Darlunio
Trowch eich angerdd am adrodd straeon gweledol, creu delweddau a mynegiant creadigol yn yrfa mewn darlunio.
Sut i wneud cais Gwneud gais drwy UCAS Trefnu Diwrnod Agored Sgwrsio gyda niCôd UCAS
W220
Dyddiad Cychwyn
Medi 2027
Lleoliad
Caerdydd
Côd y Campws
B
Pwyntiau UCAS
96
Myfyrwyr rhyngwladol: £17,600*
Trosolwg o'r Cwrs
Datblygu eich llais creadigol eich hun trwy ymarfer stiwdio, arbrofi a phrosiectau sy'n seiliedig ar y diwydiant, gan weithio ar friffiau byw a meithrin sgiliau proffesiynol sydd eu hangen ar gyfer gyrfaoedd creadigol ar draws darlunio, cyhoeddi, animeiddio, dylunio ac ymarfer llawrydd.
Trwy ddysgu mewn stiwdio, ymchwil a phrosiectau sy'n seiliedig ar y diwydiant, byddwch yn meithrin y sgiliau a'r hyder i greu gwaith uchelgeisiol a datblygu portffolio proffesiynol.
Pam astudio'r cwrs hwn?
Beth fyddwch chi'n ei astudio
Byddwch yn derbyn sylfaen drylwyr i’ch astudiaethau wrth i chi ddysgu am y modd y gall eich medrau darlunio gael effaith yn y byd go iawn, gan ddod o hyd i’ch iaith weledol eich hun wrth i chi gael eich ymdrwytho mewn i’r pwnc.
Dysgwch y ddamcaniaeth sylfaenol sy’n sail i’ch datblygiad ymarferol ac ewch i’r afael â medrau academaidd allweddol.
Ymchwiliwch i ddamcaniaeth lliw a seicoleg lliw er mwyn eich cynorthwyo chi i gyfathrebu eich syniadau a chynyddu eich gallu i ddweud stori mewn dull gweledol.
Treuliwch amser yn y stiwdio yn datblygu eich arddull darlunio chi eich hun, eich ieithwedd weledol ac arddull adrodd stori, gan arbrofi gydag ystod eang o gyfryngau a thechnegau gwneud marciau ac arddulliau darlunio.
Ymchwiliwch i mewn i’r modd y mae darlunio’n cael ei gymhwyso o fewn y diwydiant cyfathrebu gweledol a darlunio, tra hefyd yn ystyried eich ieithwedd weledol, eich cynulleidfa darged a marchnadoedd.
Ymchwiliwch i fudiadau artistig a dylunio allweddol y gorffennol, sy’n ysbrydoli eich arferion celf chi eich hun, wrth ddatblygu sgiliau mewn ymchwil beirniadol, dadansoddi ac ysgrifennu academaidd.
Defnyddiwch eich crefft mewn dulliau mwy mentrus.
Datblygwch ddealltwriaeth fasnachol o ystod o ddiwydiannau y gallech gael effaith arnynt drwy eich gwaith darlunio.
Archwiliwch y berthynas rhwng y darlunydd, y cleient ac asiant, gan archwilio’r maes darlunio ar gyfer llenyddiaeth, darlunio golygyddol, a darlunio a all roi gwybodaeth i’r gynulleidfa.
Ymchwiliwch sut y gall darlunio berswadio neu ddenu cynulleidfaoedd newydd mewn perthynas â lleoedd, cynnyrch a brandiau wrth i chi ymateb i friff sy'n cyd-fynd â’r diwydiant.
Dysgwch sut i ddyrchafu eich delweddau gyda symudiad, gan archwilio rôl y darlunydd wrth gynhyrchu animeiddiad a delweddau symudol, archwiliwch ddylunio cymeriad, hanfodion animeiddio, gwneud gif a realiti estynedig.
Datblygu dealltwriaeth uwch o gyd-destunau darlunio, eu pwrpas a’u cymwysiadau, gyda phwyslais ar gyfryngau cymdeithasol a thueddiadau yn y diwydiannau creadigol.
Paratowch i gymryd rhan yn y diwydiant wrth i chi weithio ar friffiau byw a phrosiectau sydd wedi eu teilwra ar gyfer eich diddordebau a’ch gobeithion chi eich hun.
Byddwch yn cymryd rhan mewn lleoliad gwaith, byddwch yn cynyddu eich portffolio ac yn datblygu eich brand eich a’ch hunaniaeth eich hun ar y cyd â’r sgiliau proffesiynol sydd eu hangen arnoch i lansio gyrfa yn y byd darlunio.
Cysylltwch ymchwil academaidd ac ymarfer creadigol wrth i chi wneud prosiect ymchwil parhaus mewn maes sy'n ymwneud â darlunio a/neu ddylunio.
Datblygwch brosiect hunan-gyfeiriedig, neu gorff proffesiynol o waith yn seiliedig ar eich cryfderau, eich diddordebau a’ch dyheadau gyrfa, gan gyflwyno eich gwaith i lefel broffesiynol.
Byddwch yn ymgymryd â lleoliad gwaith 70 awr yn y diwydiant neu byddwch yn cwblhau briff prosiect byw a ddarperir gan bartner yn y diwydiant, gan ddangos eich bod yn barod i weithio o fewn y diwydiant.
Byddwch yn meithrin sgiliau hanfodol ar gyfer y darlunio’n llawrydd. Meistrolwch y grefft o hunan-hyrwyddo gyda gwefan a chyfryngau cymdeithasol i hybu eich cyflogadwyedd.
Cyfle arall i gynyddu eich arbenigedd proffesiynol ac i sicrhau bod llawer o bobl yn gweld eich gwaith. Mae ein myfyrwyr yn gyson lwyddiannus mewn llawer o wobrau a chystadlaethau cenedlaethol.
Rydym yn adolygu ein cyrsiau'n rheolaidd i gadw i fyny â sgiliau newidiol ac anghenion cyflogwyr. Os bydd adolygiad yn arwain at newidiadau sylweddol, byddwn yn cysylltu â chi i esbonio beth sy'n newid ar gyfer y flwyddyn nesaf.
Addysgu ac Asesu
Mae'r cwrs ymarferol hwn yn cyfuno dysgu ymarferol mewn stiwdio ag ymgysylltu â'r diwydiant i gefnogi eich datblygiad fel gweithiwr proffesiynol creadigol. Trwy weithdai, tiwtorialau, prosiectau byw ac astudiaeth annibynnol, byddwch yn adeiladu portffolio cryf ac yn ennill profiad gwerthfawr. Mae asesiadau yn canolbwyntio'n bennaf ar y gwaith creadigol a'r prosiectau rydych chi'n eu cynhyrchu.
Byddwch yn dysgu trwy gymysgedd o ymarfer stiwdio, briffiau byw, gweithdai, darlithoedd a phrosiectau dan arweiniad diwydiant. Mae cyfran sylweddol o'ch amser yn cael ei dreulio yn datblygu sgiliau ymarferol yn y stiwdio, lle byddwch yn meithrin eich hyder creadigol, mireinio’ch arddull weledol ac yn datblygu portffolio proffesiynol wrth ymateb i heriau byd go iawn a phrosiectau cydweithredol.
Mae asesu yn seiliedig ar waith cwrs yn gyfan gwbl, heb arholiadau traddodiadol. Byddwch yn cael eich asesu trwy bortffolios, prosiectau ymarferol, cyflwyniadau, aseiniadau ysgrifenedig a briffiau cleientiaid byw, gan roi cyfle i chi arddangos eich creadigrwydd, sgiliau technegol a datblygiad proffesiynol trwy gydol y cwrs.
Adeiladwch gysylltiadau diwydiant trwy brosiectau byw, ymweliadau â stiwdios, lleoliadau a chyfleoedd rhwydweithio gyda sefydliadau creadigol ar draws darlunio, cyhoeddi, dylunio, animeiddio, amgueddfeydd ac orielau.
Byddwch yn cael mewnwelediad i’r byd go iawn, yn datblygu sgiliau proffesiynol ac yn adeiladu rhwydwaith ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol.
Trwy gydol y cwrs, byddwch yn gweithio ar brosiectau a arweinir gan y diwydiant a briffiau byw. Ym Mlwyddyn Tri, byddwch yn canolbwyntio ar friffiau cystadleuaeth ryngwladol, lleoliadau â chymorth lle bo modd, a phrosiect terfynol mawr wedi'i lywio gan ymarfer proffesiynol.
Mae myfyrwyr blaenorol wedi gweithio gydag orielau celf yn Efrog Newydd, wedi dysgu celf drwy'r iaith Gymraeg ym Mhatagonia a chyfrannu at Ŵyl Drochi arobryn PDC.
Bydd gennych fynediad at gyfleusterau o safon y diwydiant ar ein campws yng Nghaerdydd, gan gynnwys mannau stiwdio broffesiynol, ystafelloedd Mac gyda thabledi lluniadu a meddalwedd Adobe, ac offer arbenigol fel argraffwyr Risograph, argraffwyr 3D a thorwyr laser. Er mwyn cefnogi eich astudiaethau, mae ein gwasanaeth Benthyciadau Cyfryngau am ddim yn darparu mynediad at gamerâu, goleuadau, offer sain ac offer recordio i'w defnyddio ar brosiectau ac aseiniadau. Byddwch hefyd yn elwa o gymorth technegol pwrpasol, sy'n eich helpu i ddatblygu sgiliau ymarferol ac ennill profiad ymarferol gyda'r offer a'r technolegau a ddefnyddir ar draws y diwydiannau creadigol.
Arweinydd y Cwrs
Matthew Morgan
Matthew Morgan yw Arweinydd y Cwrs ar gyfer BA Darlunio ac yn ddarlunydd, animeiddiwr a chyfarwyddwr creadigol profiadol. Ar ôl gweithio gyda sefydliadau blaenllaw gan gynnwys y BBC, Aardman Animations, Disney Channel a Cartoon Network, mae'n dod â mewnwelediad gwerthfawr o'r diwydiant i'r cwrs. Mae dull ymarferol Matthew yn helpu myfyrwyr i ddatblygu eu hymarfer creadigol, meithrin hyder proffesiynol a pharatoi ar gyfer gyrfaoedd yn y diwydiannau creadigol.
Gofynion Mynediad
Gofynion ychwanegol:
TGAU: Mae'r Brifysgol fel rheol yn gofyn am o leiaf 5 TGAU gan gynnwys Mathemateg / Rhifedd a Saesneg ar Radd C neu Radd 4 neu'n uwch, neu'r hyn sy'n cyfateb iddynt, ond rhoddir ystyriaeth i amgylchiadau unigol
Cynigion cyd-destunol
Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol, ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.
Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.
Sut i wneud caisDatganiad Derbyniadau Cyd-destunolGofynnwch gwestiwn i ni96 Pwyntiau UCAS neu'n uwch
Gofynion cymhwyster nodweddiadol
Lefel A:
CCC
Bagloriaeth Cymru:
Pasio Diploma Bagloriaeth Uwch Cymru gyda Gradd C yn y Dystysgrif Her Sgiliau a CC ar Lefel A gyda phwnc celf a dylunio perthnasol
BTEC:
Diploma Estynedig BTEC Teilyngdod Teilyngdod mewn pwnc celf a dylunio perthnasol
Mynediad i AU:
Pasio'r Diploma Mynediad i AU mewn pwnc celf a dylunio perthnasol gydag o leiaf 96 pwynt tariff UCAS
Safon T:
Pasio (C ac uwch) mewn pwnc celf a dylunio perthnasol
Ffioedd a Chyllid
Astudio yn y Brifysgol yw un o'r buddsoddiadau mwyaf sylweddol y byddwch yn ei wneud erioed. Tra byddwch yn astudio, bydd gennych ddau brif rwymedigaeth ariannol – ffioedd dysgu a chostau byw. Mae llawer o gymorth ariannol ar gael gan Brifysgol De Cymru a ffynonellau cyllid allanol, a all ddarparu benthyciadau (sy’n rhaid eu talu’n ôl) a grantiau, ysgoloriaethau a bwrsarïau (nad oes rhaid eu talu'n ôl).
*Mae ffioedd llawn amser fesul blwyddyn. Mae ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd. Ar ôl cofrestru, disgwylir i'r ffi barhau ar yr un gyfradd trwy gydol eich astudiaethau ar y cwrs hwn, ac eithrio fel y disgrifir isod.
Byddwch yn ymwybodol y gallwn gynyddu'r ffi uchaf ar gyfer myfyrwyr cartref ar gyrsiau israddedig llawn amser dim ond pan fydd Llywodraeth Cymru yn cynyddu'r lefel chwyddiant ffioedd a ganiateir. Gellir diwygio ffioedd ar gyfer pob myfyriwr (gan gynnwys myfyrwyr rhan-amser, ôl-raddedig a rhyngwladol) yn unol â'n Polisi Rheoli Ffioedd a Dyled perthnasol. Byddwn yn sicrhau bod myfyrwyr yn cael gwybodaeth glir, ddealladwy, ddiamwys ac amserol am ein cyrsiau a'n costau mewn digon o bryd, cyn y flwyddyn academaidd nesaf.
Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati.
Deunyddiau Celf
Mae PDC yn darparu amrywiaeth o ddeunyddiau sylfaenol, ond rydym yn eich annog i gael eich deunyddiau dewisol eich hun i'w defnyddio ar gyfer gwaith wedi'i gyfarwyddo.
Cost: I fyny at £150
Gliniadur
Wrth i'r cwrs fynd rhagddo, mae'n ddefnyddiol cael eich gliniadur eich hun, ond bydd gennych fynediad at yr holl gyfarpar TG dros y tair blynedd. Mae costau gliniadur yn amrywio yn dibynnu ar eich dewisiadau a'ch cyllideb eich hun.
Cost: I fyny at £500+
Costau Argraffu ac Arddangos
Weithiau, efallai y bydd gofyn i chi argraffu canlyniadau darluniadol ar gyfer modiwlau penodol, briffiau byw, cyflwyniadau i gleientiaid neu asesiadau. Mae'r costau'n amodol ar ofynion unigol.
Cost: I fyny at £200
Taith maes / Teithiau allgyrsiol
Bydd teithiau maes sy'n rhan o ddysgu craidd yn cael eu talu gan y cwrs. Trefnir ymweliadau ychwanegol o bryd i'w gilydd sy'n ddewisol ac efallai y gofynnir i fyfyrwyr rannu'r costau. Bydd y teithiau dewisol hyn yn amrywio o £20 ar gyfer teithiau lleol i £500 ar gyfer teithiau rhyngwladol.
Cost: I fyny at £500
Fesul blwyddyn

Benthyciadau Cyfryngau
Mynnwch fynediad at gamerâu, offer goleuo, sain ac offer recordio o safon y diwydiant, gyda chymorth gan ein gwasanaeth Benthyciadau Cyfryngau am ddim a thechnegwyr profiadol. Mae gennym bopeth sydd ei angen arnoch i'ch helpu i arbrofi, mireinio a dod â'ch gwaith yn fyw'n hyderus.
Sut i Wneud Cais
Dylid gwneud pob cais am gyrsiau israddedig amser llawn neu raddau sylfaen drwy UCAS. Cymerwch y cam nesaf: Gwnewch gais drwy UCAS.
Gallwch wneud cais i ni yn uniongyrchol am bob cwrs israddedig rhan-amser, os ydych yn chwilio am fynediad uwch neu os ydych yn fyfyriwr rhyngwladol. I wneud cais yn uniongyrchol, dewiswch y ffurflen gais isod ar gyfer eich dyddiad cychwyn dewisol a'ch dull astudio (amser llawn neu ran-amser).
-
Apply direct
Darlunio
-
Llawn Amser, 3 blynedd
-
Medi
-
Caerdydd
-
Os oes gennych gymhwyster neu brofiad perthnasol eisoes sy'n gysylltiedig â'r cwrs rydych yn gwneud cais amdano, efallai y byddwch yn gymwys i ddechrau ar gam diweddarach o'r cwrs. Er enghraifft, gall myfyrwyr o golegau partner 'ychwanegu ato' eu cymwysterau i radd trwy ymuno â ni ym Mlwyddyn Dau neu Flwyddyn Tri cwrs. Gelwir y broses hon yn 'fynediad uwch', gallwch wneud cais yn uniongyrchol i'r Brifysgol am 'fynediad uwch' gan ddefnyddio'r ffurflenni cais a ddarperir uchod.
Gall ymgeiswyr a dderbynnir drwy fynediad uwch astudio cyfuniad gwahanol o fodiwlau i'r rhai a hysbysebir, gan y byddant yn ymuno â chwrs sydd eisoes ar y gweill. Fe wnawn ni gysylltu â chi a’ch cynghori chi am y modiwlau hyn unwaith y bydd eich cais wedi'i brosesu a chynnig wedi'i wneud.
Gall ymgeiswyr rhyngwladol wneud cais yn uniongyrchol i ni. Os oes gan y Brifysgol dîm mewn gwlad yn eich rhanbarth, bydd eich cais yn cael ei neilltuo iddynt am gymorth.
Straeon ac uchafbwyntiau cysylltiedig
Erthygl Newyddion
Erthygl Newyddion