PDC yn ymuno â chynllun plannu coed Canopi Gwyrdd y Frenhines

21 Chwefror, 2022

https://uswfoxtail.blob.core.windows.net/foxtail-prod-uploads/original_images/Queens_Green_Canopy_planting_2.jpg

Mae Prifysgol De Cymru (PDC) wedi ymuno â'r fenter plannu coed genedlaethol, Canopi Gwyrdd y Frenhines (CGF), i ddathlu Jiwbilî Platinwm Ei Mawrhydi.

Mae'r cynllun yn gwahodd pobl o bob cwr o'r DU i 'Blannu Coeden ar gyfer y Jiwbilî', ac yn annog  cymunedau, ysgolion, prifysgolion a sefydliadau corfforaethol i blannu coed yn gynaliadwy yn ystod y tymor plannu swyddogol, rhwng mis Hydref a mis Mawrth.

Ochr yn ochr â chynllun helaeth i blannu coed i wrthbwyso carbon, lle mae PDC wedi plannu mwy nag 80 o goed o 12 rhywogaeth frodorol ar ei hystâd, plannwyd coeden ddraenen wen i nodi’r ffaith bod y Brifysgol wedi ymuno â menter CGF.

Helpodd Katie Henderson a Solanged Portela Ruiz, myfyrwyr Celfyddydau Creadigol a Therapiwtig (CCTh), i blannu'r goeden ar Gampws Trefforest PDC. Mae'r cwrs Celf Creadigol a Therapiwtig yn PDC yn gweithio gyda chleifion a staff Gwasanaethau Iechyd Meddwl Pobl Hŷn (GIMPH) Ysbyty Prifysgol Llandochau ar y prosiect Canopïau Creadigol.

Mae'r prosiect cydweithredol yn rhan o Raglen Celf ar gyfer Iechyd a Lles Elusen Iechyd Caerdydd a'r Fro, ac mae wedi’i hysbrydoli gan CGF yn ogystal â syniadau cleifion a staff o ran gweithiau celf newydd i'w harddangos yn yr ysbyty.

Bydd PDC hefyd yn cael ei gefeillio â'r ysbyty drwy anfon collen ifanc i'r uned GIMPH, er mwyn i’r ysbyty blannu coeden ar gyfer y Jiwbilî.

Dywedodd Katie, sydd yn ei hail flwyddyn o'r cwrs CCTh: "Mae hon wedi bod yn ffordd hyfryd i ni gymryd rhan yng Nghopi Gwyrdd y Frenhines a'r gwaith cynaliadwyedd y mae PDC yn ei wneud, gan ei fod yn cysylltu mor agos â'r prosiect rydyn ni’n gweithio arno. Rwyf wedi mwynhau sgwrsio gyda'r cleifion ac ymgorffori eu hangerdd dros natur yn y gwaith celf rydyn ni’n helpu i'w greu."

Ychwanegodd Solanged, sydd hefyd yn ei hail flwyddyn: "Ces i fy ngeni yn Barcelona a fy magu ym Madrid, felly ar ôl treulio fy mywyd mewn dinasoedd mawr, dydw i ddim wedi cael llawer o gyfle i fynd yn agos at natur. Mae'r dirwedd yn hollol wahanol yma yng Nghymru, felly mae wedi bod yn wych gweld amgylchedd mor wyrdd a chynifer o rywogaethau coed."

Dywedodd Heloise Godfrey-Talbot, Darlithydd mewn Celf Creadigol a Therapiwtig yn PDC: "Mae cymryd rhan yng nghynllun Canopi Gwyrdd y Frenhines mor bwysig i ni gan ein bod yn cysylltu â natur ar gyfer ein prosiect Celfyddydau mewn Iechyd, Canopïau Creadigol, ym Mlwyddyn 2.  Rydyn ni’n gwybod bod natur yn llesol i iechyd meddwl, ac mae hwn yn gyfle gwych i wella ein cymuned a gwerthfawrogi ble rydyn ni’n byw. Mae'r bonws o efeillio gydag uned ddydd GIMPH yn deyrnged addas i'n hamser gyda nhw."

Mae PDC yn gweithio gyda Spencer Environmental, cwmni rheoli tir o Geredigion, i blannu coed sy’n amsugno llawer o garbon, yn rhan o nod y Brifysgol i fod yn Garbon Niwtral erbyn 2040. Dechreuodd y plannu y llynedd ar Gampws Glyn-taf ac mae wedi parhau yn Nhrefforest yn ystod y tymor plannu hwn.

Dywedodd Mike Davies, Swyddog Cynnal a Chadw PDC: "Mae bioamrywiaeth yn bwysig i PDC, ac mae'r coed hyn yn helpu mamaliaid bach, adar a phryfed peillio i ffynnu, yn ogystal â sefydlogi argloddiau a chefnogi rhwydweithiau myceliwm ffwngaidd i lapio o gylch gwreiddiau coed a throsglwyddo mwynau hanfodol.

"Bu ymdrech fawr i leihau torri glaswellt ac felly caniatáu i dyweirch ddatblygu, sydd yn eu tro’n caniatáu i rywogaethau blodau gwyllt wreiddio a ffynnu. Mae mwy o rywogaethau wedi’u cofnodi ac mae nifer o degeirianau gwyllt yn ymddangos bob blwyddyn.

"Mae wedi bod yn brofiad gwych cael ein myfyrwyr yn rhan o’r cynllun plannu eleni, ac edrychwn ymlaen at gyflwyno mwy o rywogaethau coed ar y campws yn y dyfodol."