Hanesion Graddio | Joanne yn defnyddio ei phrofiad addysgu i ddilyn ei gyrfa ddelfrydol gyda'r heddlu

25 Gorffennaf, 2022

https://uswfoxtail.blob.core.windows.net/foxtail-prod-uploads/original_images/Joanne_image_grad_tale_1000x600.jpg

Yr wythnos diwethaf, gwelodd Canolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru, yr ICC, yng Nghasnewydd gweld miloedd o'n graddedigion yn croesi'r llwyfan yn eu cap a'u gown. I ddathlu, rydym yn rhannu straeon rhai o'n myfyrwyr ysbrydoledig.

Mae Joanne Lewis, sy’n graddio o Brifysgol De Cymru (PDC), wedi bod yn sôn am ei phenderfyniad i ddilyn ei breuddwydion i fod yn swyddog heddlu ar ôl 15 mlynedd yn gweithio yn y byd addysg.

Roedd Joanne, sy’n 39 oed ac yn dod o’r Rhymni, wedi ystyried ymuno â'r heddlu ar ôl gadael yr ysgol, ond aeth ei bywyd i gyfeiriad gwahanol, a dechreuodd weithio fel cynorthwyydd addysgu i blant ag anghenion addysgol arbennig. Fodd bynnag, flynyddoedd yn ddiweddarach, ar ôl i'w phlant ei hun dyfu i fyny, roedd Joanne yn teimlo ei bod hi’n bryd mynd amdani a newid cyfeiriad ei gyrfa.

"Mae fy mhlant yn oedolion nawr,  ac roeddwn i'n meddwl, wel, nawr neu byth fydd hi", meddai Joanne.

Dechreuodd astudio BSc (Anrh) Plismona Proffesiynol yn PDC ym mis Medi 2019, ac yn ei hail flwyddyn dechreuodd wirfoddoli fel Cwnstabl Gwirfoddol ochr yn ochr â'i hastudiaethau.

"Ymunais â Heddlu Gwent fel Cwnstabl Gwirfoddol i gael gweld sut beth yw plismona mewn gwirionedd, oherwydd mae'n un peth ei weld ar y teledu, neu ddarllen amdano ar bapur, ond mae realiti yn wahanol", meddai Joanne.

Esboniodd Joanne sut roedd ei phrofiad yn yr ystafell ddosbarth yn ei helpu pan oedd hi allan yn plismona yn y gymuned.

"O fy mhrofiad i fel cynorthwyydd addysgu, os ydych chi'n trin pobl â pharch, mae’n fwy tebygol y cewch chi gydweithrediad.  Os ydych yn rhuthro a gorfodi’ch barn ar bobl, byddan nhw’n digio’n syth, a dyna pryd mae sefyllfaoedd yn gwaethygu. Felly, fel Cwnstabl Gwirfoddol, rwy'n defnyddio'r profiad hwnnw, ac yn gwneud yn siŵr fy mod yn siarad â phobl gyda pharch ac yn esbonio pam rwy'n gwneud rhywbeth, hyd yn oed os mai gofyn i bobl symud yn eu blaen ar y stryd ydw i.

"Rwy'n mwynhau plismona mewn cymdogaethau, mynd allan i siarad â'r gymuned, yn enwedig pobl ifanc. Mae'n fater o gael cydbwysedd iawn, fel eu bod nhw’n   gwrando arnoch chi – ac rwy'n credu bod fy nghefndir mewn ysgolion wedi fy helpu gyda hynny."

Roedd y cyfuniad o astudio yn PDC a gwirfoddoli fel Cwnstabl Gwirfoddol, dywed Joanne, yn ffordd effeithiol o ddysgu mwy am y swydd a’r cyfan y byddai'n ei olygu.

"I fi, mae bod yn Gwnstabl Arbennig yn bendant wedi fy helpu gyda fy nhaith drwy’r brifysgol.  Gallwch chi ddefnyddio’r hyn rydych chi'n ei ddysgu yn y brifysgol yn y swydd, a’r hyn ddysgwch chi drwy’r swydd yn y brifysgol.

"Yn PDC, buom yn astudio ystod o fodiwlau – plismona heolydd, plismona cymunedol, y gyfraith, seiberdroseddu, a mwy. Roedd y rhan fwyaf o fy narlithwyr yn gyn-swyddogion heddlu, felly rwy’n credu bod hynny wedi fy helpu'n fawr gan fod ganddynt brofiad personol o’r swydd. Roeddwn i'n hoffi clywed am y sefyllfaoedd bywyd go iawn roedden nhw wedi dod ar eu traws."

Graddiodd Joanne yr wythnos diwethaf gyda gradd anrhydedd dosbarth cyntaf, a bu'n dathlu ar y diwrnod gyda ffrindiau a’r teulu.

"Fi yw'r un cyntaf yn fy nheulu i raddio, felly bydd yn braf cael y llun graddio cyntaf i’w ddangos yn y tŷ!", meddai Joanne. 

"Alla i ddim credu mor gyflym mae tair blynedd wedi mynd heibio – dyw e ddim yn  teimlo'n real!"

Mae hyfforddi ar gyfer gyrfa newydd yn rhywbeth y byddai Joanne yn ei  argymell i bawb. 

"I fi, pan fyddaf, ryw ddiwrnod, ar fy ngwely angau, dydw i i ddim eisiau meddwl: 'Beth os? Beth petawn i ’mond wedi mynd amdani?'"

"Pe bai rhywun yn ystyried newid gyrfa, byddwn i'n dweud wrthyn nhw am fynd amdani a chofleidio’r cyfle, oherwydd o leiaf gallwch chi ddweud, wel, fe wnes i roi cynnig arni! Yn bersonol, dwi heb ddifaru rhoi'r gorau i fy hen swydd a symud i’r cyfeiriad newydd hwn am eiliad."