Storïau Graddio: Wedi'i gyrru gan gariad tuag at ei mab, mae Sophie yn fam o'r radd flaenaf
8 Ebrill, 2022
Yr wythnos hon bydd Canolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru yng Nghasnewydd yn gweld miloedd o’n graddedigion o 2020 a 2021 o’r diwedd yn croesi’r llwyfan yn eu cap a’u gŵn. I nodi dychweliad ein seremonïau graddio, rydym yn rhannu storïau rhai o’n myfyrwyr ysbrydoledig.
Graddiodd Sophie McGrath, o Bontypridd, gyda gradd dosbarth cyntaf o Brifysgol De Cymru (PDC) er gwaethaf brwydro gyda salwch meddwl drwy gydol ei hastudiaethau.
Ychydig cyn iddi ddechrau ei chwrs gradd, cafodd Sophie, sy'n fam sengl, ddiagnosis o PTSD cymhleth ac anhwylder personoliaeth. Dywedodd:
“Rwyf wedi cael trafferth gydag iselder a gorbryder ers pan oeddwn yn 15. Roeddwn wedi bod yn ôl ac ymlaen at y meddygon, ond nid oedd dim yn gwneud i mi deimlo'n well. Roedd yn gyfnod dryslyd iawn.
“Roedd gen i iselder ôl-enedigol ar ôl i fy mab gael ei eni ond gwn fod rhywbeth arall yn digwydd. Es i am asesiad ac o’r diwedd cefais ddiagnosis a oedd yn gwneud synnwyr.”
Roedd mab Sophie yn bump oed pan ymunodd â’r cwrs BSc (Anrh) Troseddeg, CyfiawnderTroseddol a Chyfiawnder Ieuenctid ym Mhrifysgol De Cymru, felly roedd angen iddi ffitio gofal plant o amgylch ei darlithoedd.
Ar ôl astudio ar gyfer ei lefel A yng Ngholeg y Cymoedd, tiwtor yno a awgrymodd y gallai fwynhau astudio troseddeg ar lefel prifysgol.
Meddai: “Roeddwn i'n eitha’ nerfus am y peth, ond fe wnes i ymchwilio i'r pwnc ac roedd yn swnio'n ddiddorol - rhywbeth y gallwn i gael fy nannedd i mewn iddo.
“Roedd fy mrawd wedi astudio yn PDC ac wrth ei fodd â’i brofiad fel myfyriwr, felly penderfynais ddilyn ôl ei droed. Cyn gynted ag yr es i i’m narlith gyntaf, roeddwn wedi fy nghyfareddu, a oedd yn rhyddhad, oherwydd roedd yn benderfyniad enfawr i fynd i’r brifysgol tra roedd fy mab mor ifanc.”
Ni chanfu Sophie fod astudio yn dod yn hawdd iddi a thybiodd mai ei hiechyd meddwl oedd yn gyfrifol am hyn. Yn ei hail flwyddyn, trodd at Wasanaethau Myfyrwyr PDC am gymorth.
“Cefais asesiad a chefais ddiagnosis o ddyslecsia. Roeddwn yn 25 oed felly roedd cael diagnosis mor hwyr mewn bywyd yn ddeffroad enfawr i mi. Roeddwn wedi argyhoeddi fy hun fy mod yn dwp, ond yn sydyn roedd popeth yn gwneud synnwyr. Roedd yna esboniad," meddai Sophie.
“Neilltuodd PDC fentor iechyd meddwl a Thiwtor Sgiliau Astudio i mi, a oedd yn anhygoel. Roedd heriau ac roedd yna adegau pan oeddwn i’n meddwl na fyddwn i’n gorffen y cwrs, ond rydw i’n deall fy mreintiau gan fod gen i deulu cefnogol iawn. Fy mab oedd fy ysgogiad. Roeddwn i'n ei wneud iddo hefyd, nid i mi yn unig. Roeddwn i'n 18 oed pan gafodd ei eni. Roeddwn i eisiau dweud wrtho, ‘Fe wnes i hyn, roedd yn anodd ond gallet ti ei wneud hefyd’. Rwyf am fod yn fodel rôl iddo.”
Tynnodd Sophie ar ei phrofiad ei hun i ganolbwyntio ymchwil ei thraethawd estynedig ar iechyd meddwl a’r system Cyfiawnder Troseddol. Mae hi bellach yn gweithio i Action for Children, elusen sy’n cefnogi pobl ifanc ag anghenion ychwanegol. Dywedodd:
“Ni allaf gredu y byddaf o’r diwedd yn croesi’r llwyfan gyda fy mam, fy mab a’m partner yno, sydd wedi bod yn rhan enfawr o’m taith. Mae’n ddathliad o’m gwaith caled.”