Wythnos Ffoaduriaid 2021: Myfyriwr a ffoi o'i gartref ddegawd yn ôl yn rhagori yn PDC
14 Mehefin, 2021
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/news/2021/06-june/Gbren_Okmal_graduation.jpeg)
Pan ddaeth i'r DU ar ei ben ei hun yn blentyn 16 oed ofnus yn 2009, roedd Gbren Okmal wedi ffoi o'i wlad enedigol, Chad, ac wedi gorfod cefnu ar y cyfan roedd yn gyfarwydd ag e - oedd yn golygu dechrau ar eich addysg o’r dechrau’n deg unwaith eto.
Ond, dros 10 mlynedd yn ddiweddarach, mae'r dyn ifanc 28 oed, sy'n byw yng Nghaerdydd, wedi graddio o Brifysgol De Cymru (PDC) ac mae ar fin cwblhau ei Radd Meistr mewn Seiberddiogelwch – er bod perygl y gallai gael ei orfodi o’r wlad unrhyw bryd.
Cefnogwyd Gbren drwy ei astudiaethau diolch i fwrsariaeth ar gyfer Pobl sy’n Gadael Gofal, a chafodd ei gwrs Meistr ei ariannu gan Ysgoloriaeth Noddfa PDC. Bob blwyddyn, mae PDC yn cynnig dwy Ysgoloriaeth Noddfa lefel Meistr i bobl sy'n cael eu gorfodi o’u gwledydd genedigol i geisio lloches yng Nghymru.
"Gadewais Chad pan oedd y rhyfel cartref ar ei waethaf yn 2008, a theithiais i Sudan, yna Saudi Arabia, cyn cyrraedd Llundain o'r diwedd," meddai Gbren, sy'n dioddef o PTSD yn sgil ei brofiadau yn ei wlad enedigol.
"Bu farw fy mam a diflannodd fy nhad. Rhedodd fy mrawd a'm chwaer i ffwrdd ar yr un pryd â fi, ond dwi dal ddim yn gwybod ble maen nhw.
"Treuliais wythnos neu ddwy yn Llundain cyn symud i Gaerdydd ym mis Mai 2009. Cefais gymorth y Gwasanaethau Cymdeithasol ar y pryd oherwydd fy mod o dan 18 oed, felly fe wnaethon nhw fy helpu i ddod o hyd i le fyw a gwneud cais i'r coleg."
Heb unrhyw gymwysterau ffurfiol, cofrestrodd Gbren yng Ngholeg Caerdydd a'r Fro, lle’r astudiodd Fathemateg, Saesneg a Chyfrifiadureg, cyn astudio Diploma Cenedlaethol a BTEC yng Ngholeg Gwent yng Nghasnewydd. Wedyn, fe wnaeth gais i PDC.
"Fe wnes i fwynhau Cyfrifiadureg yn fawr ac roeddwn i'n gwybod fy mod i eisiau astudio TGCh yn y brifysgol. Roeddwn i wedi clywed bod PDC yn cynnig Ysgoloriaeth Noddfa i ffoaduriaid," meddai.
"Roedd mynd o’r coleg i’r brifysgol yn naid fawr, ac roedd gen i lawer o heriau i'w goresgyn. Ond rwyf wedi cael cymaint o gefnogaeth gan PDC. Byddwn yn mynd i'r llyfrgell bob dydd i astudio, ac roeddwn i'n gwybod y gallwn ofyn i'r tîm Lles Myfyrwyr neu fy narlithwyr os oedd angen unrhyw beth arna i. Maen nhw wedi bod yn anhygoel.
"Ennill fy ngradd oedd diwrnod gorau fy mywyd. O gofio yn ôl i'r adeg pan gyrhaeddais y DU am y tro cyntaf a pha mor ofnus oeddwn i, rwy'n falch iawn mor bell rydw i wedi dod."
Ar ôl graddio, galluogodd Ysgoloriaeth Noddfa PDC i Gbren fynd yn syth yn ei flaen i Radd Meistr yn PDC, y mae ar fin ei chwblhau. Mae bellach yn gobeithio dilyn gyrfa mewn Seiberddiogelwch ac efallai hyd yn oed ymgymryd â PhD yn y dyfodol.
Ni chaniateir i bobl sydd yn y broses o geisio lloches weithio – hyd yn oed mewn achosion fel rhai Gbren, a all bara blynyddoedd – ond doedd Gbren, fel llawer o geiswyr lloches eraill, ddim am wastraffu amser. Ers byw yng Nghaerdydd, mae wedi gwirfoddoli mewn siopau Oxfam ac fel cynorthwyydd llyfrgell yn Llyfrgell Caerdydd, yn ogystal â helpu i ail-ddylunio gwefan GIG Cymru ar ddechrau pandemig Covid-19.
"Roeddwn i'n hapus fy mod i’n gwneud rhywbeth oedd o fudd i gymdeithas," meddai Gbren.
"Rwy'n teimlo mai'r DU yw fy nghartref. Mae pawb wedi bod mor groesawgar. Dyw hi ddim yn ddiogel dychwelyd i Chad eto, ond rwy'n gobeithio y bydd hynny'n newid rhyw ddiwrnod.
"Mae ennill Ysgoloriaeth Noddfa PDC wedi rhoi'r cyfle gwych hwn i fi lwyddo, ac rwyf mor ddiolchgar. Efallai na fydd pawb sydd wedi gorfod ffoi o'u gwlad enedigol yn gallu parhau ag addysg, ond mae cymorth fel hyn yn rhoi cyfle iddyn nhw symud yn eu blaen gyda'u bywydau newydd yn y DU."
Dywedodd Dr Mike Chick, Hyrwyddwr Ffoaduriaid PDC: "Mae hanes Gbren, er ei fod yn boenus o drasig, hefyd yn dyst i'w ddewrder a'i wytnwch. Rydyn ni, fel gweithwyr yn PDC, eisoes yn gwybod cymaint y gall addysg rymuso pobl. I bobl fel Gbren, yn gorfod dianc rhag erledigaeth neu berygl, ac yn wynebu dyfodol ansicr mewn gwlad newydd, mae astudio mewn prifysgol yn llythrennol yn newid bywydau.
"Mae Cynlluniau Ysgoloriaeth PDC ar gyfer pobl sy'n ceisio lloches yng Nghymru wedi golygu bod dros ddwsin o bobl sydd wedi dianc rhag gwrthdaro wedi gallu cael mynediad i'n cyrsiau gradd ers 2018. Mae llawer o gydweithwyr yn y brifysgol wedi gweithio'n galed i sicrhau bod PDC yn cadw ei statws fel Prifysgol Noddfa ac i gefnogi ysgolheigion noddfa yn ystod eu hastudiaethau. Rwy'n sicr y byddan nhw'n hapus clywed am lwyddiant Gbren ac rydyn ni i gyd yn dymuno'n dda iddo i’r dyfodol – yng Nghymru!"
I gael rhagor o wybodaeth am Gynllun Noddfa Prifysgol De Cymru, mae Mike Chick a Dr Cath Camps, Rheolwr Academaidd (Dylunio Cwricwlwm) yn lansio adroddiad yr wythnos hon ar gefnogaeth y Brifysgol i bobl sy'n ceisio noddfa, ac mae i'w weld yma.
Mae PDC yn cynnal ystod eang o ddigwyddiadau ar-lein yn ystod Wythnos Ffoaduriaid (14-18 Mehefin 2021). Am ragor o fanylion ac i gofrestru, cliciwch yma.