GradFest21 Creadigol: Creu ffasiwn ar gyfer archwilio ar ôl Covid
24 Mehefin, 2021
Mae'r fyfyrwraig Dylunio Ffasiwn Celina Smith wedi creu casgliad graddedigion ar gyfer y sawl sydd wrth eu bodd yn yr awyr agored ac sy’n eco-ymwybodol, yn seiliedig ar y cysyniad o ddefnyddio dim ond yr hyn sydd ei angen arnom. Yn rhan o GradFest Creadigol 2021, dyma Celina, sy’n 24 oed ac yn dod yn wreiddiol o Swydd Stafford, ond sydd bellach yn byw yng Nghaerfyrddin, yn sôn am ei chyfnod yn PDC.
Pam wnaethoch chi ddewis PDC?
Clywais i am PDC gan ffrind i'r teulu, ar ôl i fi gael profiad oedd ddim yn wych mewn prifysgol arall. Roeddwn i wedi byw a gweithio yng Nghymru ers blwyddyn ac wedi syrthio mewn cariad â'r lle. Gwnaeth hyn fy mhenderfyniad i astudio yn PDC yn hawdd iawn, gan fod yr adran Ffasiwn newydd newydd gael ei chreu ac roedd wedi creu argraff wych arna i mewn Diwrnod Agored. Roedd maint y campws a’r dosbarthiadau yn ffactor pwysig i fi. Roeddwn i eisiau sicrhau bod cymaint o gymorth â phosibl ar gael i fi ac y gallwn i wir ddefnyddio'r cyfleusterau oedd ar gynnig. Hefyd, roedd y croeso cyfeillgar gan staff yn gwneud i fi deimlo mai dyma lle'r oeddwn i fod.
Ydych chi wastad wedi eisiau bod yn ddylunydd ffasiwn?
Na – yn rhyfedd ddigon, astudiais i’r Gwyddorau Iechyd yn y coleg cyn dewis astudio ffasiwn. Fy nghynllun gwreiddiol oedd bod yn nyrs bediatrig, ond sylweddolais i’n gyflym iawn nad oedd hynny’n fy nghyffroi ac nad oeddwn i mor angerddol dros y maes ag yr oeddwn i gynt, a rhoddais i’r gorau iddo o fewn mis. Bryd hynny, roeddwn i’n teimlo’n gwbl ar goll. Fy chwaer hŷn awgrymodd ffasiwn i fi. Yn 16 oed, doeddwn i ddim wedi ystyried ffasiwn fel swydd 'go iawn' ond, wrth siarad â'r pennaeth ffasiwn yn fy ngholeg lleol, fe agorodd fy llygaid i'r byd creadigol. Rwyf bob amser wedi bod wrth fy modd yn tynnu lluniau a chreu, felly roedd yn gwneud synnwyr perffaith i fi fynd ar y trywydd hwnnw - a’r bonws o allu dysgu sut i greu fy nillad fy hun.
Sut mae eich profiad yn PDC wedi’ch helpu chi i baratoi ar gyfer y diwydiant?
Mae fy mhrofiad yn PDC wedi bod yn hwyl, yn straen ac yn ysbrydoledig i gyd ar yr un pryd, ond mae wedi fy helpu i baratoi ar gyfer y diwydiant mewn cynifer o wahanol ffyrdd. Cefais i gyfleoedd anhygoel i feithrin fy ngwybodaeth a fy mhrofiad, ac rwy’n bendant o’r farn bod y cyfan wedi helpu i greu’r person creadigol ydw i nawr. Rwyf wedi bod yn ddigon ffodus i allu creu gwisgoedd ar gyfer BBC Three, cael fy nghyfweld gan ITV Cymru ar gyfer darn ar gynaliadwyedd ac rwyf hyd yn oed wedi dylunio cit tîm pêl-droed Futsal PDC. Mae’r rhain yn brofiadau na fyddwn i wedi'u cael heb PDC, ac maen nhw’n golygu y bydda i’n fwy cyflogadwy ar ôl graddio. Mae fy narlithwyr a fy nhiwtoriaid hefyd wedi fy mharatoi ar gyfer y diwydiant gan eu bod yn rhoi mewnwelediad mor onest i chi – y da a'r drwg – ac maen nhw’n aml yn gweld eich potensial cyn chi, ac mae hynny’n sicr wedi fy ngwthio i roi cynnig ar bethau y tu hwnt i’r hyn oedd yn gyfarwydd i fi. Bydda i’n ddiolchgar am byth am y cyfleoedd gafodd eu rhoi i fi.
Beth ysbrydolodd eich casgliad graddedigion?
Mae fy nghasgliad graddedigion yn ymwneud â'n hawydd i fod allan yn y byd eto, ar ôl Covid. Mae'r pandemig wedi gwneud i ni i gyd sylweddoli bod rhyddid a bod yn yr awyr agored yn bethau na ddylen ni eu cymryd yn ganiataol. Wrth dreulio’r cyfnodau cloi wedi fy amgylchynu gan dirweddau gwledig a hel atgofion am wersylla fel plentyn, penderfynais archwilio'r cysyniad o'r angen am 'yr hanfodion' ac ymarferoldeb wrth fod allan yn yr awyr agored. Mae'r syniad o 'ddefnyddio dim ond yr hyn sydd ei angen arnoch chi' yn feddylfryd gwahanol iawn i'r ffordd rydyn ni'n prynu dillad fel arfer.
Ges i fy ysbrydoli i feddwl am fy ôl troed economaidd fy hun, a chreu casgliad digidol oedd y ffordd ymlaen o ran peidio ag ychwanegu at wastraff presennol y diwydiant. Mae craidd fy nghasgliad wedi ei yrru gan gynaliadwyedd ac ymarferoldeb. Treuliais i amser yn ymchwilio i dueddiadau di-dymor ac awydd newydd i fod yn gyffyrddus yn yr awyr agored. Roeddwn i eisiau creu dillad awyr agored moethus i annog math newydd o anturiwr ymwybodol, dillad oedd yn foethus ac yn para, yn gallu cael eu gwisgo a’u trosglwyddo rhwng cenedlaethau am flynyddoedd i ddod.
Un o'r heriau mwyaf i fi oedd gwneud fy mlwyddyn olaf a’r casgliad graddedigion yn gyfan gwbl o gartref, oedd yn anodd yn gorfforol ac yn feddyliol. Mae dysgu i addasu at ffordd newydd o weithio a chyfleu eich syniadau dros sgrin yn gymhleth, oherwydd fel myfyriwr ffasiwn mae popeth mor gorfforol ac ymarferol, ac rwy'n gweithio gymaint yn well mewn mannau cydweithredol lle gall pobl eu hysbrydoli ei gilydd. Felly, roedd peidio â chael yr agwedd honno ar y cwrs yn wahanol, ond fe wnaeth i fi feddwl am bosibiliadau ffasiwn ddigidol yn y dyfodol, ac fe ddatblygais i’r sgiliau sydd eu hangen yn fy ngwaith llawrydd presennol, felly rwyf wedi elwa o'r profiad hwn mewn sawl ffordd.
Hoff ran o'r cwrs?
Mae'n rhaid mai creu fy nghasgliad terfynol, ond pe baech chi wedi dweud wrtha i yn fy mlwyddyn gyntaf y byddai fy nghasgliad terfynol yn gwbl ddigidol, fyddwn i ddim wedi’ch credu chi. Gwnaeth creu’r casgliad fy ngalluogi i ddefnyddio’r cwbl roeddwn i wedi’i ddysgu yn yr ystafell dosbarth ac yn y diwydiant, a dangos pwy ydw i fel person creadigol. Mae pawb yn gweithio mor galed ar eu casgliad terfynol, ac yn treulio amser maith arno. Rhoddodd wir ymdeimlad i fi o'r hyn rwy’n gallu ei gyflawni o weithio’n galed, a rhoddodd syniad cliriach i fi o ran sut beth fyddai cael busnes ffasiwn bach a’r holl ymchwil, profi a dylunio sy'n ofynnol ar gyfer pob casgliad. Mae'n waith caled, ond dyw hynny ddim yn codi ofn arna i o ran y dyfodol. A dweud y gwir, mae wedi gwneud i fi deimlo ’mod i wir wedi cyflawni rhywbeth?
Beth yw eich gobeithion a'ch cynlluniau am y dyfodol?
Am y tro, rwy'n canolbwyntio ar arbrofi gyda’r byd llawrydd a gweithio gyda brandiau annibynnol, gan helpu eu syniadau i ddod yn fyw tra hefyd yn adeiladu fy rhwydwaith, fy ngwybodaeth a fy lle i fy hun o fewn y diwydiant. Yn y dyfodol, byddwn i wrth fy modd yn gweithio gyda brand arloesol a chyffrous fydd yn caniatáu i fi dyfu a datblygu gyda nhw. Byddwn i hefyd yn hoffi cael profiad o weithio yn y byd teledu, y tu ôl i'r llenni - gallai hynny fod yn hwyl. Fodd bynnag, mae dechrau fy musnes fy hun ryw ddiwrnod wastad wedi bod yn nod gen i, felly gwyliwch y gofod!