Oriel PDC yn ailagor gydag arddangosfa newydd bwerus

27 Medi, 2021

Speak to Me launch 1.jpg

Mae prosiect sy'n dod â chefnogaeth i ffoaduriaid sydd wedi ailsefydlu yn cael ei ddathlu ym Mhrifysgol De Cymru gyda'r arddangosfa gyntaf ar y campws ers pandemig COVID-19.

Ail-agorodd Oriel y Bont, yr oriel ar Gampws Trefforest PDC, ddydd Gwener 24 Medi gyda lansiad Siarad â fi - arddangosfa sain a lluniau sy'n dathlu prosiect adrodd storïau llwyddiannus, wedi'i hwyluso gan yr ymchwilydd a'r darlithydd Ysgrifennu Creadigol, Barrie Llewelyn.

Parwyd ffoaduriaid o Syria a Swdan sydd wedi ailsefydlu gyda gwirfoddolwyr o gymuned PDC mewn cyfres o Weithdai Ysgrifennu Creadigol, a gynhaliwyd ar ddechrau 2020.

Anogodd y gweithdai'r partneriaid i rannu eu storïau am ddathlu, bwyd a chyfeillgarwch.

Fe greodd y dull partneriaeth awyrgylch o gydweithredu a hyder, wrth i’r ffoaduriaid gael eu hannog i ddefnyddio Saesneg mewn ffordd greadigol a mynegiannol.

Nod y prosiect Siarad â fi oedd y byddai sgyrsiau creadigol rhwng pobl yn gwella'r gwaith sy'n cael ei wneud mewn dosbarthiadau ESOL (Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill) yn PDC i gynorthwyo i gaffael sgiliau iaith.  Roedd hefyd yn helpu i hyrwyddo gwell dealltwriaeth rhwng cymunedau.

Comisiynwyd artistiaid a graddedigion PDC, Marina Iodice a Robert Oros, i greu'r arddangosfa, a oedd i fod i gael ei dangos yng ngwanwyn 2020, cyn i'r pandemig orfodi cau Oriel y Bont.

Agorwyd yr arddangosfa yn swyddogol gan Beverley Humphreys - cyflwynydd BBC Radio Wales a chanwr opera o Bontypridd, sydd wedi bod yn gweithio gyda ffoaduriaid ers sawl blwyddyn ac wedi helpu i gysylltu teuluoedd lleol â'r prosiect Siarad â fi.

Clywodd y digwyddiad hefyd gan ddau ffoadur sydd wedi ailsefydlu yn ardal Trefforest ac wedi elwa o fod mewn partneriaeth â siaradwyr Saesneg lleol, i wella eu sgiliau iaith a dod i adnabod mwy o bobl yn y gymuned.

Wedi'i noddi gan PDC a Llenyddiaeth Cymru, mae Siarad â fi yn Oriel y Bont tan 22 Hydref, ac mae'n cynnwys casgliad o ffotograffau a chardiau post a ysgrifennwyd yn ystod y gweithdai, yn ogystal â fideo a sain o'r ffoaduriaid a'u partneriaid mewn sgwrs. Am ragor o wybodaeth, ewch i https://gallery.southwales.ac.uk/oriel-y-bont-gallery/beth-sy-mlaen/

Mae prosiectau fel Siarad â fi yn rhan o waith PDC fel Prifysgol Noddfa, sy'n cydnabod ei hymrwymiad i greu diwylliant o groeso i bobl sy'n ceisio noddfa o fewn, a thu hwnt, i'w champysau. Darganfyddwch fwy am y gwaith hwn ar ein gwefan.