App dylunio drymiau yn ehangu ymadroddion Cymraeg
12 Ebrill, 2022
Mae set newydd o eiriau arbenigol wedi'u hychwanegu at eiriadur Cymraeg yn sgil gwaith yn datblygu app i helpu drymwyr i ddylunio offerynnau newydd.
Datblygwyd y termau ar gyfer gwahanol fathau o ddrymiau, a rhannau o'r offerynnau, wedi i Drymiau Tarian o Bont-y-clun droi at y Ganolfan Ragoriaeth mewn Technolegau Symudol a Datblygol (CEMET), sydd wedi'i lleoli ym Mhrifysgol De Cymru (PDC), am gymorth i adeiladu porthol ar-lein dwyieithog i helpu eu busnes i ehangu.
Cysylltodd cyfarwyddwyr Tarian, Rhys Thomas a Geraint Frowen â CEMET, sy'n cael ei hariannu'n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (CDRhE) drwy Lywodraeth Cymru ac sy'n cefnogi busnesau bach a chanolig yng Nghymru i greu a mabwysiadu technoleg ddatblygol, am eu bod yn awyddus i ddod o hyd i gwsmeriaid newydd.
Ar ôl datblygu'r app, sy'n cael ei ddefnyddio gan ddrymwyr i ddylunio eu hofferynnau eu hunain, sylweddolodd Rhys a Geraint, a sefydlodd Tarian a 2018, nad oedd gan rai o'r termau a ddefnyddir gan y perfformwyr gyfieithiad Cymraeg uniongyrchol.
"Er mwyn datrys y mater, cysyllton ni ag arbenigwyr yn Y Termiadur Addysg, sef prosiect a noddir gan Lywodraeth Cymru i ddarparu terminoleg safonol ar gyfer y maes addysg," meddai Rhys.
"Dyma'r termau i'w defnyddio mewn arholiadau ac asesiadau cyfrwng Cymraeg ac mewn adnoddau o bob math ar gyfer athrawon a myfyrwyr.
"Helpodd y tîm yno ni i roi diffiniadau i dermau arbenigol a ddefnyddir gan ddrymwyr – gan gynnwys Bearing Edge - Ymyl y Gragen; Butt end - Pen Bôn; Snare off/Throw off - Taflwr Tannau/Gwifrau; Snare throw/snare off lever - Lifer Taflwr Gwifrau/Tannau; Rack Toms - Tomau Mowntiedig; Floor Toms - Tomau Llawr; Tension Rods - Rhodenni Tyniant; Snare Bed - Gwely Tannau/Gwifrau; a Candy Marble - Marmor Candi.
"Roedd hyn yn golygu y gallai offerynwyr taro sy'n defnyddio'r ap ddylunio eu hofferynnau perffaith gan ddefnyddio'u dewis iaith."
Dywedodd Gruffudd Prys, terminolegydd ym Mhrifysgol Bangor sy'n gweithio ar Y Termiadur Addysg, nad oedd cyfieithu'r geiriau o'r Saesneg i'r Gymraeg mor syml â dod o hyd i gyfatebiad uniongyrchol yn unig, gan y gallai geiriau yn aml fod â mwy nag un ystyr.
"Yr enghraifft amlwg a gododd yn ystod ein gwaith gyda Tarian oedd 'snare'. Roedd yr enw Saesneg 'snare' yn cyfeirio’n wreiddiol at fagl wedi ei chreu o linyn neu wifren y byddech yn ei defnyddio i 'ddal' anifeiliaid bach, ond mae ei ddefnydd wedi ehangu i gyfeirio hefyd at fath o drwm sy'n defnyddio gwifrau oddi tano i roi ei sŵn arbennig iddo," meddai Mr Prys.
"Fodd bynnag, doedd dim modd defnyddio’r gair Cymraeg am ‘snare’ achos mae’r gair Cymraeg yn awgrymu’n gryf bod rhywbeth yn cael ei ddal mewn magl.
"Fel y digwyddodd, o ymchwilio, fe welson ni fod dau derm Cymraeg eisoes ar waith ar gyfer ‘snare drum’: 'drwm gwifrau' a 'drwm tannau'. Wrth drafod â Tarian penderfynwyd bod y term 'drwm gwifren' yn fwy priodol, am nad oedd yn awgrymu bod ‘snare drum’ yn offeryn 'llinynnol' sy’n cynnwys tannau.
"Mae hyn yn dangos pwysigrwydd gweithio gydag arbenigwyr yn eu maes, fel Tarian, sy'n deall y cysyniadau sy'n cael eu trafod. Mae deall y cysyniadau yn sicrhau y gallwn ddewis y term mwyaf priodol posibl i'w ddefnyddio yn ein geiriadur."
Esboniodd Will Warren, Uwch Raglennydd yn CEMET, sut y cafodd yr app ei lunio.
"Gyda'i gilydd, datblygodd Tarian a CEMET raglen Realiti Estynedig oedd yn galluogi defnyddwyr i ddylunio pecynnau drymiau wedi'u teilwra ac yna eu gosod yn rhithiol yn eu gofod eu hunain," meddai.
"Un o elfennau craidd y rhaglen yw adlewyrchu ansawdd gwasanaeth Tarian i’w cwsmeriaid, a’u hymroddiad iddyn nhw. Cyflawnwyd hyn drwy adlewyrchu'n gywir lefel y manylder sy'n gysylltiedig â'r broses o ddylunio drymiau, cefnogi'r Gymraeg a'r Saesneg yn llawn, a chynnig ffyrdd syml, naturiol i ddefnyddwyr gysylltu â Drymiau Tarian."
Dim ond un agwedd ar y gefnogaeth a gafodd y cwmni gan PDC oedd y gwaith a wnaeth Tarian gyda CEMET i ddatblygu'r app dwyieithog.
Cysylltodd Mr Thomas yn wreiddiol â Chyfnewidfa PDC, drws ffrynt PDC ar gyfer ymgysylltu â busnesau, ar ôl wynebu heriau wrth ddatblygu'r fenter a meddwl am ateb hirdymor i wneud mowldiau pwrpasol ar gyfer drymiau penodol.
"Roedden ni'n teimlo ein bod ni'n wynebu brwydr anodd, nad oedden ni’n ei hennill o gwbl," meddai.
"Buon ni’n siarad â'r tîm yng Nghyfnewidfa PDC, ac awgrymon nhw ein bod yn mynd drwy'r Rhaglen Partneriaeth ac Ymgysylltu. Rhoddodd hyn gyllid i ni dalu academyddion yn yr adran beirianneg i ymchwilio i’n problem 'mowldiau' a cheisio dod o hyd i ateb.
"Fe neidion ni ar y cyfle – roedden ni wedi gario llawer ar arbrofi, ac nawr roedd cyfle i beirianwyr medrus arbrofi gyda sicrwydd grant y rhaglen. Cwrddon ni â'r Pennaeth Peirianneg Fecanyddol, a awgrymodd ddefnyddio argraffu 3D i greu’r mowld. Fe wnaethon nhw greu prototeip i ni, ac roedd yn berffaith."
Dywedodd Rhodri Ryland, Rheolwr Ymgysylltu Allanol PDC, fod y berthynas gyda Tarian yn enghraifft berffaith o sut y gall partneriaethau o’r fath helpu busnesau i ffynnu.
"Gall cydweithio diwydiannol-academaidd gyflawni rôl hollbwysig wrth fynd i'r afael â'r heriau sy'n wynebu busnesau bach a chanolig. Gall rhannu syniadau, cyfnewid gwybodaeth a chyfuno arbenigedd yn aml ddatgloi'r hyn sy'n ymddangos fel problemau anorchfygol, a darparu atebion a allai fel arall deimlo’n amhosibl eu cyflawni," meddai.
"Mae'r cyfleoedd i'r byd academaidd a diwydiant eu cefnogi ei gilydd yn enfawr, o recriwtio graddedigion hyd at ymchwil, arloesi a datblygu, a byddwn yn annog pob sefydliad i ystyried ac archwilio sut y gallan nhw integreiddio cydweithio diwydiannol-academaidd gyda'u huchelgeisiau strategol."