Myfyrwraig a raddiodd mewn Ffasiwn yn sefydlu ei busnes yng nghanol pandemig

18 Mai, 2021

Ffion Williams fashion graduate.jpg

Pan roddwyd Ffion Williams, un o raddedigion Prifysgol De Cymru (PDC) ar ffyrlo o'i swydd fel dylunydd gweuwaith, doedd hi ddim yn siŵr beth oedd ei rhagolygon o ran ei gyrfa.

Ond penderfynodd Ffion, sy’n 24 oed ac yn dod o Gonwy, ac a raddiodd gyda gradd dosbarth cyntaf mewn Dylunio Ffasiwn yn 2019, greu mygydau wyneb cotwm o ddarnau ffabrig oedd ganddi dros ben – ac mae bellach yn rhedeg ei busnes ei hun, yn cyflenwi siopau ledled Cymru.

Roedd hi’n creu mygydau am ddim ar gyfer gweithwyr allweddol i ddechrau, ac yna dechreuodd rannu delweddau o'i gwaith ar y cyfryngau cymdeithasol. Yn fuan iawn, dechreuodd dderbyn ceisiadau gan bobl oedd am brynu'r mygydau iddyn nhw eu hunain.

Roedd ei chasgliad ar gyfer sioe’r graddedigion - a ddangoswyd hefyd yn Wythnos Ffasiwn Graddedigion Llundain – wedi ei ysbrydoli gan dreftadaeth Cymru, ac yn defnyddio patrymau sydd i’w gweld mewn blancedi tapestri traddodiadol. Yn hael iawn, cyfrannodd y felin wlân yn Sir Benfro, Melin Tregwynt, ffabrigau i'w defnyddio yn ei dyluniadau.

Felly, ar ôl sefydlu ei busnes, Ffion Wyn Artisan, aeth ati i greu fersiynau print o'r patrymau tapestri ar gyfer ei chynnyrch.

"Creu ambell fwgwd oedd y bwriad i ddechrau, i weld a fyddai unrhyw ddiddordeb yn eu prynu nhw," meddai Ffion, sy'n byw yng Nghaerdydd ar hyn o bryd ac sy'n gweithio fel dylunydd gweuwaith.

"Dim ond rhyw 20 masg wnes i, mewn dau liw gwahanol, a chyn gynted ag yr ymddangoson nhw ar fy Instagram a Facebook, cysylltodd siop anrhegion Adra o Gaernarfon a gofyn a fyddwn i'n ystyried creu ambell gynnyrch unigryw ar eu cyfer.

"Yn amlwg roddwn i wrth fy modd, ac fe greais fygydau mewn pedwar lliw gwahanol iddyn nhw. Yna gofynnodd y perchennog am sgarffiau cotwm yn yr un ffabrig. O hynny ymlaen, llifodd archebion i mewn a ’nghadw i'n brysur iawn!"

Roedd Ffion yn rhannu tŷ ar ddechrau'r pandemig, gyda chyfyngiadau lleol ar waith, ac felly roedd hi’n creu’r cynnyrch i gyd ar ei phen ei hun yn ei hystafell wely yn ystod misoedd cynnar y busnes.

Pan ddechreuodd y cyfyngiadau gael eu llacio yn haf 2020, llwyddodd i fynd adref i’r gogledd a gweld ei theulu am y tro cyntaf ers misoedd – a llwyddodd i recriwtio ei mam i helpu gyda’r archebion oedd yn prysur gynyddu.

Wrth i drigolion ei thref enedigol ddod i wybod am ei busnes, gofynnodd dwy siop leol – Siop Wyn yng Nghonwy a Siop Lewis yn Llandudno – iddi wneud mygydau iddyn nhw, yn ogystal ag ategolion gwallt fel ‘scrunchies’ a bandiau gwallt.

"Pan es i adref, es i â fy ffabrigau i gyd a’r peiriant gwnïo gyda fi, ac yn ffodus roedd fy mam yn gallu helpu gan fy mod yn cael trafferth cyflenwi’r archebion mwy," meddai Ffion.

"Fe wnaethon ni sefydlu llinell gynhyrchu a byddai hi'n helpu drwy dorri edafedd, pinio pethau at ei gilydd; i helpu i gyflymu'r broses."

Dychwelodd Ffion i'w swydd fis Medi diwethaf, ychydig yn flinedig ar ôl creu dros 500 o fygydau ac eitemau eraill di-rif, ond mae’r busnes wedi parhau i dyfu.

"Roeddwn i'n brysur iawn yn y swyddfa ond roeddwn i dal y n awyddus i barhau â'r busnes, a dyma ddechrau ystyried sut gallwn i  werthu fy nghynnyrch mewn ffordd oedd yn golygu na fyddwn i’n gwbl ar fy mhen fy hun yn y broses gynhyrchu," meddai.

"Ar ôl darganfod y gallai'r cwmni rwy'n ei ddefnyddio i argraffu'r ffabrigau hefyd argraffu ar wahanol arwynebau, penderfynais werthu eitemau fel tyweli te, ffedogau a blancedi gan ddefnyddio fy mhatrymau unigryw, a’u gwerthu yn y cyfnod yn arwain at y Nadolig.

"Ers hynny rwyf wedi sefydlu fy ngwefan fy hun ac rwy'n dal i dderbyn archebion rheolaidd gan y siopau rwyf wedi creu cynnyrch iddyn nhw - gan gynnwys bandanas i gŵn ar gyfer Siop Wyn, sef yr eitem fwyaf anghonfensiynol rwyf wedi'i creu hyd yn hyn, mae'n siŵr gen i."

Mae Ffion hefyd wedi cyflwyno sesiynau Zoom mewn partneriaeth â Menter Iaith Caerdydd, gan ddysgu sgiliau darlunio ffasiwn i bobl drwy gyfrwng y Gymraeg. Anelwyd y sesiynau at fyfyrwyr TGAU a Safon Uwch sydd wedi colli sesiynau creadigol oherwydd dysgu gartref yn ystod y pandemig.

Ac yn ystod yr wythnosau nesaf, mae hi ar fin adleoli i Fanceinion ar ôl derbyn swydd newydd yn y ddinas.

Dywedodd: "Fe wnaeth y pandemig i fi sylweddoli mor bell mae Caerdydd o Ogledd Cymru – mae'n daith pedair awr o leiaf – ac ar ôl gweld eisiau fy nheulu gymaint, roeddwn i'n gwybod bod angen i fi fod yn nes at adref.

"Er y byddaf yn gweithio yn Lloegr, mae Ffion Wyn Artisan/Crefftau Ffion Wyn yn dal i fod yn fusnes Cymreig a byddaf yn parhau i seilio fy ngwaith ar y patrymau tapestri poblogaidd.

"Pan fydd pobl yn meddwl am dapestri traddodiadol Cymreig efallai y byddan nhw'n meddwl am flancedi hen ffasiwn, ond drwy ddefnyddio lliwiau a gweadau cyfoes, mae fy ngwaith yn teimlo'n fodern ac yn ffres. Mae ceisio creu rhywbeth gwahanol i bawb arall sy’n creu’r un math o eitemau wedi talu ar ei ganfed i fi.

"Byddaf bob amser yn hynod ddiolchgar i PDC, am roi cynifer o gyfleoedd i fi a gwneud i fi deimlo’n rhan o deulu. Mae'r darlithwyr wir yn neilltuo amser i ddod i'ch adnabod chi a gofalu amdanoch chi fel person. Yn sicr, y radd oedd dechrau hollbwysig fy nhaith tuag at fy ngyrfa ddelfrydol."