Myfyriwr Graddedig PDC yn ennill gwobr genedlaethol am bodlediad Cymraeg
22 Awst, 2022
Mae’r awdur a’r berfformwraig Mari Elen wedi ennill Gwobr Podlediad Prydeinig am Gwrachod Heddiw, podlediad Cymraeg a greodd yn ystod y cyfnod clo.
Enillodd Mari, a raddiodd o PDC yn 2015 o BA Theatr a Pherfformio, deitl Podlediad Gorau yn y Gymraeg yn y gwobrau, sy’n arddangos podlediadau gorau’r DU ac yn annog cynulleidfaoedd newydd i wrando.
Mae Gwrachod Heddiw yn dathlu rhai o’r merched mwyaf di-flewyn-ar-dafod yng Nghymru, a elwir yn femme – term sy’n cyfeirio at berson anarferol y mae ei fynegiant rhywedd yn cael ei ystyried yn fenywaidd – trwy drafod a yw’n rhannu unrhyw nodweddion â gwrachod confensiynol.
“Ro’n i’n teimlo bod lleisiau merched yn cael eu tangynrychioli yn y Gymraeg, ac nad oedd podlediad yn dathlu popeth sy’n ein gwneud ni’n unigryw,” meddai Mari, sy’n byw yn Llanrug, Gwynedd.
“Mae’r podlediad yn cymharu pobl femme â gwrachod confensiynol o’r 16eg ganrif, wrth i ni geisio darganfod a fydden ni’n cael ein cosbi am fod yn ni ein hunain bryd hynny.”
Penderfynodd Mari greu podlediad Cymraeg gan eu bod yn dod yn fwyfwy poblogaidd ar lwyfannau ffrydio fel Spotify, Buzzsprout a SoundCloud.
Meddai: “Cymraeg yw fy iaith gyntaf; dyma beth rydw i'n siarad â fy rhieni, fy mhlant, fy mhartner, fy ffrindiau a fy nheulu. Mae’n iaith rwy’n teimlo’n fwyaf cyfforddus yn ei siarad, darllen a gwrando.
“Mae cael mwy o bodlediadau a blogiau Cymraeg yn gwneud yr iaith yn fwy hygyrch, nid yn unig i siaradwyr Cymraeg, ond i bobl sydd eisiau dysgu. Mae’n dangos bod yr iaith yn datblygu gyda’r byd modern. Mae bron i 200 o bodlediadau Cymraeg, pob un ohonynt yn sôn am wahanol bynciau a materion sydd, yn fy marn i, yn hollbwysig er mwyn i’r iaith ffynnu.”
Dywedodd panel beirniaid Gwobrau Podlediad Prydain: “Mae arddull y cyflwynydd yn gynnes ac yn ddeniadol, gan ddod â’r gorau allan o’r gwesteion a gwneud i’r podlediad apelio at bawb. Mae’r arddull agos-atoch a’r ansawdd sain rhagorol yn annog gwrandawyr i deimlo’n rhan o’r sgwrs a’r gymuned wrth i’r cyflwynydd ofyn am brofiadau gwrandawyr.”
Ychwanegodd Mari: “Rwy’n teimlo ar ben fy nigon i fod wedi ennill y wobr hon. Dechreuais y podlediad ar fy mhen fy hun yn ystod y cyfnod clo; dydw i ddim wedi derbyn unrhyw gyllid (a dweud y gwir, rydw i ar fy ngholled yn ei wneud) ond mae wedi bod yn werth chweil, oherwydd mae’n rhan fach o fy mywyd creadigol y mae gennyf reolaeth lwyr drosto.
“Rwy’n ysgrifennu ambell sioe ar hyn o bryd, a hoffwn gael rhywfaint o arian i wneud rhai podlediadau byw Gwrachod Heddiw. Rydw i wedi bod yn gwneud rhai dros yr haf mewn gwyliau ac mae wedi bod yn gymaint o hwyl, felly byddwn i wrth fy modd yn gwneud mwy!”