Wythnos Iechyd Meddwl Plant | Dr Elizabeth Coombes, Therapi Cerdd

7 Chwefror, 2022

https://uswfoxtail.blob.core.windows.net/foxtail-prod-uploads/original_images/GettyImages-881264162.jpg

Yn rhan o Wythnos Iechyd Meddwl Plant (7-13 Chwefror), mae Dr Elizabeth Coombes, therapydd cerdd ac uwch ddarlithydd ym Mhrifysgol De Cymru (PDC), yn trafod ei hymchwil. Dr Coombes sy’n arwain cwrs hyfforddi MA Therapi Cerdd. Wedi’i gymeradwyo gan y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal, dyma’r unig gwrs o’i fath yng Nghymru.

"Mae fy niddordebau ymchwil a fy ngwaith clinigol yn canolbwyntio ar ddefnyddio therapi cerdd a cherddoriaeth i helpu babanod, plant a phobl ifanc i gyflawni eu potensial ac i allu rheoli'r heriau maen nhw’n eu hwynebu yn eu bywydau.

Ar hyn o bryd, mae Covid-19  wedi cael ac yn parhau i gael effaith enfawr ar allu ein plant a'n pobl ifanc i ddysgu a datblygu. Mae gan ddisgyblion lefelau uchel o orbryder ac maen nhw’n ei chael hi'n anodd ymgysylltu â dysgu ac elfennau cymdeithasol yr ysgol. Mae ymchwil yn dangos y gall therapi cerdd mewn ysgolion helpu plant i ddelio â'r anawsterau hyn ac i ystyried yr ysgol yn amgylchedd cadarnhaol a  chefnogol.

Ar hyn o bryd rwy'n gweithio ar brosiect peilot gyda thri therapydd cerdd arall yng Nghaerdydd,  sydd wedi ei ariannu gan Lywodraeth Cymru yn rhan o gynllun adfer Covid-19 ac sy’n canolbwyntio ar les plant a phobl ifanc.  Mae Gwasanaeth Cerdd Sir Caerdydd a  Bro Morgannwg yn rheoli'r prosiect sy'n digwydd mewn 13 o ysgolion prif ffrwd gan gynnwys dwy ysgol uwchradd a'u hysgolion bwydo yng Nghaerdydd. Yn seiliedig ar drafodaethau gyda staff addysgu perthnasol, mae pob ysgol yn cael cyfuniad o sesiynau gydag unigolion a grwpiau bach, felly rydym yn ymateb i anghenion sydd wedi eu hadnabod ym mhob ysgol. Mae darpariaeth wedi'i theilwra yn bwysig; mae pob ysgol yn wahanol. Mae therapyddion yn  defnyddio gweithgareddau cerddorol strwythuredig,  cyfansoddi caneuon, cylchoedd drymio, gwrando ar a chreu rhestrau chwarae, a gwaith byrfyfyrio i archwilio amrywiaeth o faterion gyda'r disgyblion. Mae'r rhain yn cynnwys:

·       Lefelau gorbryder uchel

·       Anhawster i leisio emosiynau

·       Ymddygiadau heriol

·       Diffyg ymwybyddiaeth gymdeithasol a sgiliau cymdeithasol

Mae’n wybyddus y gall therapi cerdd greu buddion o ran y materion uchod. Mae'n ddi-eiriau, ac mae hyn yn ddefnyddiol iawn pan fo disgyblion yn ei chael hi'n anodd siarad am sut maen  nhw'n teimlo. Gallan nhw archwilio meddyliau ac emosiynau drwy ystod o wahanol offerynnau a gweithgareddau cerddorol. Mae therapyddion cerdd yn fedrus wrth deilwra sesiynau i gyd-fynd ag anghenion y grŵp neu unigolion a gallan nhw hefyd gynghori staff ar weithgareddau cerddorol syml y gellir eu cynnwys mewn gweithgareddau dosbarth.

Rydyn ni eisoes wedi gweld gwelliannau y tu mewn i'r sesiynau therapi cerdd, a’r tu allan iddyn nhw. Mae athrawon wedi adrodd am well sgiliau cymdeithasol a llai o orbryder ymhlith  disgyblion. Mae hyn yn arwain at well ymgysylltiad â dysgu a gweithgareddau ysgol. Rwyf wedi canfod bod disgyblion yn aml yn gofyn am weithgareddau tawelu. Maen nhw eisiau  rhywbeth i'w helpu i deimlo'n ddiogel, ac i ymlacio. Un ffordd effeithiol o ateb y galw hwn yw cylchoedd drymio lle rydyn ni’n defnyddio drymiau llaw i chwarae rhythmau sylfaenol cyson. Mae hyn ynghyd â gwaith byrfyfyrio melodaidd ysgafn yn rhoi cyfle i ddisgyblion ymlacio'n gorfforol a gwneud cysylltiadau rhwng eu cyflwr corfforol ac emosiynol.

Mae gweithgareddau cymryd tro cerddorol a chynnal gemau, lle mae disgyblion yn arwain chwarae'r grŵp, yn magu hyder, yn hwyl ac yn ennyn diddordeb. Wedi i ddisgyblion ymgyfarwyddo â therapi cerdd, maen nhw hefyd yn dangos diddordeb mewn rhoi cynnig ar offerynnau newydd neu ddysgu am gerddoriaeth newydd ac apiau cerddoriaeth.

Mae datblygu ymatebion creadigol a bod â diddordeb yn y math o gerddoriaeth y mae plant yn uniaethu ag ef, heb farnu eu dewisiadau, yn helpu i feithrin perthynas gadarnhaol rhwng therapyddion a disgyblion, sy'n allweddol i ddysgu a datblygu.

Hyd yn hyn, mae ein hymchwil a'n hymarfer yn y prosiect hwn yn dangos bod gwir angen therapyddion cerdd medrus mewn ysgolion. Mae gwybod pa blant a phobl ifanc sydd angen ychydig o gymorth ychwanegol i'w helpu i deimlo'n gyffyrddus yn yr ysgol, a datblygu cysylltiad cryf â'r cyfleoedd cymdeithasol ac addysgol sydd ar gael, yn allweddol. Gall athrawon dosbarth hefyd ddefnyddio cerddoriaeth yn therapiwtig gyda dosbarthiadau drwy:

1.     Gynnig adeg o’r diwrnod i wrando ar gerddoriaeth, i helpu plant i ymlacio.

2.     Gwrando ar gerddoriaeth yn ystod gwersi i newid hwyliau, ysgogi'r dosbarth neu annog meddwl. Gyda ffonau symudol mae gan bob un ohonon ni’r pŵer i ddefnyddio cerddoriaeth mewn ffordd fwy bwriadol er lles i ni.

3.     Defnyddio gemau sain galw ac ymateb/cymryd tro yn ystod gwersi i hyrwyddo ymgysylltiad a theimladau o fod gyda’i gilydd. Mae gemau clapio a thapio wir yn gweithio!

Gall cerddoriaeth gael ei defnyddio’n effeithiol gan athrawon i ennyn diddordeb disgyblion a gall therapi cerdd helpu disgyblion sydd angen cymorth ychwanegol i allu cyflawni eu potensial ac ymgysylltu â bywyd yr ysgol.

Ar hyn o bryd, mae disgwyl i'r prosiect ddod i ben ym mis Mawrth, ond rydyn ni’n gobeithio cael rhagor o arian i barhau drwy’r flwyddyn ysgol lawn.  Ar ôl hyn, bydd cyfle i ysgolion gomisiynu therapi cerdd gan y Gwasanaeth Cerdd,  yn ôl yr angen, i gefnogi eu disgyblion."