Wythnos Iechyd Meddwl Plant | Therapi chwarae seiliedig ar natur fel ymateb i effaith negyddol newid yn yr hinsawdd ar iechyd meddwl a lles plant

11 Chwefror, 2022

https://uswfoxtail.blob.core.windows.net/foxtail-prod-uploads/original_images/Climate_change.jpg

Mae Clare Carbis a Maggie Fearn ill dwy yn Uwch Ddarlithwyr ar yr MSc Therapi Chwarae ym Mhrifysgol De Cymru (PDC). Mae’r cwrs yn hyfforddiant proffesiynol i fyfyrwyr ddod yn Therapyddion Chwarae BAPT. Mae Therapi Chwarae yn effeithiol oherwydd effeithiau cyfunol pwerau cyfathrebu ac iachau chwarae a’r derbyniad a’r cyfyngiant sydd wedi’i ymgorffori ym mherthynas y plentyn â’r Therapydd Chwarae. Mae’r plentyn yn arwain y chwarae ac mae’r Therapydd Chwarae yn dilyn, gan ddarparu diogelwch a chyfyngiant, rheoleiddio a chefnogi hunan fynegiant y plentyn trwy symbolau a throsiadau chwarae.

Therapi chwarae seiliedig ar natur

Mae ymchwil Maggie Fearn yn archwilio ymarfer therapi chwarae seiliedig ar natur, sy’n ymestyn pwerau therapiwtig chwarae y tu hwnt i’r ystafell therapi chwarae ac i’r amgylchedd naturiol. Mae hi wedi datblygu hyfforddiant therapi chwarae seiliedig ar natur y gellir ei ddefnyddio un i un gyda phlentyn, gyda theuluoedd, a gyda grwpiau anogaeth therapiwtig i blant rhwng pedair a deuddeg oed.

Mae ei hymchwil yn sefydlu pum egwyddor sylfaenol ar gyfer therapi chwarae seiliedig ar natur:

1.   Sefydlu a chynnal uchafiaeth y berthynas therapiwtig rhwng y therapydd chwarae a'r plentyn.

2.   Sylw i ‘bresenoldeb’ a chefnogaeth i’r corff-meddwl dan do ac yn yr awyr agored.

3.   Cysylltiad dan do ac awyr agored - egwyddorion cyfrinachedd, diogelwch ac ymddiriedaeth sy'n trosglwyddo ac yn llifo'n ddi-dor o dan do i’r awyr agored.

4.   Darpariaeth gofod awyr agored caeedig.

5.   Ystyriaeth ofalus a gwybodus o fanteision ‘cysylltedd dan do ac awyr agored’ a ‘gofod awyr agored caeedig’ sy’n darparu gwahoddiadau i chwarae.

Dywedodd Maggie: “Yn seiliedig ar yr egwyddorion hyn, datblygais gwrs dysgu cyfunol a dechreuais hyfforddi therapyddion mewn therapi chwarae seiliedig ar natur yn 2020. Mae hwn bellach yn gwrs DPP blynyddol 12 awr, wedi’i gymeradwyo gan Gymdeithas Therapyddion Chwarae Prydain (DU) a'r Association for Play Therapy (UDA) a fydd wedi hyfforddi cyfanswm o 71 o gyfranogwyr erbyn mis Ebrill 2022. Mae sesiynau ar-lein yn cynnwys arddangosiad a theori arfer gorau ac yna bydd cyfranogwyr yn rhoi'r dysgu ar waith mewn tasgau astudio dan gyfarwyddyd trwy brofiad. Mae cwblhau'r hyfforddiant yn llwyddiannus yn arwain at Dystysgrif CTC mewn Therapi Chwarae Seiliedig ar Natur.

“Gall pob therapydd plant, gan gynnwys therapyddion chwarae a therapyddion celfyddydau mynegiannol, ddysgu sut i ymestyn eu hymarfer yn ddiogel i gynnwys natur fel cynghreiriad yn eu gwaith therapiwtig gyda phlant a’u teuluoedd, gan gael mynediad at bwerau therapiwtig chwarae ym myd natur ar gyfer iachau, a dyfnhau cysylltiad â’r hyn sy'n ein cynnal.”

Newid yn yr hinsawdd

Mae'r byd yn wynebu argyfwng hinsawdd. Mae tymheredd y byd yn codi oherwydd gweithgaredd dynol sy'n effeithio ar gynefinoedd naturiol y byd, yr anifeiliaid sy'n byw yn y cynefinoedd hyn a phob agwedd ar fywyd dynol. Mae plant a phobl ifanc yn fwyfwy ymwybodol o effaith negyddol newid yn yr hinsawdd ar natur a bodau dynol, yn enwedig y goblygiadau ar gyfer eu dyfodol. Mae clinigwyr yn arsylwi niferoedd cynyddol o blant a phobl ifanc y mae ymwybyddiaeth o'r argyfwng hinsawdd yn effeithio'n negyddol ar eu hiechyd meddwl a'u lles. Mae eco-bryder, galar ecolegol ac eco-gofid yn dermau a ddefnyddir yn eang ar draws y cyfryngau a gweithiau ysgolheigaidd i ddisgrifio’r ymateb hwn. Fodd bynnag, megis dechrau y mae ymchwil i’r ffordd orau i rieni/gofalwyr, athrawon a therapyddion gefnogi ymateb emosiynol plant i’r argyfwng hinsawdd.

Dywedodd Clare Carbis: “Yn fy ymchwil, rwy’n archwilio sut y gall therapyddion chwarae gefnogi plant y mae ymwybyddiaeth o’r argyfwng hinsawdd yn effeithio’n negyddol ar eu hiechyd meddwl a’u lles. Mae hefyd yn amlygu’r rôl bwysig y gall oedolion arwyddocaol fel rhieni/gofalwyr ac athrawon ei chwarae.

“Mae ymchwil yn awgrymu bod gweithredu ar y cyd yn glustog defnyddiol i’r pryder a achosir gan ymwybyddiaeth o argyfwng hinsawdd ac yn eiriol dros integreiddio cysylltiad natur wrth ymdopi â newid amgylcheddol.”

Mae Clare yn cynnig bod therapi chwarae seiliedig ar natur yn ymyriad priodol ar gyfer plant y mae ymwybyddiaeth o argyfwng hinsawdd yn effeithio arnynt.

“Mae gan rieni, gofalwyr ac athrawon rôl amhrisiadwy wrth gefnogi plant yn eu dealltwriaeth o’r argyfwng hinsawdd a sut y maent yn prosesu’r cynnwys emosiynol”, meddai.

“Mae ymchwil presennol yn annog oedolion i fod yn onest yn eu trafodaethau am yr argyfwng hinsawdd, i wrando a mwyhau llais a phryderon y plentyn ac y gall rhieni/gofalwyr sy’n gweithredu wedyn rymuso’r plant hynny. Mae hefyd yn bwysig gwneud plant yn ymwybodol o'r hyn sy'n cael ei wneud gan eraill i leihau newid yn yr hinsawdd.

“Fodd bynnag, mae angen mwy o ymchwil i ddeall yn well effaith yr argyfwng hinsawdd ar iechyd meddwl a lles plant a’r ymyriadau cymorth mwyaf effeithiol.”

Cyngor i rieni/gofalwyr:

•     Gall ymwybyddiaeth o'r argyfwng hinsawdd effeithio'n negyddol ar iechyd meddwl a lles plant. Mae’n bwysig i rieni/gofalwyr, athrawon, ymarferwyr iechyd meddwl, a therapyddion addysgu eu hunain am yr effaith a’r ffyrdd mwyaf effeithiol o ddarparu cymorth i blant brosesu hyn.

•     Mae'n hysbys bod gweithredu ar y cyd yn glustog i bryder. Mae rhoi cyfle i blant o’r un anian i gymryd rhan ar y cyd mewn prosiectau byd natur a fydd yn lleihau newid yn yr hinsawdd yn debygol o fod yn ymyriad effeithiol.

•     Gall chwarae a natur fod yn iachusol a therapiwtig - byddem yn annog teuluoedd i dreulio amser gyda'i gilydd yn chwarae o fewn a chyda natur. Gallai hyn fod yn chwarae dan arweiniad plentyn ar daith gerdded wledig neu mewn parc lleol, neu’n fwy strwythuredig gyda rhieni/gofalwyr yn darparu ffocws. Mae syniadau o chwarae mwy strwythuredig yn seiliedig ar natur yn cynnwys:

Creu bocs cyffwrdd natur - mae plentyn yn cael bocs wy a gofynnir iddo lenwi pob adran ag eitem naturiol gyda gwead gwahanol. Gofynnir i blant ddisgrifio sut mae pob gwrthrych yn teimlo. Mae'r gweithgaredd hwn yn tawelu ac yn rheoleiddio.

Tyfu hadau gyda’i gilydd - boed hwn yn ddarn o hadau blodau gwyllt yn eich gardd, perlysiau ar eich silff ffenestr neu brosiectau mwy fel plannu coed gyda’i gilydd. Mae meithrin natur yn therapiwtig, gyda'r fantais ychwanegol o gyfrannu'n gadarnhaol at ecosystemau.