Y myfyriwr graddedig sy'n chwyldroi'r ffordd y dysgir gweddi Islamaidd i blant
25 Ebrill, 2022
Wrth i fis Ramadan ddod i ben, rydym yn dathlu llwyddiannau Kamal Ali, un o raddedigion Prifysgol De Cymru, sydd wedi creu mat gweddïo rhyngweithiol unigryw ar gyfer teuluoedd Mwslimaidd.
Mat gweddïo addysgol yw My Salah Mat sydd wedi'i gynllunio i addysgu plant ar berfformio gweddi Islamaidd mewn ffordd hwyliog a phleserus. Mae'n sensitif i gyffyrddiad ac mae ganddo allweddi wedi'u recordio ymlaen llaw y gellir eu cyffwrdd i ddatgelu synau, fel amseroedd gweddi, sut i wneud wudu, adrodd surahs, dweud duas, a llawer mwy.
Graddiodd Kamal yn 2005 gydag anrhydedd dosbarth cyntaf mewn Dylunio Ffasiwn, cyn astudio MA mewn Dylunio Cynnyrch a TAR, a arweiniodd at ddysgu Technoleg Dylunio yn Birmingham, yna De Cymru ac yn fwyaf diweddar yn Cairo fel athro animeiddio digidol mewn ysgol ryngwladol.
Daeth y syniad ar gyfer My Salah Mat yn 2016 pan oedd yn gwylio ei fab yn dysgu gweddïo.
“Byddai Hamzah wedi bod yn bedwar neu bump, ac roedd yn cael trafferth gwneud Sujud. Felly roeddwn i'n eistedd ar y soffa, o flaen y teledu ac roedd gen i'r weledigaeth hon yn fy mhen," meddai Kamal.
“Dyma ddechrau taith 18 mis, o’m syniad gwreiddiol i’r cynnyrch cyntaf o’i fath ydyw heddiw. Pan oeddwn yn dylunio’r mat, rwy’n cofio meddwl ‘Fwy na thebyg na fyddaf byth yn y sefyllfa hon nac yn cael syniad fel hyn eto’, felly roedd yn foment i’w bachu ac yn gyfle i’w ddilyn.
“Mae’n rhywbeth sydd mor syml ac y dylid bod wedi’i wneud ers talwm. Mae'n debyg ei fod angen rhywun o'r grefydd honno i fod wedi tyfu i fyny yn y diwylliant hwn i allu ei wneud ar y lefel hon.
“Y gred ganolog y tu ôl i’n cwmni yw bod dysgu trwy chwarae yn hanfodol wrth ddysgu ffydd a gweddi. Nid yw pobl yn rhoi pwyslais ar ddysgu trwy chwarae, er bod y pethau hyn yn bodoli yn ystod amser ein proffwyd. Roedd y proffwyd yn arfer chwarae gyda phlant, felly mae dysgu trwy chwarae wedi bod yno erioed.”
Mae My Salah Mat bellach wedi tyfu o fod yn brosiect angerddol un person i fod yn frand byd-eang, yn cael ei werthu mewn mwy na 24 o wledydd gwahanol a’i gyfieithu i 15 o ieithoedd.
Ychwanegodd Kamal: “Pan ddes i’n ôl o Hajj [pererindod Islamaidd flynyddol i Mecca, Saudi Arabia] yn 2010, roedd gweddïo bum gwaith y dydd mor hawdd i’w wneud, ac roeddwn i bob amser yn caru gweddïo ac yn dal i’w fwynhau, felly roeddwn i eisiau pasio hynny ymlaen i fy mhlentyn.
“Fy ngobaith am y mat gweddïo wrth symud ymlaen yw ei fod yn dod yn arf dysgu y mae cenhedlaeth yn ei garu, rhywbeth y gall Mwslimiaid sy’n oedolion edrych yn ôl arno a’i gofio’n annwyl fel eu camau cyntaf i ysbrydolrwydd. Rwy’n gobeithio y bydd y genhedlaeth sy’n tyfu i fyny yn defnyddio’r mat gweddïo hwn yn tyfu i fyny i fod eisiau gweddïo.”