Myfyrwyr darlunio yn dylunio cerfluniau Snoopy ar gyfer llwybr celf newydd cyffrous

8 Ebrill, 2022

https://uswfoxtail.blob.core.windows.net/foxtail-prod-uploads/original_images/Amy_Bainbridge_-_Quit_Dragon_Your_Heels_2.jpg

Heddiw (8 Ebrill) bydd pum myfyriwr Darlunio o Brifysgol De Cymru (PDC) yn gweld eu dyluniadau’n addurno cerfluniau Snoopy anferth fel rhan o lwybr celf cyhoeddus ysblennydd gan Dogs Trust.

Mae A Dog’s Trail yn gyfres o gerfluniau Snoopy sydd wedi’u haddurno’n gywrain, yn ymlwybro ar draws Caerdydd, Caerffili a Phorthcawl am yr wyth wythnos nesaf, gyda phob cerflun wedi’i ddylunio gan artistiaid lleol, rhanbarthol a chenedlaethol.

Dewiswyd dyluniadau myfyrwyr ail flwyddyn Alison Howard, Amy Bainbridge, Hannah Morgan, Elis Mutlu a Megan Hill i fod yn rhan o’r llwybr, sydd hefyd yn cynnwys gwaith gan Joe Davies, un o raddedigion Darlunio. Dewiswyd y chwe artist o restr fer o 13 o ddarlunwyr PDC.

Alison, 22, sy’n wreiddiol o Sutton Coldfield, greodd y dyluniad Self Care with Snoopy, sydd wedi’i osod yng ngardd rosod Parc y Rhath.

Meddai: “Penderfynais ymgorffori ffyrdd y mae pobl yn ymlacio, fel treulio amser gydag anifeiliaid neu fwynhau byd natur, a phenderfynais chwistrellu ychydig o hwyl trwy ychwanegu ci yn mwynhau trochfa hamddenol yn y bath! 

"Mae’n anhygoel bod yn rhan o’r digwyddiad gwych hwn, a gwybod y bydd plant a theuluoedd yn mwynhau fy ngwaith.”

Lluniodd Amy, 22, o Wenfô, Bro Morgannwg, ddyluniad o’r enw Quit Dragon Your Feet, a ysbrydolwyd gan arwyddocâd hanesyddol cestyll a dreigiau yn hanes Cymru. Dywedodd: “Roeddwn i eisiau creu rhywbeth oedd yn fy atgoffa o Gymru, a dwi’n cofio i’r ddraig las fawr oedd yn eistedd ar un o dyredau Castell Caerdydd greu argraff fawr arnaf rai blynyddoedd yn ôl. Felly fe wnes i ddylunio draig goch Snoopy, yn gwisgo trowsus sy'n edrych fel wal castell. Mae wedi’i osod gyferbyn â Chastell Caerffili, ac ni allaf aros i weld ymateb y cyhoedd iddo.”

Mae Hannah, 22 yn wreiddiol o Gaerfyrddin ac yn byw yng Nghaerdydd erbyn hyn. Mae ei dyluniad, Celestial Day and Night, yn cymryd lle amlwg yng Ngerddi Sant Ioan, ger yr Hen Lyfrgell yng Nghaerdydd.

Meddai: “Rwyf wrth fy modd â phatrymau a sêr nefol, felly cyfunais y rheini â chanolbwynt yn y canol, gan ddefnyddio stensiliau a phaent poster i greu’r patrwm ailadroddus sy’n hanner glas a hanner melyn.

"Dyma fy nghomisiwn cyntaf, felly rwy’n nerfus wrth feddwl y bydd y cyhoedd yn edrych arno!”

Dywedodd Matt Morgan, Uwch Ddarlithydd Darlunio ym Mhrifysgol De Cymru: “Ein nod yw hyfforddi ‘darlunwyr go iawn ar gyfer y byd go iawn’ drwy ymgysylltu ein myfyrwyr â briffiau byw gan gleientiaid go iawn, ac mae wedi bod yn bleser gweithio gyda Dogs Trust a Wild in Art, yn enwedig cael cymeriad darluniadol mor eiconig fel Snoopy fel y cynfas! Rydw i mor falch ein bod ni wedi cael pum myfyriwr a myfyriwr graddedig wedi’u dewis ar gyfer A Dog’s Trail. Roedden nhw’n cystadlu yn erbyn artistiaid proffesiynol sydd wedi bod yn creu gwaith fel hyn ar hyd a lled y wlad ers blynyddoedd lawer, felly maen nhw wedi gwneud yn arbennig o dda i gael eu cydnabod.”

Cyflwynir y digwyddiad mewn partneriaeth â Peanuts – crëwr y cartŵn Snoopy byd-enwog – a Wild in Art, cynhyrchydd creadigol blaenllaw o ddigwyddiadau celf cyhoeddus. Bydd y llwybr yn para tan ganol mis Mehefin, pan fydd y cerfluniau'n cael eu gwerthu mewn ocsiwn er budd Dogs Trust.

Dywedodd Rebecca Staden, Rheolwr Prosiect A Dog’s Trail: “Mae wedi bod yn bleser gweld dyluniadau’r myfyrwyr yn dod yn fyw ar gerflun Snoopy. Mae'n golygu y bydd cannoedd o bobl o bob rhan o dde Cymru yn cael gwerthfawrogi eu dawn greadigol anhygoel. Cyflwynodd myfyrwyr darlunio yn PDC ddyluniadau anhygoel, unigryw i addurno cerflun Snoopy yn y prif lwybr, a oedd yn gyfle gwych iddynt gael eu darn cyntaf o gelfyddyd wedi’i gomisiynu yng ngolwg y cyhoedd, tra’n codi arian gwerthfawr i helpu mwy o gŵn ar draws De Cymru.”