Sesiynau ceiropracteg am bris gostyngol i ddathlu pen-blwydd clinig y brifysgol yn 21
20 Ionawr, 2021
Mae Athrofa Ceiropracteg Cymru (ACC/WIOC) ym Mhrifysgol De Cymru (PDC) yn cynnig anrheg arbennig i gleifion i ddathlu ei phen-blwydd yn 21 oed.
O ddechrau mis Chwefror tan Pasg 2021, bydd holl brisiau gofal ceiropracteg yn WIOC – sydd ger gorsaf Trefforest - yr un fath ag yr oedden nhw yn 2000, pan sefydlwyd y clinig. Bydd hyn yn golygu y bydd ymgynghoriadau cychwynnol yn costio £15, ac unrhyw driniaethau yn £10.
Darperir y gwasanaethau a gynigir yn WIOC gan fyfyrwyr ceiropracteg PDC, o dan oruchwyliaeth ceiropractyddion cofrestredig. Mae'r sesiynau'n caniatáu i'r myfyrwyr gwblhau rhannau ymarferol eu graddau, sy'n ofynnol er mwyn graddio o'r cyrsiau ceiropracteg.
"Gan ei bod yn ben-blwydd yn 21 oed arnon ni eleni, penderfynwyd gwneud rhywbeth er budd cleifion y clinig, rhywbeth a allai helpu rywfaint mewn cyfnod arbennig o anodd i lawer," dywedodd yr Athro David Byfield, sy'n arwain WIOC.
"Rydyn ni wedi sicrhau bod y safle'n barod ar gyfer cleifion, staff a myfyrwyr, a bod y rheolau Covid i gyd yn cael eu dilyn. Rydyn ni am sicrhau bod pawb sy'n dod i'r adeilad yn cael eu diogelu ac yn teimlo'n ddiogel tra byddant yn cael ymgynghoriad neu driniaeth.
"Rydyn ni hefyd yn gobeithio, drwy ddarparu cymorth a allai helpu i dynnu’r pwysau oddi ar wasanaethau iechyd eraill, sy’n wynebu galw mawr ar hyn o bryd, y gallwn helpu i leddfu rhywfaint o'r straen hwnnw, a rhoi cymorth i'n cymuned leol ar adeg pan all fod yn ddefnyddiol iawn."
I gael rhagor o fanylion, ewch i https://www.southwales.ac.uk/chiropractic-clinic/