Llyfr darlithydd PDC yn helpu plant Mwslemaidd i ddysgu am Ramadan
4 Ebrill, 2022
Mae darlithydd o Brifysgol De Cymru (PDC) wedi cyhoeddi llyfr i helpu plant yn y gymuned Fwslimaidd i ddysgu am Ramadan, a gynhelir rhwng 2 Ebrill a 1 Mai.
Ysgrifennodd Dr Wendy Booth, sy'n dysgu ar yr MSc Arweinyddiaethmewn Gofal Iechyd, Ramadan in Space i annog plant Mwslemaidd i fod yn falch o’u hunaniaeth, ac fel ffordd hwyliog o gofio gweddïo. Meddai: “Mae’r llyfr yn seiliedig ar syniad gan Alex Fell, sy’n gweithio yn My Salah Mat, y cyhoeddwr. Daeth i fyny â'r syniad ar ôl darllen am y gofodwr Mwslemaidd cyntaf yn y gofod, a gweld lluniau ohono'n gweddïo wrth hedfan.
“Dw i wedi ychwanegu cynnwys addysgol at y llyfr, fel acronym i gofio enwau’r planedau, ac mae gennym ni ddarlunydd anhygoel yn Hani Hanifah Ishwari. Mae’r adborth gan blant a rhieni wedi bod yn wych, yn enwedig sylwadau ei fod wedi ysbrydoli rhai plant i ysgrifennu eu storïau eu hunain ac anelu at fod yn awduron eu hunain.”
Mae rhai ysgolion prif ffrwd eisoes wedi prynu’r llyfr i’w ddefnyddio mewn gwersi, ac mae Wendy wedi cael gwahoddiad i wneud darlleniad mewn ysgol gynradd yng Nghaerdydd y tymor nesaf. Enw ei chyfrol nesaf, sydd newydd gael ei chyhoeddi, yw Hajj with Emperor Mansa Musa, ac mae’n arbennig o berthnasol oherwydd i Lywodraeth Cymru wneud hanes Pobl Dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yn orfodol yn y cwricwlwm ysgol o fis Medi eleni.
Mae Wendy yn edrych ymlaen at ddathlu Ramadan yn wahanol eleni, gan fod Mwslemiaid bellach yn gallu mwynhau prydau cymunedol am y tro cyntaf ers y pandemig.
Dywedodd: “Roedd Ramadan yn rhyfedd yn ystod y pandemig, gan ei fod fel arfer yn amser o rannu a dod at ein gilydd i dorri’r ympryd, yn ogystal â gweddïau cymunedol yn y mosg, ond fe wnaeth y mesurau clo mawr eu hangen atal hyn.
“Hefyd, collodd llawer o bobl yn y gymuned Fwslimaidd anwyliaid, gan gynnwys y rhai sy’n gweithio ar y rheng flaen, megis o fewn y GIG, ac felly byddant yn cael eu cofio. Serch hynny, mae pawb yn falch o fod yn dod yn ôl i ryw fath o normalrwydd eleni, a dwi'n edrych ymlaen yn fawr at dreulio amser gyda ffrindiau. Bydd Eid hefyd yn arbennig iawn eleni, ac mae naws cyffro yn yr awyr yn barod.”
Mae Wendy hefyd yn Gymrawd Ymchwil ar gyfer Co-POWeR, prosiect a ariennir gan UKRI sy’n gonsortiwm ar draws naw prifysgol yn y DU, yn edrych ar effaith COVID-19 ar gymunedau BAME.
Ffocws ei hymchwil PhD oedd goddefgarwch ac empathi ethnoddiwylliannol, a dyluniodd set o adnoddau ar gyfer y cwricwlwm dinasyddiaeth mewn ysgolion uwchradd. Mae Wendy bellach yn cydweithio â’i chydweithiwr, Katie Brown, i greu adnoddau ysgol ar gyfer datblygu cynaliadwy.
Ychwanegodd: “Y prif themâu sy’n rhedeg trwy fy llyfrau, gwaith ac ymchwil yw cynaliadwyedd, anghydraddoldebau a gwrth-hiliaeth, a gobeithio y bydd y gwaith sy’n cael ei wneud yn y maes hwn, ynghyd â’r gwersi o’r pandemig, yn arwain at bolisïau ac agweddau sy’n annog cydlyniant cymunedol ac yn cefnogi’r rhai sy’n cael trafferth gyda thlodi a phroblemau iechyd meddwl – y syniad o adeiladu’n ôl yn well.”