Ceiropractyddion PDC yn ennill clwb myfyrwyr y flwyddyn FICS
13 Mai, 2021
Mae clwb myfyrwyr Ceiropracteg Chwaraeon PDC, yn Sefydliad Ceiropracteg Cymru (WIOC), wedi cael ei gydnabod yn seremoni gloi Symposiwm Byd-eang Ffederasiwn Rhyngwladol Ceiropracteg Chwaraeon (FICS).
Arweinwyr yn y diwydiant ceiropracteg, a chydag aelodaeth fyd-eang, mae FICS yn cyflwyno gwobrau amrywiol i'r rhai sydd wedi cyfrannu at arbenigedd proffesiynol ceiropracteg chwaraeon.
Derbyniodd Louisa Conradi, myfyriwr Meistr Ceiropracteg ail flwyddyn a Llywydd y Clwb, wobr Clwb Myfyrwyr FICS 2021 ar ran y clwb.
Meddai Louisa: “Ers cychwyn y clwb yr haf diwethaf, rydym wedi tyfu i 40 aelod ac yn 2021 rydym wedi cynnal digwyddiadau misol gyda siaradwyr gwadd. Dywedodd FICS fod y modd yr ydym wedi gweithio’n galed i sefydlu clwb newydd, yn ystod y pandemig, yn ogystal â’n presenoldeb trawiadol ar y cyfryngau cymdeithasol wedi creu argraff arnynt.
“Mae'n ymdrech tîm serch hynny, a hoffwn estyn diolch i'm cyd-fyfyrwyr, Sam Tiley, Alison Lee, a Megan Brown."
Gall aelodau o glwb myfyrwyr FICS gael gafael ar fudd-daliadau, fel gostyngiadau ar gyfer digwyddiadau FICS a chynllun mentora ar gyfer myfyrwyr blwyddyn olaf.
Dywedodd yr Athro David Byfield, Pennaeth Gwasanaethau Clinigol WIOC: “Mae hon yn enghraifft dda iawn o fenter myfyrwyr i ymgysylltu â phartneriaid allanol a datblygu rhwydweithiau byd-eang a fydd o fudd i’n myfyrwyr ar ôl iddynt raddio. Ar yr un pryd, sefydlu PDC fel sefydliad blaengar sy’n cefnogi dyheadau gyrfa myfyrwyr.”