GradFest21 Creadigol: “Mae PDC Caerdydd yn lle gwych i ffynnu”

22 Mehefin, 2021

Emma Greaves.png

Mae'r myfyriwr Cerddoriaeth Boblogaidd a Masnachol, Emma Greaves, eisoes yn creu argraff fawr yn y sin gerddoriaeth bop.  Fel rhan o GradFest21 Creadigol, mae'r ferch 21 oed o Gaerlŷr, sy'n perfformio fel Emma Mae Music, yn dweud mwy wrthym am ei phrosiectau diweddaraf.

Pam wnaethoch chi benderfynu astudio yn PDC?

Roeddwn i wir eisiau cael fy lleoli yng Nghaerdydd a bod yn rhan o'i sîn gerddoriaeth. Mae'n ddinas hyfryd, gyfeillgar, a gweld y cyrsiau a'r cyfleusterau Cerddoriaeth yma yn PDC oedd y ffactor penderfynu i mi.

Ydych chi wastad wedi bod eisiau astudio cerddoriaeth?

Do - astudiais i Gerddoriaeth TGAU a Safon Uwch yn yr ysgol, felly doedd e byth yn benderfyniad hynod ymwybodol – mae’n rhywbeth rydw i wastad wedi'i fwynhau, felly doedd dim angen meddwl llawer cyn penderfynu ar radd.

Ydych chi'n chwarae unrhyw offerynnau?

Rwy'n canu, yn chwarae'r gitâr ac yn ysgrifennu fy nghaneuon fy hun.

Pa fath o gerddoriaeth ydych chi wrth eich bodd yn ei gwneud?

Pan ddechreuais yn y Brifysgol, yr unig beth roeddwn i erioed wedi arfer ei ysgrifennu oedd caneuon acwstig trist, felly wnes i ddim canfod fy sain fy hun tan yr ail flwyddyn. Yna fe newidiodd yn llwyr; nawr byddwn yn ei ddisgrifio fel ‘pop chwerw’ gyda chytganau bachog. Mae'n gerddoriaeth bop optimistaidd gydag ychydig o pync.  Mae'r bobl y cyfarfûm â nhw yn gyfrifol am lawer ohono - mae fy nghynhyrchydd, Ollie, sydd hefyd ar y cwrs, bob amser wedi perfformio mewn bandiau pync, felly mae'n bendant wedi chwistrellu'r ochr honno ohono i'm deunydd ac rwy'n teimlo fel pe bai'r arddull hon y gynrychiolaeth fwyaf cywir ohona’ i, a phwy ydw i nawr.

Beth fu rhan orau'r cwrs?

Yn bendant y darlithoedd ysgrifennu caneuon gyda Matt Evans [Arweinydd Cwrs mewn MA Ysgrifennu a Chynhyrchu].  Roeddwn bob amser yn arfer ysgrifennu caneuon gan ddefnyddio'r un broses bob tro - yn eistedd gyda fy ngitâr - ond ar ôl dysgu’r gwahanol ddulliau hyn, rwyf wedi creu synau newydd na fyddwn wedi dod o hyd iddynt pe na bawn wedi dod yma, gan fy mod wedi cael fy nghyflwyno i ffyrdd newydd o ysgrifennu na fyddwn erioed wedi meddwl amdanynt.

Sut mae pandemig COVID-19 wedi effeithio ar eich astudiaethau?

Roedd yn amser rhyfedd i fod yn y brifysgol! Roeddem yng nghanol ein hail flwyddyn, yn y stiwdio recordio yn gweithio ar brosiectau ysgrifennu caneuon, pan ddywedwyd wrthym fod PDC yn cau a bod yn rhaid inni fynd adref. Yn ffodus mae gen i stiwdio wedi'i sefydlu gartref yng Nghaerlŷr, felly es i yn ôl ac ysgrifennu EP a ryddheais ym mis Gorffennaf y llynedd. Felly mewn rhai ffyrdd roedd yn gadarnhaol gan ei fod wedi rhoi amser imi weithio ar y deunydd hwnnw, na fyddwn wedi gallu ei wneud fel arall.

Enw’r EP yw What It’s Come To, ac mae pedair cân arni hi a oedd yn llawer o hwyl eu hysgrifennu. Fe gymerodd yr holl beth tua phythefnos i mi, a’r hyn a wnaf yn y caneuon yw myfyrio ar yr hyn roeddwn i’n ei golli, fel ffordd o wneud yr amser rhyfedd hwn ychydig yn fwy goddefadwy. Rwy'n hapus iawn gyda sut y cafodd ei dderbyn - hwn oedd y record gyntaf i’m cael ar BBC Introducing, felly cefais fy nghyfweld gan Dean Jackson ar gyfer BBC in the Midlands, a byth ers hynny mae wedi bod yn hynod gefnogol i bopeth rwyf wedi ei ryddhau.

Pa gerddoriaeth ydych chi wedi'i chynhyrchu ers yr EP cyntaf hwnnw?

Fe wnes i sengl ddilynol i'r EP, o'r enw Deadline, sydd i'w gweld ar y feinyl sydd wedi'i chynhyrchu ar gyfer GradFest21. Yna penderfynais ysgrifennu cân Nadoligaidd o’r enw Tis the Season, a oedd yn gydweithrediad ag ychydig o ffrindiau o’r cwrs.

Ers hynny rydw i wedi bod yn gweithio ar albwm, ac wedi rhyddhau’r sengl gyntaf, o’r enw Boys in Bands, ddiwedd mis Ebrill.  Cyrhaeddodd honno y siartiau iTunes, sy'n dal i’m rhyfeddu! Rwy'n gobeithio rhyddhau mwy o gerddoriaeth o'r albwm trwy gydol y flwyddyn.

Ac rydw i newydd ryddhau cydweithrediad o’r enw She Knows gyda DJ Yess (enw go iawn, Nilesh Champaneri), sef fy hen athro Technoleg Cerddoriaeth o’r coleg, a Sane, artist cerddoriaeth electronig.

Sut mae PDC wedi eich helpu i lunio'ch gyrfa yn y dyfodol?

Mae'r darlithwyr i gyd wedi bod yn anhygoel, ac yn ffurfio perthynas waith mor agos â'u myfyrwyr. Maent wedi dod yn ffrindiau y gallaf siarad â nhw am unrhyw beth, a chyda'r fath ehangder gwybodaeth am y diwydiant i'w drosglwyddo i ni. Mae PDC yn gymuned wych i fod yn rhan ohoni ac mae'n lle gwych i ffynnu, yn enwedig yn y diwydiannau creadigol.

Mae cerddoriaeth Emma ar gael i’w ffrydio a’i lawrlwytho ar Instagram @emmamaemusic_.