs Meistr.  Ar ôl chwarae rygbi ers 11 oed, a’i godi trwy strwythur yr Academi yng Ngwent, roedd bob amser wedi breuddwydio am chwarae’n broffesiynol, ond roedd yn awyddus i ddatblygu ei addysg yn barod ar gyfer bywyd ar ôl ei yrfa chwarae.

“Roedd yn bwysig i mi roi digon o gyfleoedd i mi fy hun yn nes ymlaen mewn bywyd, felly sylweddolais mai rhywbeth cadarnhaol yn unig fyddai ychwanegu at fy nghymwysterau,” meddai.

“Pan oeddwn yn gwneud fy Safon Uwch yn yr ysgol, nid oeddwn wir yn gweld fy hun fel rhywun a fyddai’n mynd i’r brifysgol, gan mai rygbi oedd fy mlaenoriaeth. Ond rydw i mor falch fy mod i wedi gwneud y penderfyniad i ddod i PDC gan ei fod wedi fy herio mewn cymaint o ffyrdd, ac rydw i wedi darganfod fy mod i'n gallu ymdrin ag unrhyw beth sy’n fy wynebu.

“Wrth gwrs, mae wedi bod yn heriol ar adegau i gydbwyso popeth a ffitio aseiniadau o amgylch hyfforddiant a gemau, ond ni allwn fod wedi gofyn am well profiad prifysgol.  Rwyf wedi cael cymaint o gefnogaeth gan PDC a'r Dreigiau - maen nhw wedi gwneud popeth o fewn eu gallu i'm helpu i drwyddo."