Mae modiwlau ein cwrs Perfformio, Theatr a’r Cyfryngau yn cynnig trawstoriad o brofiadau a fydd yn cynnig sgiliau a dealltwriaeth eang o berfformio ar draws theatr, y cyfryngau a’r cyfryngau newydd gan eich galluogi, yn y drydedd flwyddyn, i ganolbwyntio ar feysydd sydd o ddiddordeb penodol i chi.
Byddwch yn derbyn pob cyfle a chefnogaeth i baratoi er mwyn gallu mentro’n hyderus i yrfa o’ch dewis.
Bydd pob blwyddyn astudiaeth yn adeiladu ar y ddealltwriaeth a’r sgiliau y byddwch wedi eu hennill yn ystod y flwyddyn flaenorol.
Patrwm dysgu canran uchel o’r modiwlau fydd:
- Bocs Sebon. Cyfle i drafod eich diddordebau yn eang, beth bynnag y bont.
- Ymchwil. Cyfle trwy ddarlithoedd, darlleniadau, seminarau a thiwtorialau i ddarganfod mwy am ddiddordebau'r grŵp a hynny trwy ffrâm Perfformio.
- Ymateb creadigol. Cyfle i ymateb yn greadigol trwy greu gwaith mewn sawl ffordd a sawl cyfrwng ar gyfer gwahanol gynulleidfaoedd.
Blwyddyn 1
Astudio Perfformio: Theatr
Byddwch yn cael cyflwyniad i gysyniadau sylfaenol ynglyn â ‘pherfformio’ fel gweithgaredd rhyngddisgyblaethol, ac yn defnyddio perfformiad fel ffrâm i astudio’r byd. Byddwch yn ymchwilio i’r cysyniad o berfformio'r hunan, ac o berfformiadau sy’n perthyn i fywyd bob dydd yng nghyd-destun Cymru. Byddwch yn creu perfformiad unigol a pherfformiad grŵp fel rhan o’r modiwl hwn.
Actio Cyfarwyddo a Dyfeisio
Bydd y modiwl hwn yn darparu sail ar gyfer astudio dulliau penodol o actio, cyfarwyddo a dyfeisio. Mae'n fodiwl stiwdio fydd yn canolbwyntio ar waith golygfeydd (cewch eich cyfarwyddo ac fe fyddwch chi’n cyfarwyddo eraill). Byddwch hefyd yn datblygu perfformiad gwreiddiol wedi’i ddyfeisio. Byddwch yn ymweld â chwmni theatr graddfa ganolig (Arad Goch) i ddysgu am strwythur cwmni a'r prosesau creadigol.
Portffolio Sgiliau 1
Byddwch yn dysgu sgiliau technegol theatr a ffilm mewn cyfres o weithdai ymarferol dwys wedi eu harwain gan arbenigwyr, gan gynnwys sgiliau golau a sain theatr.
Byddwch yn dysgu sgiliau camera a sgiliau golygu a sut i ddefnyddio’r dechnoleg mewn modd creadigol mewn cyfres o weithdai eraill, ac yn creu ffilm fer.
Byddwch yn cael cyfle i ddangos eich ffilmiau byr ac i dderbyn adborth ar y gwaith gorffenedig gan ymarferydd proffesiynol.
Byddwch yn derbyn cyflwyniad i dechnegau cynhyrchu blog/flog.
Perfformio i Gamera
Byddwch yn dysgu sut i weithio mewn stiwdio deledu a dod i ddeall y sgiliau sydd eu hangen i berfformio o flaen y camera. Byddwch yn cael cyflwyniad i dechnoleg y stiwdio deledu, i'r gwahanol elfennau (camera, goleuo, sain) sy'n dod ynghyd i greu darn o waith (gan adeiladu ar y modiwl 'Portffolio Sgiliau 1').
Byddwch yn ymarfer ac yn perfformio golygfa o sgript deledu o dan gyfarwyddyd ac yn ffilmio mewn cydweithrediad â’r cwrs BA (Anrh) Dylunio Setiau Teledu a Ffilm, gyda’r bwriad o greu eich show-reel cyntaf.
Blwyddyn 2
Arloesi
Yn y modiwl hwn fe fyddwch yn gweithio fel ‘ensemble’ trwy gydol y flwyddyn i greu darn o theatr wreiddiol byw. Byddwch yn astudio gwahanol ymarferwyr a damcaniaethau, yn ogystal â chyfryngau a chelfyddydau eraill, ac yn defnyddio’ch ymchwil ynghyd â phrif ddiddordebau'r ensemble fel sail i’ch gwaith creadigol. Nod y modiwl yw archwilio’r berthynas rhwng ymchwil ac ymarfer.
Perfformio: Cyfryngau Newydd
Yn y modiwl hwn byddwch yn archwilio theatr a pherfformio ar-lein/digidol yng nghyd-destun syniadau am y byw (liveness), y di-gorff (bodiless), y di-ofod (spaceless) a’r rhyngweithiol (interactive).
Cewch eich cyflwyno i arddulliau ysgrifennu a dyfeisio newydd trwy gyfrwng offer ar-lein/digidol er mwyn creu a llwyfannu theatr a pherfformiad.
Byddwch yn creu perfformiad gwreiddiol ar-lein gydag offer digidol gan archwilio hefyd ymarfer theatr ar-lein/digidol cyfranogol sy’n defnyddio cyfryngau cymdeithasol.
Ysgrifennu Testun a’i Berfformio
Yn y modiwl hwn byddwch yn cael cyflwyniad i sgiliau sgriptio sylfaenol mewn cyfres o weithdai ysgrifennu a fydd yn canolbwyntio ar greu cymeriadau, naratif, a deialog, ac arddull, ffurf, cyfrwng a 'genre'. Byddwch yn dewis cyfrwng ac yn derbyn cefnogaeth unigol wrth ddatblygu’ch gwaith o greu sgript trwy broses broffesiynol. Byddwch yn perfformio’ch gwaith i ddramodwyr proffesiynol ac i swyddog llenyddol y Sherman, gan dderbyn adborth.
Portffolio Sgiliau 2
Byddwch yn dysgu sut i berfformio, recordio a golygu drama radio dan gyfarwyddyd a sut i greu ac i ddefnyddio effeithiau sain. Yn ogystal â dysgu sgiliau hanfodol perfformiwr drama radio byddwch yn cyffwrdd hefyd â sgiliau trosleisio.
Blwyddyn 3
Y Cyfryngau a Diwylliant yng Nghymru
Mewn darlithoedd, seminarau a thiwtorialau byddwch yn canolbwyntio ar y cyfryngau, gan gynnwys polisïau darlledu, ffilm, radio a theledu, cyfryngau cymdeithasol, sefydliadau diwylliannol, a’r celfyddydau, gan gynnwys celf weledol, celf byw a cherddoriaeth boblogaidd. Ymdrinnir â’r pynciau hyn trwy archwilio cefndir hanesyddol, cyd-destun cyfoes a dadansoddiad o faterion allweddol fel hunaniaeth genedlaethol, iaith, demograffeg, a pholisïau llywodraethau cyn ac ar ôl datganoli.
Bydd cysylltiad agos gyda'r cyfryngau cyfredol yn ganolog i'r modiwl ac yn bresennol yn y modiwl trwy gyfres o ddosbarthiadau meistr mewn perthynas gyda Screen Alliance Wales, S4C, ac Amgueddfa Genedlaethol Cymru.
Prosiect Ymchwil
Trwy gyfres ddwys o seminarau a gweithdai ymarferol fe fyddwch yn cytuno ar gwestiynau hunanddewisol i'w harchwilio fel grŵp trwy gyfrwng ymarfer. Penllanw'r broses ymchwilgar ac annibynnol hon fydd dangosiad o ymateb y grŵp i'r cwestiynau ar ffurf perfformiad cyflawn wedi ei greu mewn cyfnod byr o ymarfer dwys. Bydd y gwaith yn cael ei berfformio’n gyhoeddus, wedi ei hyrwyddo a'i farchnata gan y grŵp. Mewn cytundeb gyda’r darlithydd penodol byddwch hefyd yn dethol cwestiwn ymchwil sydd o ddiddordeb penodol i chi fel unigolyn, fel sail i draethawd estynedig. Bydd y gwaith yn cael ei gwblhau gydag arweiniad rheolaidd a chymorth gofalus goruchwyliwr, mewn tiwtorialau unigol.
Portffolio Graddedigion
Byddwch yn gweithio’n annibynnol i greu portffolio o waith unigol gyda lleiafswm o bedwar darn o waith mewn unrhyw gyfrwng/gyfryngau sy’n seiliedig ar eich astudiaeth flaenorol ac sy’n ddatblygu arni. Bydd y darnau o waith wedi eu cytuno ymlaen llaw gydag arweinydd y modiwl.
Bwriad y modiwl yw creu portffolio y gellir ei ddefnyddio i bontio rhwng eich astudiaethau a byd gwaith. Byddwch yn derbyn cefnogaeth er mwyn trefnu i greu un darn o waith mewn cydweithrediad â neu gydag chyfarwyddyd sefydliad neu ymarferydd proffesiynol.
Portffolio Sgiliau 3: Ymarfer Proffesiynol
Mae'r modiwl hwn yn cynnig strategaethau ar gyfer ennill cyflogaeth o fewn a thu hwnt i faes perfformio. Bydd y modiwl yn lleoli sgiliau perfformio yng nghyd-destun y diwydiannau creadigol, addysgu cynradd ac uwchradd, a mwy. Bydd cyfle yn y modiwl hwn i wneud cyfnod o brofiad gwaith, i lunio cynllun datblygu personol proffesiynol, ac i lunio CV cyfredol.
Dysgu
Mae darlithwyr y cwrs yn ymarferwyr proffesiynol sy’n parhau i gyfrannu i’r diwydiannau creadigol yng Nghymru. Maen nhw hefyd yn ddarlithwyr profiadol ac yn arbenigwyr yn eu meysydd penodol. Byddwch yn cael eich dysgu hefyd ymarferwyr a chwmnïau proffesiynol ac yn derbyn adborth a chefnogaeth ganddynt.
Byddwch yn dysgu mewn gweithdai ymarferol, seminarau a thiwtorialau, ac ambell dro mewn darlithoedd mwy ffurfiol.
Asesiad
Byddwch yn cael eich asesu’n rheolaidd trwy waith cwrs ymarferol, fel rhan o grŵp ac fel unigolyn. Byddwch yn cyflwyno gwaith ysgrifenedig i gael ei asesu ar ffurf blogiau a thraethodau. Byddwch hefyd yn cael eich asesu trwy gyflwyniadau byw neu ar-lein. Byddwch yn derbyn adborth manwl a chefnogol i bob asesiad er mwyn eich galluogi i symud ymlaen gyda hyder.