PDC yn cyhoeddi partneriaeth â Recordiau Libertino
12 Tachwedd, 2021
Delweddau: Monks Photography & Reece H Strati
Mae Prifysgol De Cymru (PDC) wedi cyhoeddi partneriaeth diwydiant gyda'r label recordiau arobryn Libertino, sy'n cynnig mynediad gan fyfyrwyr Cerddoriaeth i ddosbarthiadau meistr, briffiau busnes pwrpasol a gwobr ragoriaeth i raddedigion.
Bydd Prif Swyddog Gweithredol Recordiau Libertino, Gruff Owen, yn dod â'i brofiad sylweddol i gwrs MA Ysgrifennu a Chynhyrchu'r Brifysgol, ar ôl tyfu’r label yn sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae gan y label dros 20 o artistiaid o fri rhyngwladol erbyn hyn, yn creu ac yn perfformio drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg.
Mae’r grŵp anhygoel Adwaith (llun ar y chwith), a enillodd y Wobr Gerddoriaeth Gymreig yn 2019, yn rhan o Libertino, , ynghyd â Keys, N'famady Kouyate, Sister Wives a Kidsmoke, a nifer cynyddol o artistiaid newydd a rhai cyffrous sy'n datblygu.
Graddiodd prif ganwr Adwaith, Hollie Singer, o PDC gyda BA mewn Cerddoriaeth Boblogaidd a Masnachol yn 2020.
Lansiwyd y bartneriaeth gydag arddangosiad bywiog gan Libertino ar Gampws Caerdydd PDC yr wythnos hon, gyda sgyrsiau a cherddoriaeth gan Bandicoot, Adwaith a Clwb Fuzz. Gwerthwyd pob tocyn, gyda llawer yn ymuno ar-lein â ffrwd ddigidol diolch i fyfyrwyr BSc Sain a Chynhyrchu Digwyddiadau Byw.
Dywedodd Matthew Evans, arweinydd cwrs MA Ysgrifennu a Chynhyrchu Caneuon PDC: "Mae Gruff yn personoli ysbryd yr entrepreneur cymdeithasol. Mae Recordiau Libertino’n chwarae rhan bwysig o ran effaith gymdeithasol cerddorion Cymreig a rhai sy'n byw yng Nghymru. Rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda Gruff i ddatblygu ein darpariaeth academaidd ymhellach yn unol ag arfer y diwydiant."
Ychwanegodd Gruff Owen: "Mae'r cwrs MA Ysgrifennu a Chynhyrchu Caneuon yn PDC nid yn unig yn gwella talent a sgiliau myfyrwyr, mae'n rhoi dealltwriaeth lawn hefyd o wahano elfennau’r diwydiant cerddoriaeth.
Mae'r cyd-destun ehangach hwn, ochr yn ochr â chwricwlwm blaengar a chyffrous, yn creu artistiaid sy'n fentrus yn eu creadigrwydd, yn ymwybodol o'r diwydiant ac yn creu gyrfaoedd cynaliadwy. Fel label blaengar sy'n canolbwyntio ar y gymuned, mae Libertino’n falch iawn o fod yn rhan o'r daith hon."