Gofal Iechyd

Canolfan Efelychu Clinigol

Ein hymagwedd at addysgu yw trochi myfyrwyr yn llawn ym myd gofal iechyd, gyda dysgu ac addysgu sy’n rhychwantu theori ac ymarfer, ac sy’n sicrhau bod ein myfyrwyr yn cael y paratoad gorau posibl ar gyfer eu gyrfaoedd yn y dyfodol.

Gofal Iechyd
A nursing student is being supervised while carrying out an eye examination on an adult dummy.

Mae ein Canolfan Efelychu Clinigol wedi'i hadeiladu'n bwrpasol gyda hyn mewn golwg. Mae myfyrwyr yn dysgu y tu hwnt i'r ystafell ddosbarth mewn amgylcheddau efelychiadol cyn ymgymryd â lleoliadau dan oruchwyliaeth.


PAM GOFAL IECHYD YN PDC?

A group of nursing students stood in a line taking instructions from a nursing lecturer in the clinical simulation centre
Nursing alumni, Megan, wearing blue scrubs stood in front of red backdrop holding on to the back of a chair
Three health students practicing CPR on a mannequin in the clinical simulation centre

Profwch ein Canolfan Efelychu Clinigol

Student nurses taking care of mannequin patients in the clinical simulation centre.

Amgylchedd Trochi Llawn

Gall gofal iechyd ddigwydd mewn amrywiaeth o leoliadau gydag anghenion gofal gwahanol yn cael eu cyflwyno gan bob claf, mae ein canolfan efelychu yn dynwared senarios sy'n rhychwantu taith y claf o un lleoliad i'r llall, a rhwng grwpiau proffesiynol.

Boed hyn cyn ysbyty, trwy ofal sylfaenol mewn Practis Meddyg Teulu, yn y gymuned yng nghartref y claf ei hun, neu mewn gofal eilaidd yn yr ysbyty, mae pob lleoliad yn cael ei ail-greu ar y campws i fyfyrwyr - gan ddarparu amgylchedd trochi llawn sy'n efelychu ymarfer bywyd go iawn.