Hanesion Graddio: Samantha yn ennill gradd dosbarth 1af ar ôl goresgyn tiwmor yr ymennydd

13 Gorffennaf, 2021

Samantha Griffiths Fashion Design graduate.jpg

Pan oedd Samantha Griffiths, sydd wedi graddio mewn Dylunio Ffasiwn, yn dioddef o gur pen yn ei blwyddyn gyntaf yn y brifysgol, roedd yn meddwl efallai ei bod angen sbectol – ond dangosodd ei hymweliad â’r optegydd fod ganddi diwmor ar yr ymennydd a allai fod yn angheuol.

A hithau ond yn 19 oed ar y pryd, dywedwyd wrth Samantha fod y tiwmor yn achosi gymaint o bwysedd y tu ôl i’w llygaid fel y gallai ei gwneud yn ddall, neu hyd yn oed ei lladd hi, pe na bai wedi mynd i gael y prawf yr adeg honno. Dim ond tridiau’n ddiweddarach, cafodd lawdriniaeth a achubodd ei bywyd i leddfu’r pwysedd drwy ddrilio llwybr newydd drwy ei hymennydd.

Wedi gwella’n llwyr erbyn hyn, mae ar fin graddio gydag anrhydedd dosbarth 1af ym Mhrifysgol De Cymru (PDC) ac yn awyddus i ddechrau ei gyrfa fel dylunydd ffasiwn.

“Ro’n i wedi bod yn cael cur pen ofnadwy ac yn sensitif iawn i olau,” meddai Samantha, nawr yn 24, o Langatwg, Castell Nedd.

“Gwaetha’r modd bu farw fy mam-gu ar ddechrau’r flwyddyn, felly roeddwn yn meddwl efallai fy mod yn dioddef o iselder. Roedd hynny’n synhwyrol ar y pryd am nad oeddwn bellach yn mwynhau fy ngwaith yn y brifysgol, er fy mod wedi bod eisiau astudio ffasiwn erioed, felly roeddwn yn gwybod fod rhywbeth o’i le.

“Es i weld fy meddyg teulu sawl gwaith ond y farn oedd mai iselder oedd y broblem, ond ym mêr fy esgyrn roeddwn yn teimlo nad dyna oedd y sefyllfa; allwn i ddim deall pam fy mod mewn cymaint o boen. Felly penderfynais fynd i weld yr optegydd ac yn syth ar ôl iddo edrych y tu ôl i’m llygaid, cefais fy rhuthro i’r adran damweiniau ac achosion brys ac yno daethant o hyd i’r tiwmor.

“Cyn gynted ag y dywedodd y meddyg wrthyf, fe argyhoeddais fy hun mai canser ydoedd ac nad oeddwn yn mynd i fyw. Roedd yn ergyd ofnadwy, a dechreuais feddwl am yr holl bethau nad oeddwn wedi’u cyflawni yn fy mywyd hyd yma.”

Diolch i’r drefn, bu llawdriniaeth Samantha yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd yn llwyddiannus ac er bod y tiwmor ganddi o hyd, nid yw’n achosi trafferthion ac mae’n gallu byw bywyd cymharol normal, gyda sganiau MRI cyson a phrofion ar ei llygaid i fonitro iechyd ei hymennydd.

Ar ôl cymryd amser i wella, dychwelodd Samantha i PDC i ailafael mewn rhannau o’r astudiaethau a gollodd, cyn treulio blwyddyn yn Llundain mewn lleoliadau gwaith gyda rhai o enwau mwyaf y diwydiant.

“Cefais gyfres o interniaethau gyda labeli yn cynnwys Julien Macdonald, Ted Baker a GTIG London, sy’n gwneud dillad ar gyfer pob math o siopau’r stryd fawr megis Primark, Zara, Bonmarche a hyd yn oed rhai archfarchnadoedd,” meddai.

“Roeddent i gyd yn gwbl wahanol, ac fe helpodd hynny fi i ganolbwyntio ar y cwsmer wrth ddylunio dilledyn yn hytrach na dilyn y ffasiwn ddiweddaraf yn unig. Fe ddysgais lawer am sut mae’r diwydiant yn gweithio, a chefais gyfle i wella fy CAD [cynllunio drwy gymorth cyfrifiadur] yn sylweddol, a oedd yn hynod werthfawr. 

Drwy gydol ei hastudiaethau, bu Samantha’n gweithio ar gynlluniau sy’n benodol yn bodloni gofynion y cwsmer, yn cynnwys dilladau ar gyfer pobl a gollodd fraich neu goes, sydd wedi’i helpu i fireinio ei chreadigrwydd datrys problemau.

Mae’r casgliad a wnaeth ar gyfer ei gradd yn canolbwyntio ar fenywod sy’n gweithio, a’r modd y mae cymaint ohonynt wedi gorfod addasu i weithio gartref yn ystod pandemig Covid-19.

“Roeddwn yn awyddus i greu dillad gwaith nad oedd fel popeth oedd wedi bod o’r blaen,” meddai.

“Fe wnes i gyfres o ddilladau yr oedd modd eu haddasu i wahanol amgylchiadau, o eistedd ar y soffa, i fynd i gyfarfod busnes, i fynd allan am ddiod ar ôl gwaith – gan fynd i’r afael â’r hyblygrwydd yr oedd ei angen ar fenywod dros y 18 mis diwethaf.

“Fe wnes i hefyd ddefnyddio’r cysyniad o roi grym i fenywod o ran eu llesiant meddyliol, gan fod y pandemig wedi bod mor galed ar gymaint o bobl. Rhai dyddiau, gall codi o’r gwely a gwisgo i wynebu diwrnod arall fod yn heriol, felly roeddwn am ystyried hynny hefyd.

“Mae PDC wedi bod yn anhygoel o gefnogol drwy gydol fy nghyfnod ar y cwrs. Mae’r darlithwyr yn gofalu amdanom fel pe byddem yn aelod o’r teulu, ac maen nhw’n wirioneddol ganolbwyntio ar helpu ni i fod y gorau posib y gallwn ni. Dod i astudio yma oedd y penderfyniad gorau a wnes i erioed.”