PDC yn noddi Marathon Casnewydd Cymru ABP
27 Medi, 2021
Mae Prifysgol De Cymru (PDC) wedi'i henwi'n noddwr swyddogol ar gyfer Marathon a 10K Casnewydd Cymru ABP 2021.
Bydd y rasys, a gynhelir ar ddydd Sul 24 Hydref 2021, yn dechrau ac yn gorffen o flaen Campws trawiadol Casnewydd PDC. Dyma fydd y trydydd tro i’r ddinas brifysgol groesawu’r digwyddiad, yn dilyn gohirio’r ras yn 2020 oherwydd pandemig COVID-19.
Bydd dros 4,200 o redwyr yn dilyn y llwybr 26.2 milltir, a ystyrir yn un o gyrsiau marathon mwyaf gwastad y DU. Mae'r llwybr yn mynd heibio i rai o dirnodau mwyaf eiconig y ddinas, gan gynnwys Pont Gludo Casnewydd, yn parhau ar Wastadeddau Gwent ac yna’n gorffen yn ôl ar Gampws Casnewydd PDC. Ar lan yr afon, mae'r campws yn gymuned ddysgu ar gyfer pobl, technoleg a busnes, o gwnsela i seiberddiogelwch, ac o addysg i ddeallusrwydd artiffisial.
Mae’r cyfnod cofrestru ar gyfer y marathon a’r 10k yn dal ar agor, gyda chofrestriadau'n costio £49 a £23 yn y drefn honno.
Dywedodd Matt Newman, Prif Weithredwr Run4Wales: "Rydym yn hynod falch y bydd Marathon Casnewydd Cymru ABP yn dychwelyd ar ddydd Sul 24 Hydref, gyda nifer o fesurau diogelwch COVID ychwanegol ar waith i helpu i gadw pawb yn ddiogel."
"Campws trawiadol Casnewydd yw tirnod cyntaf a therfynol y cwrs rhedeg, felly mae'n wych bod PDC yn cymryd rhan yn swyddogol fel partner i'r digwyddiad eto yn 2021."
"Dymunwn bob lwc i holl staff a myfyrwyr PDC sy'n cymryd rhan yn y rasys marathon a 10K."
Dywedodd Dr Ben Calvert, Is-Ganghellor PDC , "Fel prifysgol y rhanbarth, gyda champws yng nghanol y ddinas, mae PDC yn falch o fod yn bartner swyddogol i farathon Casnewydd Cymru ABP eleni.
"Mae’n ddigwyddiad gwych sy'n dod â phobl o bob cwr o'r byd i'r ddinas, ac rydyn ni wrth ein bodd yn bod yn rhan ohono."