Wythnos Iechyd Meddwl Plant | Defnydd cyfryngau cymdeithasol gan yr arddegau ifanc - edrych y tu hwnt i e-ddiogelwch
9 Chwefror, 2022
Yn rhan o Wythnos Iechyd Meddwl Plant (7 – 13 Chwefror), mae Claire Pescott, Uwch Ddarlithydd mewn Addysg yn trafod ei hymchwil, a gyhoeddwyd yn 2020, yn archwilio cyfraniad y cyfryngau cymdeithasol at ffurfio hunaniaeth a goddrychedd yr arddegau ifanc (10 ac 11 oed):
Mae defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol yn ffenomenon eang sy'n chwarae rhan bwysig mewn bywyd modern. Heb os, mae wedi trawsnewid y ffordd rydym yn rhyngweithio ac yn cyfathrebu ar-lein o fewn gofod digidol. I rieni a gofalwyr, mae'n anochel bod pryder ynghylch plant iau yn defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol, yn enwedig gan fod y telerau gwasanaeth yn awgrymu na ddylai rhai dan 13 oed eu defnyddio. Yn ôl Ofcom, erbyn iddyn nhw fod yn un ar ddeg oed, mae'r mwyafrif (59%) o blant y DU yn defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol. Ond gallai'r ganran hon fod yn geidwadol, oherwydd yn fy ymchwil i, roedd 98% yn defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol. Mae'r pwysau gan gyfoedion ar blant i gyfathrebu fel hyn, yn ei dro, yn rhoi pwysau ar rieni i ganiatáu i’w plant ddefnyddio'r cyfryngau cymdeithasol. Efallai y bydd rhieni'n teimlo nad ydyn nhw’n deall y gofod digidol mae eu plant yn treulio amser ynddo ac yn bryderus o glywed am faterion fel pobl yn defnyddio hunaniaethau ffug i dwyllo, gwe-hudo a seiberfwlio yn aml yn y cyfryngau.
Er ei bod yn bwysig bod plant yn ymwybodol o e-ddiogelwch ac yn gweithredu'n gyfrifol o ran gosodiadau preifatrwydd, a phriodoldeb yr hyn y maent yn ei ddefnyddio drwy'r cyfryngau cymdeithasol, mae'n hanfodol ein bod yn eu paratoi ar gyfer y materion ehangach y gallant ddod ar eu traws. Yn fy ymchwil, cymerodd deugain o blant 10 ac 11 oed, yn eu blwyddyn olaf yn yr ysgol gynradd, Blwyddyn 6, a elwir weithiau’n ‘arddegau ifanc’ neu’n ‘tweens’ ran mewn grwpiau ffocws, gyda gweithgareddau roeddwn i wedi eu creu i ennyn trafodaethau cyfoethog (gweler y lluniau).
Roedd defnyddio'r gweithgareddau hyn yn caniatáu i blant ddisgrifio eu profiadau eu hunain o ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol a thrafod eu hunaniaeth ddigidol o'u safbwynt eu hunain. Mae hyn yn bwysig, gan fod diffyg ymchwil gyda'r grŵp oedran hwn, ac mae’r wybodaeth sydd gennym yn aml wedi ei seilio ar y ffordd mae’r arddegau’n defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol neu’r hyn mae oedolion yn credu eu bod yn ei brofi.
Dangosodd y plant yn fy ymchwil ddealltwriaeth o’r cyfryngau cymdeithasol ac roedden nhw’n eu defnyddio’n ddarbodus, er enghraifft, roeddent yn ymwybodol o'u bod o bosibl yn cael eu hudo. Dywedodd un plentyn, "y peth mwyaf am y cyfryngau cymdeithasol yw fel y gallai dyn 70 oed greu cyfrif fel pe bai e’n 15 oed". Roedden nhw’n defnyddio strategaethau amrywiol i’w diogelu eu hunain, gan gynnwys defnyddio gosodiadau preifatrwydd, peidio â chael lluniau wedi eu tynnu yn eu gwisg ysgol, a defnyddio’r 'modd ysbryd' ar Snapchat. Roedd yn amlwg bod negeseuon e-ddiogelwch y mae ysgolion a rhieni yn eu pwysleisio yn cael eu deall yn dda ac yn cael eu gweithredu arnynt. Fodd bynnag, efallai mai'r pryder mwyaf o ran iechyd meddwl oedd y ffordd yr oedd edrych ar broffiliau a delweddau ‘perffaith’ ar y cyfryngau cymdeithasol yn effeithio ar hunan-barch, ac yn annog cymhariaeth wynebau a chyrff. Roedd rhaniad clir rhwng y rhywiau, yn y trafodaethau am hidlyddion. Datgelodd y bechgyn eu bod yn eu defnyddio at ddibenion adloniant, ddefnyddio clustiau cŵn a thafod mawr cartwnaidd, er enghraifft, i wneud i'w ffrindiau chwerthin. Ar y llaw arall, mewn saith o'r wyth grŵp ffocws, roedd sylwadau gan ferched ynghylch hidlyddion yn “gwneud i chi edrych yn bertach", gyda sôn am nweud esgyrn y bochau’n fwy amlwg, a chroen llyfn er enghraifft. Dywedodd un ferch "Byddwn i’n hoffi gwisgo hidlydd nawr". Roedd teimladau o hunanwerth ynghlwm wrth "wneud i bobl fod â diddordeb ynddyn nhw", gyda phwyslais mawr ar sut roedden nhw’n edrych.
Mewn ymateb i'r canfyddiadau hyn, mae'n bwysig bod rhieni'n cael sgyrsiau gyda'u plant am y cyfryngau cymdeithasol gan fod eraill ddim ond yn rhoi’r “pethau gorau” ar y cyfryngau cymdeithasol a sut y gall hyn effeithio ar sut maen nhw'n teimlo amdanyn nhw eu hunain. Gyda'u caniatâd, gallai edrych ar gyfryngau cymdeithasol eu plant gychwyn trafodaethau ynghylch pam y caiff delweddau a ffotograffau eu postio, sut maen nhw’n aml wedi eu ‘perffeithio’ a sut y gall hyn effeithio ar sut maen nhw’n teimlo. Yn hytrach na chanolbwyntio ar e-ddiogelwch yn unig, mae angen mynd i'r afael ag effeithiau emosiynol defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol. Gallai helpu plant i fynegi eu hemosiynau, eu dilysu a'u trafod mewn ffordd agored, anfeirniadol fod yn allweddol i roi'r offer angenrheidiol i blant fod yn emosiynol wydn o fewn gofod digidol sy'n newid yn barhaus.