GradFest21 Creadigol: Cydnabod Myfyrwyr Ffotograffiaeth Ddogfennol am eu gwaith

23 Mehefin, 2021

Matthew Harry Doc Phot.PNG

Mae myfyrwyr Ffotograffiaeth Ddogfennol ym Mhrifysgol De Cymru wedi derbyn nifer o wobrau o fri am efrydiaeth eithriadol, ysgrifennu beirniadol a gwaith arddangosfa.

Daw gwobrau Reginald Salisbury o rodd gan deulu Salisbury o Gasnewydd, ac maent yn cefnogi myfyrwyr Ffotograffiaeth PDC i ddatblygu neu gwblhau prosiectau yn eu blwyddyn olaf. Mae'r gwobrau blynyddol fel arfer yn canolbwyntio ar brosiectau sydd ag elfennau o deithio, ond oherwydd pandemig COVID-19, rhoddwyd gwobrau i fyfyrwyr am Efrydiaeth Eithriadol, Ysgrifennu Beirniadol a'r Arddangosfa o'r Gwaith Mwyaf Eithriadol, ar gyfer y flwyddyn academaidd 2020-21. Fel rhan o GradFest21 Creadigol, mae'r myfyrwyr buddugol yn dweud wrthym am eu hamser ar y cwrs.

Alex Carnie – enillydd, Gwobr Reginald Salisbury am Efrydiaeth Eithriadol

“Dewisais astudio Ffotograffiaeth Ddogfennol yn PDC ar ôl cwrdd â’r darlithwyr yn fy nghyfweliad.  Roedd y ffordd yr oeddent yn cwestiynu'r rhesymau y tu ôl i pam roeddwn i eisiau astudio ar y cwrs, a'r hyn a wnaeth fy ysgogi i dynnu lluniau, yn dangos yn glir ethos y cwrs a'r hyn a fyddai’n fy nisgwyl yn ystod y tair blynedd o ddysgu.

Er bod Ffotograffiaeth Ddogfennol yn gwrs gweledol ac ymarferol, gallwn ddweud y byddai'r addysgu'n mynd ymhell y tu hwnt i estheteg ffotograffau i'r syniadau, y cysyniadau a'r cymhellion y tu ôl iddynt. Dyma, yn fy marn i, sy'n gwneud ffotograffiaeth ddogfennol mor hynod ddiddorol ac felly ei gwneud yn glir y dylwn astudio ar y cwrs hwn.

Mae'r addysgu wedi bod yn anhygoel ac wedi fy herio i wthio fy hun cymaint â phosibl, gan arwain at brofiad gwerth chweil dros y tair blynedd. Mae'r darlithwyr i gyd wedi bod yn wych ac wedi ychwanegu eu harddulliau addysgu unigol a'u syniadau am ffotograffiaeth ddogfennol at y cwrs. Mae hyn wedi caniatáu imi brofi a chael gwybodaeth am ystod eang o arddulliau ffotograffig a mathau o waith dogfennol. Rwyf wedi cwblhau'r cwrs gyda phortffolio o brosiectau yr wyf yn hynod falch ohonynt ac yn awr yn teimlo'n hollol barod i barhau i wneud gwaith ffotograffig yn y dyfodol. "

Matthew Harry – enillydd, Gwobr Reginald Salisbury am Efrydiaeth Eithriadol

“Ar ôl fy nghyfweliad â’r Arweinydd Cwrs a thaith gerdded o amgylch y cyfleusterau, gwyddwn fy mod i eisiau dod i PDC. Mae'r cwrs wedi caniatáu imi archwilio fy angerdd am ffotograffiaeth, wrth roi'r lle i mi ddysgu mewn modd adeiladol a chefnogol.

Rwyf wedi gallu ehangu fy ngwybodaeth am y broses dechnegol ac wedi manteisio i’r eithaf ar y cyfleusterau ystafell dywyll, argraffu a sganio, nid yn unig i gynyddu fy ngalluoedd, ond i gynhyrchu gwaith na fyddwn wedi gallu ei wneud ymlaen llaw.

Trwy gydol y tair blynedd rwyf wedi cael cyfleoedd i siarad â phobl yn y diwydiant a deall lle rydw i eisiau lleoli fy hun ar ôl gadael y brifysgol.” 

Chloe Nicholls – enillydd, Gwobr Reginald Salisbury am Efrydiaeth Eithriadol

“Mae astudio yn PDC wedi bod yn brofiad anhygoel.  Gwnaeth y myfyrwyr, y darlithwyr a’r cyfleusterau i’r Brifysgol sefyll allan i mi ac wrth edrych yn ôl, rwyf mor falch fy mod wedi dewis astudio Ffotograffiaeth Ddogfennol yn PDC.  Roedd lleoliad canol y ddinas hefyd yn gyffrous iawn, gan fy mod bob amser yn breuddwydio am astudio mewn dinas brysur.

Mae'r cwrs wir wedi rhoi hyder i mi wthio fy hun ymhellach fel ffotograffydd yn yr amgylchedd cefnogol ac anogol a ddarperir gan y darlithwyr.  Mae'r modiwlau amrywiol wedi caniatáu imi arbrofi a dod o hyd i'm hunaniaeth o fewn ffotograffiaeth, ynghyd â darparu cyfleoedd i weithio'n agos gyda myfyrwyr eraill a gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant.  Mae'r gwaith yn heriol a'i nod yw cydgrynhoi'ch meddwl mewn ystod o wahanol feysydd ffotograffig.

Rydw i nawr yn gyffrous i barhau i wneud gwaith fel myfyriwr graddedig yn y diwydiannau creadigol ac ehangu fy mhrofiad a'm gwybodaeth fel ffotograffydd dogfennol.”

Katy Bird – enillydd, Gwobr Reginald Salisbury am Efrydiaeth Eithriadol

“Rydw i mor gyffrous ac mor ddiolchgar o gael fy newis ar gyfer y wobr hon. Dewisais ddod i PDC i astudio BA Ffotograffiaeth Ddogfennol oherwydd roedd ganddo enw da iawn, ac roeddwn i'n gyffrous i gael fy addysgu gan rai pobl anhygoel yn y diwydiant.

Rwyf wedi bod yn angerddol am ffotograffiaeth ers cyn cof, a dewisais Ffotograffiaeth Ddogfennol oherwydd roeddwn i eisiau arbenigo mewn genre penodol.  Mae'r radd yn ei chyfanrwydd wedi bod mor ddiddorol a chefais fy ysbrydoli gan y gymuned o amgylch y cwrs i wthio fy ngwaith ymhellach. 

Byddem yn cwrdd â thiwtoriaid bob wythnos i drafod y ffotograffau yr oeddem wedi'u tynnu a chael adborth defnyddiol gan ein ffrindiau ar y cwrs a'n tiwtoriaid. Roedd gennym hefyd bobl allanol o'r diwydiant i edrych ar ein gwaith a'n helpu i symud ymlaen ymhellach.

Fy hoff ran o'r cwrs oedd wythnos rhwydweithio lle roeddem yn gallu cwrdd â phobl greadigol sy'n gweithio yn y diwydiant i'n helpu i gasglu syniadau o'r hyn yr oeddem am ei wneud yn y dyfodol. Byddwn yn argymell y cwrs hwn i unrhyw un sy'n angerddol am ffotograffiaeth ddogfennol. Rydw i'n mynd ymlaen i astudio gradd Meistr mewn Gwleidyddiaeth i helpu i ddylanwadu ymhellach ar fy ymarfer ffotograffig. "

Eva Falk-Drake – enillydd, Gwobr Reginald Salisbury am Ysgrifennu Beirniadol

“Rwyf wedi dysgu cymaint yn ystod fy nhair blynedd ar y cwrs BA Ffotograffiaeth Ddogfennol ac wedi mwynhau fy mhrofiad yn fawr. Dewisais PDC oherwydd bod y cwrs BA Ffotograffiaeth Ddogfennol yn sefyll allan i mi. Yn flaenorol, astudiais Safon Uwch Cymdeithaseg, Gwleidyddiaeth a Ffotograffiaeth, a gwelais y cwrs hwn fel ffordd i gyfuno'r pynciau hynny â chanlyniad gweledol.

Dysgodd BA Ffotograffiaeth Ddogfennol lawer mwy i mi na sgiliau ffotograffiaeth yn unig. Caniataodd imi ddatblygu fy sgiliau ysgrifennu academaidd yn ogystal â deall dadleuon ynghylch moeseg, hil a rhyw o fewn ffotograffiaeth. Mae'r cwrs yn eich gwthio i ddatblygu sgiliau fel eich bod chi'n teimlo'n barod wrth raddio a chamu i'r diwydiant proffesiynol. Mae'r staff addysgu hefyd yn hynod galonogol a gwybodus ac mae hynny hefyd wedi bod yn rhan bwysig o’m profiad.

Nawr fy mod wedi graddio rwy'n bwriadu parhau i weithio o fewn y sector creadigol i gynnal gweithdai gyda phlant, ac yn y pen draw gwneud gradd Meistr." 

Pippa Harris – enillydd, Gwobr Reginald Salisbury am y Gwaith Mwyaf Eithriadol mewn Arddangosfa

“Mae'r cwrs Ffotograffiaeth Ddogfennol yn PDC wedi bod yn amhrisiadwy wrth fy addysgu a’m hannog i ddod yn ffotograffydd dogfennol ifanc uchelgeisiol.  Cyn dechrau yn y Brifysgol, roeddwn i wastad wedi bod â diddordeb mewn ffotograffiaeth ond prin oedd fy nealltwriaeth o'r ffyrdd y gellir ei defnyddio i greu deialog a chyflwyno persbectif trwy gyfathrebu gweledol. Ar ôl ymuno â'r cwrs, rwyf wedi cael fy annog yn frwd yn fy ngwaith gwneud delweddau corfforol a sylfaen ddamcaniaethol gwaith gyda thiwtora hyfedr gan ddarlithwyr a gydnabyddir gan ddiwydiant; rwyf wedi dysgu llawer iawn o wybodaeth a sgiliau.

Dylanwadodd y cyfleusterau a'r awyrgylch croesawgar ar fy mhenderfyniad i astudio yn PDC.  Mae staff a myfyrwyr y cwrs yn creu cymuned gynnes a chlos sy'n annog amgylchedd gwaith cefnogol.

Mae'r cwrs a'r addysgu dros y tair blynedd wedi fy ngalluogi i ymarfer ystod o dechnegau ac arddulliau sydd wedi caniatáu imi sefydlu fy arddull bersonol wrth symud ymlaen fel ymarferydd, yn ogystal â siapio awduraeth dros fy ngwaith a'm prosiectau.  Rwyf wedi gallu dysgu a sefydlu sgiliau technegol, yn ogystal â chynhyrchu prosiectau a dealltwriaeth ddamcaniaethol allweddol. Mae sylfeini'r sgiliau hyn wedi fy ngalluogi i baratoi ar gyfer gyrfa yn y diwydiant.”