Myfyrwyr yn ffilmio llysgenhadon enwog Prostate Cymru ar ymgyrch Big Walk

7 Mai, 2021

The Crew.jpg

Mae myfyrwyr ffilm o Brifysgol De Cymru (PDC) yn gweithio gyda Prostate Cymru a'u llysgenhadon enwog - gan gynnwys yr arwr rygbi Syr Gareth Edwards a'r cyflwynydd teledu Carol Vorderman - i gefnogi ymgyrch The Big Walk.

Mae myfyrwyr BA Ffilm yr ail flwyddyn wedi bod yn gwneud ffilmiau byr gyda rhai o gefnogwyr mwyaf adnabyddus yr elusen, gan godi ymwybyddiaeth o ganser y prostad ac annog dynion i ddefnyddio'r gwasanaethau sydd ar gael iddynt.

Rhennir yr ymgyrch ar wefan Prostate Cymru a'i sianeli cyfryngau cymdeithasol heddiw (Dydd Gwener 7 Mai).

Mae'r elusen yn cynnig llinell gymorth nyrs arbenigol a gwiriwr iechyd prostad ar-lein, ac yn darparu sesiynau ymwybyddiaeth rhithwir a phecynnau cymorth i fusnesau ledled Cymru.

Os oes gan ddynion unrhyw bryderon ar ôl defnyddio'r gwasanaethau hyn, fe'u hanogir i ymweld â'u Meddyg Teulu i gael profion.

Mae'r myfyrwyr yn gweithio gyda Prostate Cymru fel rhan o'u modiwl Prosiect a Gomisiynwyd, sy'n darparu brîff byw gan sefydliad lleol, gan roi tasg fideo neu hysbyseb iddynt gyda'r nod o'u paratoi ar gyfer swyddi tebyg ar ôl iddynt raddio.

Gwirfoddolodd llysgenhadon enwog yr elusen eu hamser i gael eu cyfweld gan y myfyrwyr, gan esbonio pam mae Prostad Cymru yn achos sy'n agos at eu calonnau.

Defnyddir y fideos hyrwyddo ar gyfer hysbysebion cyfryngau cymdeithasol ac ymgyrchoedd radio yn y cyfnod sy’n arwain at The Big Walk, sy’n herio pobl i gerdded 26 milltir yn ystod mis Gorffennaf.

Yn ogystal â Carol Vorderman a Syr Gareth Edwards, mae enwogion sy’n ymddangos yn y fideos yn cynnwys y cyn chwaraewr rygbi Gareth ‘Alfie’ Thomas, yr arbenigwr garddio Terry Walton, yr actores Gavin and Stacey Melanie Walters, yr actores Stella Di Botcher a’r gantores/ysgrifennwr caneuon Mark Woolfe.

Mae Diana Fodor, sy'n wreiddiol o Hwngari, yn un o'r grŵp o fyfyrwyr BA Ffilm, sy'n gweithio fel Cynhyrchydd ar y prosiect.

Dywedodd: “Pan glywsom am ymgyrch Prostate Cymru fe wnaethom syrthio mewn cariad ag ef a gallem ar unwaith ragweld y ffordd orau o’i hyrwyddo.  Roeddem ni mor gyffrous i allu helpu'r elusen ar ôl blwyddyn mor anodd gyda'r pandemig Covid-19, ac wrth gwrs ennill profiad gwerthfawr ein hunain o weithio gyda chleient ar brosiect bywyd go iawn.

“Mae wedi bod yn heriol jyglo cymaint o amserlenni prysur, ond rydw i wedi dysgu cymaint ac mae wedi bod yn anhygoel gweithio gyda’r enwogion - maen nhw i gyd wedi bod mor hyfryd, gan roi cyngor ac awgrymiadau inni ar gyfer y dyfodol. Mae hwn yn achos rhyfeddol ac rydym yn teimlo'n ffodus iawn ein bod wedi bod yn rhan o’u gwaith codi ymwybyddiaeth i helpu i wella iechyd dynion.”

Daw Tirion Hill, 20, o Ganolbarth Cymru a bu’n gweithio fel Cyfarwyddwr ar y prosiect.

Dywedodd: “Roedd Prostad Cymru yn awyddus iawn i ni ganolbwyntio ar hygyrchedd ac amrywiaeth digwyddiad The Big Walk, yn ogystal ag arddangos eu cefnogwyr enwog, felly rydyn ni wedi gwneud dau brif fideo ar y ddwy thema hynny.

“Roedd yn llawenydd pur cwrdd a gweithio gyda chymaint o wahanol bobl, yn enwedig dros achos mor bwysig. Mae bod yn Gyfarwyddwr yn swydd llawn straen gyda phwysau mawr, ond rwy'n ffynnu arni ac yn mwynhau'r cynhyrchiant a'r creadigrwydd a ddaw yn ei sgil."

Mae Chris Leyshon, Swyddog Cymunedol a Chwaraeon yn Prostate Cymru, wedi gweithio'n agos gyda PDC ar y cydweithredu.

Ychwanegodd: “Mae'r prosiect hwn wedi bod yn brofiad anhygoel i ni fel elusen, cael gweithio gyda PDC a'n llysgenhadon ar ddeunyddiau ymgyrchu mor wych.  Mawr yw ein diolch i’r myfyrwyr am eu gwaith caled a’u hymrwymiad, yn ogystal â’r enwogion a wnaeth yr amser inni ffilmio gyda nhw mewn pob math o leoliadau.

“Mae gan y fideos hyn y potensial i achub bywyd rhywun, ac os ydyn nhw'n annog un person yn unig i fynd at eu Meddyg Teulu a chael archwiliad, yna byddwn ni wedi gwneud gwahaniaeth.

“Rydyn ni wir wedi mwynhau gweld hyder y myfyrwyr yn tyfu yn ystod y prosiect a’u helpu mewn rhyw ffordd fach tuag at eu gyrfaoedd yn y dyfodol.  Carem weithio gyda PDC ar ymgyrchoedd yn y dyfodol i'n helpu ni i dyfu fel elusen.”

I gael gwybod mwy am ymgyrch y Daith Gerdded Fawr, ewch i wefan Prostate Cymru.

Astudio Ffilm yn PDC