Rhodd cit camera yn helpu ffotograffwyr newydd i fod yn greadigol
19 Awst, 2022
Cyfarwyddwr Ffotogallery Siân Addicott (chwith) a'r Cydlynydd Cynhyrchu Liz Norcott (dde) yn derbyn rhodd offer camera gan Brifysgol De Cymru
Mae rhodd o offer camera proffesiynol gan Brifysgol De Cymru (PDC) ar fin helpu ffotograffwyr addawol o bob cefndir i fwynhau gweithdai creadigol, ymarferol gyda Ffotogallery Caerdydd.
Ffotogallery yw’r asiantaeth ddatblygu genedlaethol ar gyfer ffotograffiaeth a chyfryngau lens yng Nghymru, yn cyflwyno arddangosfeydd gan artistiaid Cymreig a rhyngwladol, yn ogystal â dangosiadau ffilm a gweithdai cymunedol.
Fel rhan o’i Raglen Ymgysylltu a Dysgu, mae Ffotogallery yn cynnal gweithdai a chyrsiau i greu cyfleoedd i ddysgwyr ddatblygu sgiliau ffotograffiaeth ymarferol a damcaniaethol. Mae rhai prosiectau diweddar wedi cynnwys gweithio mewn partneriaeth ag Engage Cymru, Canolfan Mileniwm Cymru ac eraill i ymgysylltu â phobl ifanc o gefndiroedd ethnig amrywiol yn y celfyddydau gweledol; a gweithio gydag Oasis Caerdydd i gefnogi ceiswyr lloches a ffoaduriaid i greu arddangosfa o'u ffotograffau.
Gyda chitiau camera lluosog ar gael, bydd dysgwyr mewn gweithdai presennol yn y dyfodol yn cael mynediad at eu hoffer eu hunain ac yn gallu arbrofi gyda gwahanol fathau o gamerâu a ffotograffau.
Dywedodd Cynthia MaiWa Sitei, a astudiodd MA Ffotograffiaeth Ddogfennol yn PDC, ac sydd bellach yn Guradur yn Ffotogallery: “Bydd gallu cyrchu ystod o gamerâu wir yn cyfoethogi profiad y rhai sy’n cymryd rhan yn ein gweithdai. I lawer, dyma’r tro cyntaf iddynt weithio ar brosiectau ffotograffiaeth, felly bydd yr offer hwn yn gwneud gwahaniaeth enfawr.”
Ychwanegodd Liz Norcott, Cydlynydd Cynhyrchu yn Ffotogallery: “Hoffem fynegi ein diolch diffuant i Brifysgol De Cymru am eu rhodd garedig o gamerâu proffesiynol i gefnogi ein gweithgareddau addysg ac ymgysylltu. Diolch i'r rhodd hon, bydd ein haelodau ac unrhyw un sydd â diddordeb mewn ffotograffiaeth yn elwa'n aruthrol o'n sesiynau. Mae haelioni PDC yn rhoi cyfleoedd, adnoddau a chefnogaeth i’r genhedlaeth hon ac yn agor drysau i’r genhedlaeth nesaf.”
Ychwanegodd Peter Bobby, Arweinydd Cwrs BA (Anrh) Ffotograffiaeth yn PDC: “Rydym yn falch iawn o allu rhoi’r citiau camera hyn i Ffotogallery. Mae gwybod y byddant yn cael eu defnyddio mewn gweithdai i gyflwyno pobl o ystod eang o gefndiroedd i ffotograffiaeth – yn enwedig y rhai nad ydynt wedi cael cyfleoedd o’r fath o’r blaen – yn wych, ac yn cefnogi ein nod ar y cyd i ehangu cyfranogiad yn y pwnc.”