GradFest21 Creadigol: “Ro'n yn boenus o swil, ond mae PDC wedi rhoi’r hyder imi ryddhau fy ngherddoriaeth fy hun”
22 Mehefin, 2021
Mae Megan Owen, myfyriwr Cerddoriaeth Boblogaidd aMasnachol, wedi goresgyn swildod a phryder cronig i ddod yn gantores-gyfansoddwr hyderus, sicr, yn ystod ei chyfnod yn PDC.
Fel rhan o GradFest21 Creadigol, gwnaethom ofyn iddi ddweud wrthym am ei EP, 11:10, sydd ar gael i'w lawrlwytho nawr ar bob platfform ffrydio mawr, yn ogystal ag ar Instagram @meganowenmusic.
“Pan ddechreuais yn y brifysgol yn 2018, roeddwn mor bryderus a nerfus fel na wnes i unrhyw ffrindiau ar y dechrau. Ond drwy’r cwrs, rydw i wedi perfformio gyda fy ffrindiau cwrs bob wythnos ac wedi cydweithredu â chymaint o wahanol bobl, fel fy mod i wedi cymryd camau enfawr i oresgyn y swildod hwnnw a nawr, rwy’n teimlo’r mwyaf hyderus rydw i erioed wedi bod.
Cefais fy magu yn Nhonypandy, yng Nghymoedd Rhondda, ac felly roeddwn yn awyddus i gymryd y naid honno a symud i Gaerdydd i astudio yn PDC. Roedd byw mewn neuaddau myfyrwyr yn wych i mi. Cefais yr annibyniaeth honno a chwrdd â rhai o’m ffrindiau agosaf trwy wahanol grwpiau cymdeithasol.
Roeddwn i wastad eisiau bod yn gerddor; nid oedd Cynllun B i mi. Rydw i wedi chwarae'r piano ers pan oeddwn i'n ifanc iawn, ac wedi dysgu gitâr i mi fy hun, felly er bod fy nghefndir yn bennaf mewn cerddoriaeth glasurol, mae'r cwrs hwn wir wedi caniatáu imi ddarganfod pa genres rwy'n eu hoffi orau a siapio'r cerddor rydw i heddiw.
Dewisais PDC oherwydd y profiad gwych a gefais yn y Diwrnod Agored. Gallwn weld y cyfleusterau rhagorol ar Gampws Caerdydd ac roedd yn amlwg bod y cwrs wedi'i anelu at gyfleoedd gyrfa yn y diwydiant, a dyna'n union yr oeddwn i eisiau - allwn i ddim dychmygu gradd academaidd yn unig; eistedd mewn darlithoedd am dair blynedd a pheidio â bod yn barod am swydd ar y diwedd.
Un o rannau mwyaf pleserus fy amser yn PDC oedd gweithio ar yr Ŵyl Trochi, yn perfformio gyda fy mand ac yn arwain y tîm marchnata cyfryngau cymdeithasol ar gyfer y digwyddiad, a oedd yn help enfawr i adeiladu fy ngwybodaeth am y ffordd orau o ddefnyddio llwyfannau digidol i hyrwyddo fy ngherddoriaeth fy hun.
Fe wnes i ryddhau fy EP yn gynharach y mis hwn, sydd â phum cân rydw i wedi'u hysgrifennu trwy gydol fy mlwyddyn olaf.
Maent i gyd yn deillio o brofiadau personol ac yn archwilio materion fel rhyw, rhywioldeb, galar a pherthnasoedd gwenwynig - felly nid y record fwyaf hapus, ond mae wedi bod yn fecanwaith ymdopi i mi ysgrifennu'r caneuon hyn ac adlewyrchu fy nheimladau, y gall, gobeithio, bobl eraill uniaethu â nhw hefyd.
Ysbrydolir fy ngherddoriaeth yn fawr gan yr arddull acwstig drist, yn debyg i Joni Mitchell, Dodie a Phoebe Bridgers. Mae'r EP wedi cael ymateb hynod gadarnhaol hyd yn hyn, felly rwy'n hapus iawn ac yn falch ohonof fy hun.
Y cam nesaf yw gobeithio symud ymlaen i'r MA mewn Ysgrifennu Caneuon a Chynhyrchu yn PDC, a fydd yn fy helpu i barhau i wella fy sgiliau.
Rwy'n wirioneddol angerddol am wneud cerddoriaeth a byddwn yr un mor hapus yn rhyddhau mwy o'm deunydd fy hun ag y byddwn yn ysgrifennu caneuon ar gyfer pobl eraill. Ond dwi hefyd yn poeni am bobl ifanc yn cael mynediad at wersi cerddoriaeth, felly mae gen i ddiddordeb mewn gweithio gydag ysgolion yn y dyfodol a hoffwn helpu i roi'r gydnabyddiaeth a'r cyllid y mae'n ei haeddu i gerddoriaeth."
Mae cerddoriaeth Megan ar gael i'w ffrydio a'i lawrlwytho ar Instagram @meganowenmusic.