
Ymhlith yr 20 uchaf yn y DU ar gyfer Nyrsio Cyffredinol - Tabl Cynghrair y Guardian 2023
Mae nyrsio yn broffesiwn heriol ond gwerth chweil sy'n canolbwyntio ar ofal pobl. Fel nyrs iechyd meddwl, eich rôl yw hyrwyddo a chefnogi adferiad unigolyn a'i alluogi i gael mwy o ran a rheolaeth dros ei gyflwr.
Mae'r radd nyrsio iechyd meddwl tair blynedd hon yn cyfuno theori ac ymarfer mewn ffordd arloesol, i ganolbwyntio ar ofal pobl â phroblemau iechyd meddwl ar draws ystod eang o leoliadau gofal iechyd. Mae'r cwrs hwn yn rhan o'r maes pwnc Nyrsio a Bydwreigiaeth sydd ar y brig yng Nghymru am foddhad ac addysgu cyrsiau - Tabl Cynghrair y Guardian Tabl 2021.
Bydd cwblhau'r radd Nyrsio Iechyd Meddwl hon yn llwyddiannus yn caniatáu mynediad i Gofrestr y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (NMC) fel Nyrs Iechyd Meddwl cymwys. Ar hyn o bryd, os ydych chi'n fyfyriwr yn y DU, bydd y ffioedd ar gyfer eich cwrs nyrsio yn cael eu talu gan Lywodraeth Cymru.. Dilynwch y Gwyddorau Gofal ar Twitter ac Instagram.
Cwrs wedi'i gymeradwyo gan NMC

2023 | Cod UCAS | Dull Astudio | Hyd | Dyddiad Cychwyn | Campws | Cod Campws |
B760 | Llawn amser | 3 blynedd | Mawrth | Glyntaff | A | |
B704 | Llawn amser | 3 blynedd | Medi | Glyntaff | A | |
2024 | Cod UCAS | Dull Astudio | Hyd | Dyddiad Cychwyn | Campws | Cod Campws |
B760 | Llawn amser | 3 blynedd | Mawrth | Glyntaff | A | |
B704 | Llawn amser | 3 blynedd | Medi | Glyntaff | A |

Mae Campws Pontypridd yn cynnwys dau safle: Trefforest a Glyntaff. Mae ein myfyrwyr wrth eu bodd â'r awyrgylch cymunedol, yn ogystal â byw ac astudio yn yr un lle. Mae'n dawelach na'r dinasoedd, gyda mannau agored gwyrdd a golygfeydd ar draws y cwm.

Y gymuned a'r cyfeillgarwch y byddwch chi'n ei adeiladu sy'n gwneud y lle hwn yn arbennig. Y tu allan i'ch astudiaethau gallwch brofi ein cyfleusterau chwaraeon anhygoel ac Undeb y Myfyrwyr.

Mae byw mewn Neuaddau yn ffordd wych o gwrdd â phobl newydd a gwneud ffrindiau. Mae gennym lety o ansawdd uchel yn Treforest, Caerdydd a Chasnewydd.