Sut mae partneriaeth Thales yng Nglynebwy yn ffynnu

20 Mai, 2021

Thales-logo_200x130.png

Ar ddechrau 2019, cyhoeddodd Prifysgol De Cymru (PDC), Llywodraeth Cymru a'r cwmni technoleg byd-eang, Thales, sefydlu'r Ganolfan Ecsbloetio Ddigidol Genedlaethol (NDEC) yng Nglynebwy, menter oedd yn werth £20m.

Hwn oedd y cyfleuster ymchwilio a datblygu cyntaf o'i fath yng Nghymru, ac mae wedi rhoi sylfaen i fusnesau bach a chanolig a microfusnesau brofi a datblygu eu cysyniadau digidol.

Yn ddiweddarach yn 2019, penodwyd Holly Lidbury yn Arweinydd Addysg NDEC, i gefnogi nod y Ganolfan i helpu i greu cyfleoedd gwaith ledled de-ddwyrain Cymru drwy hyfforddiant ac ymchwil digidol.

Mae Holly, a Gareth Williams, Is-lywydd Systemau Cyfathrebu a Gwybodaeth Diogel Thales, wedi bod yn esbonio sut mae NDEC wedi datblygu yn ystod ei blynyddoedd cynnar.

.

Sut mae NDEC wedi dangos ei gwerth ers ei sefydlu?

GW: Un o gonglfeini'r bartneriaeth strategol oedd creu rhywbeth gyda'n  gilydd yng Nghymru. Roedden ni’n ymwybodol bod PDC yn Brifysgol fwy diwydiant-ganolog a galwedigaethol, a dyna'r math o beth yr oedden ni’n chwilio amdano.

Mae Is-Ganghellor PDC, yr Athro Julie Lydon, wedi bod yn unigolyn sydd wedi dangos ein bod yn gallu cyflawni mwy ar y cyd nag yn unigol.  Dyna'r rheswm pam y gwnaethon ni benderfynu bod yn rhan o’r bartneriaeth.

O edrych ar yr hyn rydyn ni wedi'i gyflawni rhyngon ni, creu'r NDEC yng Nglynebwy, lansio'r rhaglen addysg y mae Holly yn ei harwain, lansio'r rhaglenni PhD, a’r agenda ymchwil.  Yn ogystal â rhai o'r

sgyrsiau newydd rydyn ni eisoes yn eu cael gyda PDC, lle mae mwy o gydgysylltiad â'n tîm ymchwil a thechnoleg ar lefel y DU, mae wedi bod yn llwyddiannus iawn hyd yn hyn.

Rydyn ni hefyd wedi bod yn ddigon ffodus i gael graddedigion o PDC yn ymuno â ni - mae gen i un sy'n gweithio i fi yn Reading – a thrwy raglen NDEC, rwyf wedi gweld y llwybr hwnnw i waith yn dechrau dod yn fyw.

Yn ystod y blynyddoedd lle rydyn ni wedi bod mewn partneriaeth, rwy’n meddwl ein bod ni wedi symud yn ein blaen yn sylweddol.

 

Sut mae’r ganolfan yng Nglynebwy yn gweithio i'r bartneriaeth?

GW: Y rhaglen gydweithredu a'r bartneriaeth wnaeth yn ein harwain ni at y lleoliad hwnnw. Wrth feddwl am y lleoliad, gweledigaeth y Cymoedd Technegol, a'r hyn maen nhw’n ceisio'i gyflawni, ei leoliad mewn perthynas â Chanolbarth Lloegr, a'r buddsoddiad sy'n digwydd yno o ran seilwaith ffyrdd, mae'n gweithio. Rwy’n meddwl y byddai’n gwneud gwahaniaeth mawr pe bai modd cysylltu’r ganolfan yn haws â Llundain.

O edrych ar y genhadaeth, awydd Thales i adeiladu gallu newydd nad oedd gyda ni yn y DU, awydd Llywodraeth Cymru i greu llwybrau gyrfa newydd, ac awydd PDC i gysylltu ei rhaglen addysg gyda’r maes, mae'n gwneud llawer iawn o synnwyr. 

 

HL: Pan glywais gyntaf eu bod yn creu’r Ganolfan hon yng Nglynebwy, fe wnes i ddeall y nod yn syth ac rwy’n gwbl gefnogol iddo.  Yr hyn sy’n dangos ei gwerth yw ei bod eisoes yn dechrau cael effaith, ac rwy'n teimlo'n lwcus iawn fy mod i’n gweithio ar rywbeth a allai effeithio ar adfywio economaidd yn yr ardal.

Byddai'n braf gweld, ymhen 20 mlynedd, bod yr effaith y gobeithiwyd amdani wedi digwydd.  Mae'r syniad yn un gwych, ac mae'r weledigaeth y tu ôl iddo yn gwneud llawer o synnwyr.

 

Pa effaith y mae NDEC wedi'i chael ar yr ardal? 

HL: Ar wahân i'r effaith ar addysg, mae’n bwysig nodi bod gyda ni bobl o'r ardal leol yn gweithio yn NDEC. Rwy'n enghraifft o hynny.  Roeddwn i ar fin symud i Lundain oherwydd y math o swyddi roeddwn i eisiau eu gwneud, ac nad oedd ar gael i fi yng Nghymru. Mae'r ganolfan hon wedi creu’r cyfleoedd hynny.

Mae gyda ni lawer o weithwyr o'r ardal leol sydd bellach yn gweithio mewn diwydiant uwch-dechnoleg, yn hytrach na'r sector cyhoeddus, lle bydden ni i gyd heb y ganolfan, mae'n debyg.

O fewn y prosiect addysg, yr hyn sy’n bwysig yw’r cysylltiadau y mae'n eu creu i bobl. Mae'n debyg y byddwn yn gweld hyn mwy maes o law gyda'r myfyrwyr rydyn ni’n gweithio gyda nhw.

Gwnaethon ni un prosiect gyda grŵp cymunedol o'r enw Go Connect, oedd yn brosiect ar raddfa fach dros chwe wythnos, i bobl nad oedden nhw mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant, ond oedd yn meddu ar sgiliau digidol a diddordeb. Roedd un o'r bobl ddaeth i'r prosiect hwnnw wedi bod yn ddi-waith ers cryn amser ond â rhywfaint o brofiad yn y sector digidol, a thrwy'r berthynas â ni a thrwy ddigwyddiadau, fe gysyllton ni ag ambell fusnes bach a chanolig a bachu ar y cyfle i hyrwyddo cyfleoedd gyda rhai o’r sefydliadau hyn, ac fe gafodd waith yn sgil hynny. Mae'n dod o Flaenau Gwent ac mae bellach yn gweithio i gwmni seiberddiogelwch sy’n prysur ennill enw iddo’i hun, ac roedd hynny'n ganlyniad uniongyrchol i'r ffaith bod yr NDEC yng Nglynebwy a'i fod yn gysylltiedig â'r grŵp cymunedol hwnnw. Mae'n enghraifft bendant o fudd NDEC.

 

Beth yw dyfodol y bartneriaeth yn eich barn chi?

GW: Rwy’n gweld dyfodol iddi mewn amryw feysydd. Gallaf weld sut gallai’r math o waith arloesol mae Holly wedi'i wneud yn y maes addysg gael ei efelychu a'i ehangu ledled Cymru.

Roeddwn i’n siarad yn ddiweddar â sefydliad ynghylch mor effeithiol y gall fod o safbwynt lefelu ar draws rhannau eraill o'r DU. Rwy’n ystyried hyn yn waith arloesol rydyn ni wedi'i wneud, a all gael ei efelychu a’i ehangu. Rwy’n gweld hyn yn datblygu ymhellach.

Rwy’n credu bod y cysylltiadau rydyn ni’n eu creu â'r byd academaidd mor bwysig o ran hybu ymchwil seiber, ac mae’r ffurf arbennig ar seiber rydyn ni’n ei wneud yn NDEC yn datblygu yn y DU, a gall y DU ddod yn ganolfan fyd-eang ar gyfer hynny. Rydyn ni wedi gweld hynny gyda Thales eisoes, lle mae'r cwmni wedi penderfynu mai NDEC yw'r ganolfan fyd-eang ar gyfer ein gwaith TW (technoleg weithredol).

Mae Thales wedi rhoi’r cam cyntaf ar waith, ond mae'n rhaid cadw'r agenda ymchwil ar waith hefyd ac edrych drwy’r amser am y peth mawr nesaf.  Felly gallaf weld hynny'n datblygu.

Gallaf ein gweld ni’n gweithredu fel angor bron, lle bydd cwmnïau eraill yn dechrau adeiladu o'n cwmpas. Gobeithio y byddwch yn dechrau creu eco-system ddiwydiannol, oherwydd bod Thales yno, yn gwmni â’r galluoedd angenrheidiol, y bydd pobl am ei ddefnyddio. Mae’n golygu y gall Glynebwy gynnig cartref da ar gyfer y math hwnnw o weithio. 

Lle'r oedd busnesau newydd yn meddwl ar un adeg bod yn rhaid iddyn nhw fynd i Gaerdydd neu Gasnewydd, byddwn i’n hoffi meddwl y bydden nhw’n ystyried Glynebwy erbyn hyn, yn enwedig os ydyn nhw’n chwilio am ddulliau penodol o brofi, neu sgiliau, neu ymchwil.

 

Sut mae'r prosiect yn cefnogi'r uchelgais o gynyddu amrywiaeth mewn STEM?

HL: Gydag NDEC, gallaf weld ei fod yn amgylchedd gwaith cadarnhaol i fenywod. Mae ymdrech ymwybodol wedi bod i gynnal nifer y menywod sy'n gweithio yno.

Rydyn ni’n gwneud llawer o ymyriadau penodol i gynyddu amrywiaeth o fewn y prosiect addysg. Gallwn ganolbwyntio ein sylw ar yr ymyrraeth gynnar. Mae pobl bob amser yn sôn am bibell sy'n gollwng wrth drafod amrywiaeth o fewn pynciau STEM, ac yn realistig mae angen i chi gyrraedd plant cyn iddyn nhw gyrraedd 11 oed.

Fydd cwmnïau ddim yn gwneud hynny ar eu pennau eu hunain, yn enwedig os mai canolbwyntio ymdrechion recriwtio ymhlith pobl ifanc 16 oed a hŷn sy’n gwneud synnwyr ariannol. 

Felly, rydyn ni wedi gallu creu ymyriadau effeithiol yn seiliedig ar ymchwil, lle gallwn dargedu'r grwpiau oedran hynny.

Rydyn ni wedi gweithio gyda'r Brownies, merched mor ifanc â phump i saith oed, i ddechrau eu helpu i ystyried y pethau hyn. Rydyn ni’n gweithio'n eithaf agos gyda rhaglen Cyber First, cystadleuaeth Cyber First Girls, ac rydyn ni’n datblygu mwy o bethau o gwmpas hynny. Gwnaethon ni hefyd gynnal digwyddiad i ferched 14 oed a hŷn ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol y Menywod.

Un o'r pethau sydd wedi dod i’r amlwg i fi yw nad mater yw hi o ferched yn meddwl na allan nhw wneud pynciau STEM, ond eu bod yn gallu teimlo’n unig gan nad oes llawer o ferched yn eu gwneud nhw, a’u bod yn ei chael hi’n anodd cysoni eu diddordeb mewn STEM â'u diddordebau a'u doniau eraill weithiau.  Fel menywod, mae gyda ni sgiliau cyfathrebu ac mae pynciau'r dyniaethau’n aml yn ein denu.

Nawr, oherwydd ein bod ni wedi cael yr amser a'r rhyddid i allu gweithredu ar hynny, gallwn greu ymyriadau i fynd i’r afael â hynny’n benodol.

Ar ôl digwyddiad y Diwrnod Rhyngwladol i Fenywod, bu modd i ni greu grŵp Menywod Ifanc mewn Seiber. Felly mae merched o bob rhan o'r DU, 14 oed a throsodd, sydd â'r diddordeb cyffredin hwn, yn gallu dod at ei gilydd, heb deimlo’n unig bellach. 

Rydyn ni’n gwneud lot o bethau, ac o ran amrywiaeth yn y sector seiberddiogelwch, mae’n bwysig i bob rhan o’r diwydiant ein bod ni’n sicrhau bod cynifer o bobl wahanol, a ffyrdd gwahanol o feddwl, yn rhan ohono. 

 

GW: Mae angen yr amrywiaeth honno arnon ni o fewn y diwydiannau seiber, achos mae’r bygythiadau yno drwy’r amser ac yn datblygu drwy’r amser.  Felly, heb gynrychiolaeth lawn o'r gwahanol ffyrdd mae gwahanol bobl yn meddwl, allwch chi ddim cael amddiffyniad seiber llawn a gwydn.       

Pan fyddwch yn siarad â Chanolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol y Llywodraeth am hyn, mae'n amlwg yn bwysig iawn iddyn nhw bod  yr amrywiaeth ehangaf bosibl o farn a methodolegau yn cael eu cynrychioli.  Rwy'n credu bod hyn yn hanfodol.

Storïau eraill

Thales a PDC i ddatblygu partneriaeth technoleg strategol

Arweinwyr Thales yn dod yn Gymrodyr PDC

Cynlluniau ar gyfer pwerdy digidol a seiberddiogelwch newydd[NG1] 

PDC yn ymuno â phartneriaeth canolfannau seiber gyda Llywodraeth Cymru a Thales

Swydd yn y Swistir wedi ysbrydoli Holly i symud i'r byd digidol