Myfyrwyr PDC yn creu ffilm emosiynol i dynnu sylw at bwysigrwydd CPR i achub bywyd

17 Mehefin, 2021

Save-A-Life-Cymru_video_still.PNG

Mae myfyrwyr Ffilm ym Mhrifysgol De Cymru (PDC) wedi gwneud fideo codi ymwybyddiaeth deimladwy ar gyfer Achub Bywyd Cymru, sefydliad Llywodraeth Cymru sy'n annog pawb i ddysgu sgiliau CPR a diffibrilio i achub bywyd. 

Ymunodd y grŵp o fyfyrwyr ail flwyddyn ag Achub Bywyd Cymru i wneud y ffilm fer, sy'n adrodd hanes dyn ifanc sy'n cwympo ar ei ffordd adref o noson allan yng Nghaerdydd - a sut mae ei ffrindiau yn ei achub yn y pen draw diolch i feddwl yn gyflym y gwasanaethau brys, sy'n eu tywys trwy CPR a’r defnydd o ddiffibriliwr cyfagos yn ystod eu galwad 999. 

Chloe Falcon oedd cyfarwyddwr, awdur a sinematograffydd y ffilm, sy'n anelu at weithredu fel fideo sy'n ysgogi'r meddwl yn hytrach nag ymarfer hyfforddiant - rhywbeth yr oedd Achub Bywyd Cymru yn awyddus i helpu i'w greu. 

Meddai: “Mae hwn wedi bod yn brofiad gwerth chweil o’r dechrau i’r diwedd, ac mae wedi bod yn bleser gweithio mewn partneriaeth ag Achub Bywyd Cymru; hoffwn ddiolch iddynt am annog fy nghreadigrwydd a chael ymddiriedaeth lawn yn y grŵp.  Mae'r prosiect at achos gwych - hyrwyddo ymwybyddiaeth y gall ataliad y galon ddigwydd i unrhyw un, a gwybod sut i ymateb i helpu i achub bywyd.  Pleserus iawn oedd ysgrifennu'r sgript farddonol, sy'n cael ei pherfformio'n rhyfeddol gan Gabin Kongolo. 

“Roedd Gabin, Lucas Edwards ac Ethan Hurst yn gast anhygoel a ddaeth â chymaint i’r cymeriadau. Mae Gyrfaoedd PDC wedi cefnogi a chynghori pob cam o’r ffordd, ac mae adborth ein darlithwyr wedi bod yn amhrisiadwy.  Mae fy nyled yn fawr i Sally Lisk-Lewis am ei chefnogaeth barhaus, am gredu ynof fi bob amser a’r hyn y gallai'r fideo ddod." 

Arweiniwyd y myfyrwyr ar y prosiect gan Sally Lisk-Lewis, Uwch Ddarlithydd mewn Ffilm yn PDC, sy'n fater sy'n agos iawn at ei chalon.  Meddai: “Fel rhywun a gollodd ei brawd gefell ei hun i ataliad y galon yn drasig yn 38 oed, roedd yn fraint wirioneddol gwylio’r criw BA Ffilm hwn yn cyflwyno ffilm mor bwysig - a neges a allai achub bywyd - yn eu hail flwyddyn astudio. Fe wnaethant gofleidio'r modiwl Prosiect hwn a gomisiynwyd gydag angerdd a phwrpas, roeddent yn gwbl broffesiynol drwyddi draw ac rydym yn hynod falch o'u cyflawniad.  Rwyf bob amser yn dweud wrth fy myfyrwyr y gall (ac y dylai) ffilm fod yn rym er daioni - dyma enghraifft wirioneddol effeithiol o hyn.” 

Ychwanegodd Glenda Lloyd Davies, Rheolwr Cyfathrebu Achub Bywyd Cymru: “Mae hon yn ffilm fer ragorol yn dilyn taith emosiynol un myfyriwr a gafodd, yn ystod noson allan yn y dref, ei hun yn sydyn yn achub bywyd ei ffrind.  Mae hon yn wers bywyd i ni i gyd; i ddysgu CPR a diffibrilio i achub bywyd.” 

Gwyliwch y ffilm yn llawn yma: 

Placeholder Image 2