Hanesion Graddio: Dathliadau dwbl i fam a’i mab

12 Gorffennaf, 2021

Alison and Joseph.png

Alison ac Joseph Strong

Yr wythnos hon, mae Alison Strong a'i mab hynaf Joseph, o Gwmbrân, yn dathlu graddio o Brifysgol De Cymru (PDC).

Ar ôl cwblhau ei arholiadau Safon Uwch yn ysgol Gyfun Croesyceiliog, gwnaeth Joseph gais i astudio BA (Anrh) Newyddiaduraeth. Fodd bynnag, ar ôl penderfynu gadael ei gyrfa addysgu oedd wedi para 20 mlynedd, doedd llwybr Alison at ei chwrs dewisol ddim mor esmwyth.

Dywedodd: "Wnaethon ni ddim penderfyniad bwriadol i astudio ar yr un pryd yn  PDC.  Roeddwn i wedi gwneud ambell gais, yn aflwyddiannus, i astudio bydwreigiaeth. Ond ar ôl cael mwy o brofiad, gwirfoddoli yn Ysbyty Brenhinol Gwent a gweithio fel nyrs feithrin gymunedol gyda Dechrau'n Deg, cefais fy nerbyn i'r cwrs yr un flwyddyn ag y dechreuodd Joseph yn y Brifysgol.

"Mae heriau wedi bod gyda’r cwrs, yn sgil Covid, ond mae wedi bod yn brofiad arbennig o dda.  Achos ein bod wedi gallu mynd ar leoliad o hyd, yn gwisgo Cyfarpar Diogelu Personol llawn, roedd yn cynrychioli ychydig bach o normalrwydd yn ystod y cyfnodau cloi.

"Fe wnes i fwynhau dysgu o gartref a dweud y gwir.  Fel mam i dri, roedd yn golygu y gallwn barhau i ollwng a chasglu’r plant o’r ysgol, mynd â’r cŵn am dro, ac ati, gan fy mod i’n arbed ar amser teithio."

Roedd Joseph yn ei ail flwyddyn pan darodd y pandemig.

Dywedodd: "Trodd ein darlithoedd yn rhai rhithwir a doedd hynny ddim yn broblem i fi.  Un o'r uchafbwyntiau oedd ein 'dyddiau newyddion' pan fu'n rhaid i ni greu pecynnau newyddion ar gyfer y Teledu neu’r Radio.

"Colli  fy mywyd cymdeithasol a bod ar wahân i bobl oedd fwyaf anodd i fi, fel llawer o rai eraill."

Yn byw yng Nghaerdydd ar hyn o bryd, mae Joseph bellach yn gweithio yn Vue Cinema, tra bo’n penderfynu ar ei gamau nesaf.  Mae gan Alison swydd ar gyfer mis Medi.

Dywedodd: "Ar yr un diwrnod ag y cafodd fy neugeinfed babi fel bydwraig ei eni [carreg filltir bwysig i bob myfyriwr bydwreigiaeth] fe ges i gynnig swydd yn ysbyty’r Grange yng Nghwmbrân, ac roeddwn i mor falch.

"Rwy'n disgwyl y cawn ni ddathliad fel teulu.  Rwy’n ystyried llogi cap a gŵn ar gyfer lluniau, a chael parti yn yr ardd, i nodi'r achlysur.

"Os yw unrhyw un yn ystyried newid gyrfa, byddwn i’n eu cynghori i fynd amdani.  Mae bod yn fyfyriwr aeddfed yn sicr wedi bod o fantais o ran astudio a bod ar leoliad.”