Hanesion Graddio | Curtis yn manteisio ar gyfle ac yn gweddnewid ei fywyd

18 Gorffennaf, 2022

https://uswfoxtail.blob.core.windows.net/foxtail-prod-uploads/original_images/Curtis_Griffin.jpg

Yr wythnos hon, bydd Canolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru yng Nghasnewydd unwaith eto yn gweld miloedd o’n graddedigion yn croesi’r llwyfan yn eu cap a’u gŵn. I ddathlu, rydym yn rhannu storïau rhai o’n myfyrwyr ysbrydoledig.

Mae Curtis Griffin, o Gaerdydd, yn graddio'r wythnos hon o Brifysgol De Cymru (PDC), ar ôl gweddnewid ei fywyd a llwyddo i gwblhau BSc (Anrh) mewn Hyfforddi a Gweinyddu Pêl-droed Cymunedol.

Cafodd Curtis ei fagu yn y system ofal. Dywedodd: "Doeddwn i ddim yn adnabod fy nhad ac roedd iechyd fy man yn golygu na allai ofalu amdanaf i a fy mrodyr a chwiorydd.

"Doedd fy mywyd cartref ddim yn wych. Symudodd fy mrodyr a fi o gwmpas llawer ac fe gaethon ni ein gwahanu’n aml. Cafodd hyn effaith seicolegol fawr arnon ni wrth dyfu i fyny, a doedd gyda ni ddim strwythur na phwyslais ar addysg."

Cafodd ei angerdd dros chwaraeon ei danio pan ddewisodd athro ysgol gynradd (oedd hefyd yn hyfforddwr pêl-droed) ef ar gyfer Ieuenctid Dinas Caerdydd, ac enillodd le yn y Ganolfan Ragoriaeth. Fodd bynnag, pan aeth i'r ysgol uwchradd, dechreuodd dreulio amser gyda'r dorf anghywir.

"Roedden ni’n byw ar ystâd tai cyngor ac roedd dylanwadau gwael o’n cwmpas ni ymhobman. Un diwrnod, fe wnes i ymladd â rhywun. Cefais fy rhoi yn y ddalfa am ymosod a, phan oeddwn i’n 16 oed, es i i'r carchar.

"Pan ges i fy rhyddhau yr unig beth oedd ar fy meddwl oedd gwneud arian. Es i i ffordd o fyw nad oedd yn gynaliadwy, ac fe ges i fy arestio a fy ngharcharu eto," meddai.

Yn y cyfamser, cafodd mab Curtis ei eni ac roedd hynny'n foment dyngedfennol iddo. Dywedodd: "Roeddwn i'n gwybod bod yn rhaid i fi fynd ar lwybr gwahanol. Roeddwn i eisiau bod yn fodel rôl i fy mab. Dyma gymryd cam yn ôl a meddwl, os na wnaf i newid nawr, pryd  gwnaf i fyth newid?

"Felly, tra oeddwn i’n y carchar, fe wnes i gofrestru ar gyrsiau amrywiol ac fe wnes i ymdrechu i helpu eraill. Fe wnes i helpu cyd-garcharorion gyda darllen, ysgrifennu a dod o hyd i waith a mentora pobl oedd yn y carchar am y tro cyntaf. Tra oeddwn i'n mentora, cysylltodd Coleg St Giles â fi. Roedd faint roeddwn i wedi aeddfedu wedi creu argraff fawr arnyn nhw ac fe gynigion nhw swydd wirfoddol i fi tra’n astudio ar gyfer cymhwyster lefel 3."

Tra oedd Curtis yn astudio, dechreuodd ystyried a allai lwyddo yn y brifysgol. Gydag anogaeth ei fentor o St Giles, sylweddolodd ei fod wastad wedi bod â diddordeb mewn hyfforddi chwaraeon. Cwblhaodd gwrs gyda’r Brifysgol Agored i ddechrau ac yna symud yn ei flaen at radd gyda PDC, yng Nghlwb Pêl-droed Casnewydd.

Dywedodd: "Mae gen i gymaint o syniadau ar gyfer y dyfodol. Efallai y byddaf yn mynd yn syth i hyfforddi chwaraewyr ifanc, neu ddilyn gradd ôl-radd, neu hyd yn oed addysgu. Rwyf am wneud gwahaniaeth ym mywydau pobl ifanc. Os gwelaf unrhyw un yn mentro ar y llwybr anghywir, gallaf siarad â nhw o brofiad a cheisio eu harwain ar hyd ffordd arall. Efallai y byddan nhw'n gwrando ar rywun sydd wedi bod yno ac wedi newid ei fywyd er gwell."

Dywedodd Bobby Briers, Arweinydd Cwrs yn PDC: "Mae Curtis yn fodel gwych ar gyfer dysgwyr aeddfed sy’n dychwelyd i addysg. Rhaid canmol ei ymrwymiad i'r cwrs a'i astudiaethau.  Er bod ganddo swydd lawn amser ac ymrwymiadau teuluol, mae wedi cofleidio’r gwahanol brofiadau hyfforddi a'r heriau addysgol y mae wedi'u hwynebu a'u goresgyn gyda'r dosbarth. Bu’n bleser gweithio gydag ef, o'r tro cyntaf un y gwnaethon ni gwrdd ag ef wrth gwblhau ei gais, ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr at ei weld yn graddio."