
Roedd 100% o’n myfyrwyr BA (Anrh) Dylunio Ffasiwn yn fodlon â’u cwrs - Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2022
Bydd gradd Dylunio Ffasiwn PDC yn ymestyn eich astudiaeth y tu hwnt i'r brifysgol, felly byddwch hefyd yn cael profiad o'r diwydiant ffasiwn cyn i chi raddio.
Rydyn ni wedi creu amgylchedd dysgu sy'n sefydlu'r diwylliant, y priodoleddau a'r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer bywyd ar ôl graddio. Byddwch yn cymryd rhan mewn meddwl dylunio ac yn dysgu sut i ddatrys materion cymhleth dylunio, deall cynaliadwyedd a llwyddiant masnachol, a datblygu eich gweledigaeth greadigol gref. Ond yr allwedd i'r radd hon yw chi. Rydym am eich helpu i gyflawni eich nodau a'ch helpu i ddod o hyd i'ch lle.
Byddwch yn astudio ar gampws creadigol PDC yng nghanol Caerdydd. Mae ein stiwdios yn cynnig golygfeydd o'r ddinas, a mannau cymdeithasol ar gyfer cynhyrchu syniadau a chydweithio â myfyrwyr eraill. Mae ein holl gyfleusterau wedi’u hadeiladu’n bwrpasol ac o safon diwydiant, felly byddwch chi’n profi sut beth yw gweithio yn y diwydiant ffasiwn tra byddwch chi’n astudio, gan eich helpu chi i baratoi ar gyfer eich yfory, heddiw.
Rydym yn credu mewn agwedd wrth-elitaidd a chynhwysol at ffasiwn. Rydym yn herio elfennau problematig y diwydiant, tra’n anrhydeddu potensial ffasiwn i fod yn radical, ysgogol, arloesol a chroesawu sbectrwm llawn y ddynoliaeth.
Rydym yn ceisio addysgu anghydffurfwyr a gwneuthurwyr newid. Mae ein graddedigion yn gwneud gwahaniaeth trwy eu gwaith. Maen nhw’n defnyddio ffasiwn fel ffordd o fynd i’r afael â materion go iawn, fel anabledd, gwleidyddiaeth, anghydraddoldeb hiliol, hawliau gweithwyr dilledyn, a materion amgylcheddol.
Yn y 10 uchaf yn gyffredinol ac yn y 5 uchaf yn y DU am addysgu a boddhad cwrs ar gyfer Ffasiwn a Thecstilau. (Canllaw Prifysgolion y Guardian 2023)
Dilynwch Ffasiwn PDC ar Instagram
2023 | Cod UCAS | Dull Astudio | Hyd | Dyddiad cychwyn | Campws | Cod Campws |
W230 | Llawn amser | 3 blynedd | Medi | Caerdydd (ATRiuM) | B | |
Rhan amser | 6 blynedd | Medi | Caerdydd (ATRiuM) | B | ||
W231 | Rhyngosod | 4 blynedd | Medi | Caerdydd (ATRiuM) | B | |
2024 | Cod UCAS | Dull Astudio | Hyd | Dyddiad cychwyn | Campws | Cod Campws |
W230 | Llawn amser | 3 blynedd | Medi | Caerdydd (ATRiuM) | B | |
Rhan amser | 6 blynedd | Medi | Caerdydd (ATRiuM) | B | ||
W231 | Rhyngosod | 4 blynedd | Medi | Caerdydd (ATRiuM) | B |
Cyrsiau Cysylltiedig

Mae ein Campws Caerdydd yng nghanol y ddinas - y cartref perffaith i'n myfyrwyr diwydiannau creadigol. Rydyn ni newydd orffen cyfnod newydd o fuddsoddi a datblygu campws, felly gallwn ni gynnig mwy fyth o gyfleusterau arbenigol.

Y gymuned a'r cyfeillgarwch y byddwch chi'n ei adeiladu sy'n gwneud y lle hwn yn arbennig. Y tu allan i'ch astudiaethau gallwch brofi ein cyfleusterau chwaraeon anhygoel ac Undeb y Myfyrwyr.

Mae byw mewn Neuaddau yn ffordd wych o gwrdd â phobl newydd a gwneud ffrindiau. Mae gennym lety o ansawdd uchel yn Treforest, Caerdydd a Chasnewydd.