Diwrnod Rhyngwladol y Nyrsys: "Rwy'n berson gwahanol ers penderfynu hyfforddi i fod yn nyrs"

12 Mai, 2021

Maximus Aeon.JPG

I ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Nyrsys ar 12 Mai, rydyn ni wedi bod yn siarad â Maximus Aeon, sy’n weithiwr cymorth iechyd meddwl fydd yn dechrau ar gwrs gradd mewn Nyrsio Iechyd Meddwl yn PDC ym mis Medi eleni.

Dywedodd Maximus, sy’n 37 oed, ac sydd ar fin cwblhau Tystysgrif Addysg Uwch mewn Addysg Gweithwyr Cymorth Nyrsio Gofal Iechyd yn PDC, fod dychwelyd i addysg yn golygu goresgyn heriau enfawr.

Ar ôl cael diagnosis ADCG (Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd) fel oedolyn, bu'n rhaid i Maximus ail-ddysgu sut i fynd i’r afael â sawl agwedd ar y cwrs, gan gynnwys ysgrifennu aseiniadau, darllen gwerslyfrau a hyd yn oed sut i ganolbwyntio yn ystod darlithoedd.

"Rwyf wedi byw mewn llawer o wahanol wledydd ac felly symudais o ysgol i ysgol yn aml," dywedodd Maximus, sy'n byw ym Mae Caerdydd gyda'i ddyweddi Stavroula.

"Bues i’n yr ysgol yng Ngwlad Groeg, yn y DU ac yn yr Unol Daleithiau. Doedd athrawon ddim yn fy neall i, a thyfais yn fyfyriwr digon lletchwith. Wrth edrych yn ôl, rwy'n sylweddoli y gallai fy nhrafferthion gyda dysgu fod yn ganlyniad i fy ADCG."

Ar ôl dechrau gweithio ym maes gofal iechyd bum mlynedd yn ôl, cyfarfu Maximus â chlaf dementia a'i hysbrydolodd i ddilyn ei freuddwyd o fod yn nyrs.

"Newidiwyd fy mywyd gan un fenyw roeddwn i’n gofalu amdani mewn cartref nyrsio yng Nghanolbarth Lloegr," meddai.

"Roeddwn i'n rhoi gofal un-wrth-un iddi, ac felly des i i’w hadnabod hi’n dda. Byddai'n cael pyliau seicotig difrifol, ac ar ôl blynyddoedd o weithio ochr yn ochr â nyrsys yn y sector, apeliodd y rôl ataf, a dyma benderfynu gwneud cais am y Dystysgrif Addysg Uwch yn PDC.

"Roeddwn i'n gwybod fy mod i eisiau deall mwy am yr hyn sy'n digwydd yn ymennydd claf pan fo’n cael problemau iechyd meddwl, felly cyn dechrau'r cwrs, darllenais gymaint ag y gallwn am wahanol agweddau ar yr arbenigedd nyrsio hwn – gan gynnwys niwroleg, seicoleg a hyd yn oed y gyfraith, gan fod llawer o gleifion iechyd meddwl yn cael eu hanfon i’r ysbyty o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl."

Tra’n paratoi ar gyfer y brifysgol, cyfarfu Maximus â Stavroula – ei bartner erbyn hyn – sy'n seicolegydd ac yn seicotherapydd. Fe'i helpodd i ddeall y meysydd ymchwil sy'n cysylltu nyrsio a gofal iechyd meddwl, a sut mae seicoleg yn cael ei defnyddio fel offeryn arsylwi ar gyfer trin cleifion iechyd meddwl.

Yn rhan o'r cwrs Tystysgrif Addysg Uwch dwy flynedd, rhan amser, mae Maximus wedi treulio sawl cyfnod mewn lleoliadau gofal arbenigol, gan gynnwys Heatherwood Court, ysbyty diogelwch isel ym Mhontypridd sy'n cynnig triniaeth ac adsefydlu i ddynion a menywod ar lwybr gofal iechyd meddwl fforensig.

"Mae cyfathrebu’n rhan enfawr o ofalu am gleifion yn Heatherwood, a hyrwyddo hunanofal a'u helpu i fagu hyder a hunangred," ychwanegodd.

"Ein nod yw adsefydlu cleifion fel eu bod yn gallu dychwelyd i leoliadau gofal cymunedol."

Wrth iddo agosáu at ddiwedd ei gwrs, mae Maximus yn edrych ymlaen at ddechrau ei radd mewn Nyrsio Iechyd Meddwl yn PDC. Hoffai hefyd astudio Gradd Meistr mewn Niwrowyddoniaeth yn y dyfodol.

"Fy mreuddwyd yw gweithio mewn gofal seiciatrig arbenigol, mewn ysbyty iechyd meddwl er enghraifft, neu mewn lleoliad diogelwch canolig i uchel, fel carchar. Byddwn hefyd wrth fy modd yn gweithio mewn sefydliad iechyd meddwl plant, oherwydd rwy'n credu y gallwn helpu atal problemau iechyd meddwl drwy weithio gyda phlant ifanc, cyn blynyddoedd eu glasoed."

Enwebwyd Maximus yn ddiweddar gan ei diwtoriaid ar gyfer Gwobrau blynyddol Rhagoriaeth Myfyrwyr a Mentoriaid Nyrsio a Bydwreigiaeth PDC, i gydnabod ei ymrwymiad ysbrydoledig at ddysgu.

"Pan gefais yr e-bost i ddweud fy mod wedi cael fy enwebu, roeddwn i’n meddwl ei fod wedi ei anfon mewn camgymeriad," dywedodd.

"Roedd yn anodd gen i gredu bod fy nhiwtoriaid wedi dweud pethau mor hyfryd amdana i! Ond a dweud y gwir, oni bai am y gefnogaeth rwyf wedi ei chael  gan bawb yn PDC – yn enwedig fy nhiwtor personol, Dr Steve Walden, a fy nhiwtor Sgiliau Astudio, Jane Kent – allwn i ddim bod wedi llwyddo.

"Os ydych chi'n credu ynoch chi'ch hun ac yn angerddol dros ofalu am bobl a'u helpu yn ystod eu cyfnodau tywyllaf, yna all dim byd eich atal chi rhag cyflawni eich nod o fod yn nyrs.”

Dywedodd Dr Steve Walden, darlithydd mewn Nyrsio Anabledd Dysgu yn PDC: "Maximus yw un o'r myfyrwyr mwyaf ysbrydoledig i mi erioed gael y pleser o'i addysgu. Mae'n ddawnus iawn yn academaidd, ond y tu hwnt i hynny mae'n reddfol, ac mae ganddo empathi naturiol i'w gleifion sydd, yn fy barn i, yn dod o oresgyn ei heriau ei hun. Mae wir eisiau helpu eraill i oresgyn eu rhai nhw. Bydd yn mynd ymlaen i wneud gwahaniaeth cadarnhaol ym mywydau'r rhai sydd yn ei ofal, i'w broffesiwn dewisol, ac i'r gwyddorau gofal iechyd.”